'Colled enbyd' - Teyrnged teulu wedi marwolaeth gyrrwr ar yr A40

Dywedodd teulu Ashley Wayne Keane eu bod wedi torri eu calonnau yn dilyn ei farwolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 38 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng ei fan a bws yn Sir Gaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A40 rhwng Llandeilo a Nantgaredig brynhawn Gwener, 3 Gorffennaf wedi'r gwrthdrawiad rhwng bws Scania a fan Ford Transit.
Bu farw gyrrwr y fan, Ashley Wayne Keane yn syth wedi'r gwrthdrawiad.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu: "Rydyn ni wedi torri ein calonnau yn dilyn marwolaeth sydyn a thrasig Ashley Wayne Keane.
"Bydd yn ein calonnau am byth, ac rydym fel teulu yn gofyn yn garedig am breifatrwydd i alaru yn dilyn y golled enbyd yma."

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A40 rhwng Llandeilo a Nantgaredig brynhawn Gwener 3 Gorffennaf
Cafodd gyrrwr y bws a theithiwr 14 oed a oedd yn y bws eu cludo i Ysbyty Glangwili fel mesur rhagofalus yn dilyn y gwrthdrawiad.
Mae swyddogion yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A40 adeg y gwrthdrawiad, neu sydd â lluniau dashcam, i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.