Côr Iau ABC yn ennill Côr Plant y Byd yn Eisteddfod Llangollen

Côr Iau ABCFfynhonnell y llun, Côr Iau ABC
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Roedd dathlu mawr ym mhafiliwn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen nos Fercher 8 Gorffennaf, wrth i Gôr Iau ABC ennill teitl Côr Plant y Byd.

Ar ôl ennill categori'r Côr Plant Agored yn gynt yn y dydd, roedd y côr o blant o Gaerdydd a Bro Morgannwg yn gymwys i gystadlu am brif dlws y noson.

Er bod corau plant rhyngwladol hefyd wedi cystadlu yn ystod y dydd - gan gynnwys o'r Unol Daleithiau ac Wcráin - tri chôr o Gymru oedd yn y rownd derfynol, wedi i Ysgol Pen Barras ddod yn fuddugol yng nghategori y Côr Plant Iau, a Heol y March wedi ennill y Côr Plant Hŷn.

TariannauFfynhonnell y llun, Elin Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Tarian Côr Plant y Byd, y tlws am yr Arweinydd Mwyaf Ysbrydoledig y Corau Plant i Elin Llwyd a'r tarian am ennill y categori Côr Plant Agored

Wedi mynd yno am y profiad o ganu ar lwyfan ryngwladol oedd y côr, eglurai'r arweinydd Elin Llwyd, felly mae dod adref gyda dau dlws yn arbennig iawn i'r plant.

"O'dden nhw hollol wrth eu boddau. O'n i wedi eu paratoi nhw i beidio â disgwyl unrhywbeth, achos mae dod yn 4ydd, 5ed, 6ed yn Llangollen yn wych.

"Do'n i ddim ishe iddyn nhw deimlo bod rhaid iddyn nhw fynd i ennill – o'n i jest ishe iddyn nhw fynd i berfformio ar eu gorau a dangos ABC ar eu gorau. Yn rhyfeddol, roedd e wedi talu ar ei ganfed.

"O'dd e mor annisgwyl – o'dd ennill y categori yn un peth, wedyn i ennill Côr y Byd..."

Elin Llwyd yn codi tarianFfynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Elin Llwyd yn codi tarian Côr Plant y Byd

Oherwydd "safon anhygoel" y corau oedd yn eu herbyn, doedd Elin ddim wedi disgwyl y byddai'n rhaid aros ar faes yr Eisteddfod er mwyn canu eto.

Felly ar ôl y canlyniad cyntaf, roedd llawer o ruthro o gwmpas y lle, meddai, wrth iddi "geisio corlannu 100 o blant a rhieni" a sicrhau fod y pedwar bws a oedd wedi eu cludo i'r gogledd yn fodlon aros amdanyn nhw!

"Erbyn i ni ganu, oedd hi'n 8.30pm neu'n hwyrach, ac oedden ni wedi gadael ers 7am, felly o'n i'n gweld eu bod nhw wedi dechrau blino, ac o'n i'n meddwl fod y canolbwyntio am fynd.

"'Nes i jest ddweud wrthyn nhw ei fod e'n gyfle arall i berfformio eto a joio bod ar y llwyfan, a chael eu rhieni i'w gweld nhw eto.

"Ond bydd 'na blant blinedig iawn yn ysgolion Caerdydd a'r Fro heddiw!"

Côr Iau ABCFfynhonnell y llun, Côr Iau ABC

Cafodd yr academïau perfformio ABC yn ardal Caerdydd a'r Fro eu sefydlu yn 2014.

Roedd Côr Hŷn a Chôr Iau ABC yn cystadlu'n erbyn ei gilydd yn Llangollen eleni. Ethos yr academïau yw i roi profiadau perfformio gwahanol i'r plant mae hi'n eu hyfforddi, eglurai Elin.

"O'n i eisiau mynd â nhw i blatfform rhyngwladol, iddyn nhw gael gweld y gorau o'r byd sy'n teithio i Langollen yn flynyddol.

"O'n i'n gobeithio y byddai hwnna'n brofiad fyddai'n aros gyda nhw. Fues i'n cystadlu yn Llangollen o oedran ifanc. O'n i'n gobeithio rhoi'r un ysbrydoliaeth iddyn nhw â ges i wrth ymweld â Llangollen, achos mae e'n llwyfan ac yn ddigwyddiad mor unigryw, anhygoel a lliwgar.

"Ac i gael beirniaid rhyngwladol hefyd; ni gyd yn gwybod beth yw gwerth hynny."

OsianFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Osian wrth ei fodd gyda'r canlyniadau!

Un o'r plant a oedd yn y côr buddugol oedd Osian o Gaerdydd. Eglurai ei fam, Casi, ei bod hi wedi bod yn ddiwrnod hir a phoeth iddyn nhw i gyd, ond yn ddiwrnod bythgofiadwy i'r plant... a'r rhieni.

"Canodd y ddau gôr yn rili da, ac roedd hi'n sioc enfawr pan glywon ni fod y rhai bach wedi ennill. Roedd hi'n ddiwrnod hir, ond 'naethon nhw'n hollol anhygoel.

"Wedyn ennill Côr y Byd; y plant bach mor excited ac Elin mor shocked!"

Ynghyd â thariannau y Côr Plant Agored a Chôr Plant y Byd, roedd Elin Llwyd hefyd yn mynd â thlws Arweinydd Mwyaf Ysbrydoledig y Corau Plant yn ôl adref gyda hi, sy'n gwbl haeddiannol, meddai Casi.

"Mae beth mae hi wedi ei wneud gyda'r plant bach 'ma yn hollol wych. Cant o blant o dan 11, gyda'r 'fenga' yn saith oed, ddim yn tynnu eu llygaid oddi wrthi; pob nodyn yn berffaith, pob symudiad yn berffaith. O'dd e'n ffantastig!

"O'dd e'n rili emosiynol i fi, achos pan o'n i tua'r un oedran, 'nes i ennill yn Llangollen gyda chôr Ysgol Gerdd Ceredigion, felly 'nes i lefen lot ddoe!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.