Merch 14 oed wedi ei thrywanu yn ei gwddf a'i brest - cwest

Cafodd Lilly Jones ei chanfod yn farw fis diwethaf
- Cyhoeddwyd
Bu farw merch 14 oed ar ôl cael ei thrywanu yn ei gwddf a'i brest, mae cwest wedi clywed.
Wrth agor cwest i farwolaeth Lilly Jones, dywedodd y crwner ei bod ar goll ers noson 20 Mehefin.
Clywodd y gwrandawiad ei bod wedi ei darganfod yn farw mewn coedwig ger Clwb Bowlio Blaenau, ym Mlaenau Gwent, ar 22 Mehefin.
Dywedodd Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, mai canlyniad archwiliad post mortem oedd ei bod wedi marw o nifer o anafiadau trywanu.
Yn y gwrandawiad byr yng Nghasnewydd, dywedodd Ms Saunders ei bod hi'n briodol cynnal cwest o ystyried natur drawmatig y farwolaeth, ond fe wnaeth ohirio'r achos wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Fe wnaeth y crwner osod dyddiad dros dro ar gyfer y cwest o 6 Ebrill 2027.
Fe wnaeth bachgen 14 oed ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth Lilly Jones yr wythnos ddiwethaf.
Nid oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd26 Mehefin

- Cyhoeddwyd23 Mehefin
