Cwnsela wedi helpu telynor i 'ffeindio'i ffordd allan o niwl galar'

Fe gollodd Robin Huw Bowen ei bartner Pat yn Nhachwedd 2022
- Cyhoeddwyd
"Mae pob math o deimladau yn llenwi'r meddwl. Tristwch. Ofn. Dicter. Ac wrth gwrs euogrwydd. 'Beth wnes i'n wrong? Beth allwn i fod wedi gwneud yn well? Beth ddyliwn i fod wedi gwneud?'"
Dyna eiriau Robin Huw Bowen wrth iddo ddisgrifio'r teimlad o alaru ar ôl iddo golli ei bartner Pat Donovan yn 2022. Ro'n nhw wedi bod gyda'i gilydd am 46 o flynyddoedd ar ôl cwrdd yn y brifysgol.
Mae Robin yn delynor proffesiynol sydd wedi canu'r delyn deires mewn cyngherddau ar draws y byd. Roedd Pat yn gyd-olygydd Geiriadur Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.
Bu farw Pat yn sydyn ym mis Tachwedd 2022 ar ôl brwydr annisgwyl gyda chansyr.
Cafodd Robin gymorth gan HAHAV – elusen o Geredigion sy'n cynnig nifer o wasanaethau gan gynnwys cwnsela galar.
Mae'r elusen newydd ailagor eu pencadlys ym Mhenparcau ar ôl gwaith gwerth £800,000.

Pat a Robin yn yr ysbyty yn ystod y seremoni partneriaeth sifil a drefnwyd ar frys ychydig ddyddiau cyn i Pat farw
Yn nyddiau olaf Pat, fe drefnon nhw seremoni partneriaeth sifil ar frys er mwyn cadarnhau eu hundod.
Ar ôl marwolaeth Pat, dywedodd Robin fod y galar yn gwneud iddo deimlo fel pe bai "ar blaned arall a pethau'n digwydd o nghwmpas i".
Yn ôl Robin fe wnaeth y cwnsela ei helpu "i roi rhyw fath o drefn, i drio ffeindio ffordd allan o'r niwl. Sgwrsio oedd yn arwain at ddallt y camau i godi allan o'r peth…a cario ymlaen".

Fe wnaeth Robin gwrdd â Pat pan oedd y ddau yn y brifysgol yn Aberystwyth - fe fuon nhw gyda'i gilydd am 46 o flynyddoedd
Tra bod Pat yn sâl, roedd mam Robin – oedd yn ei 90au - hefyd angen gofal. Roedd Robin wedi bod yn edrych ar ei hôl hi gyda help Pat ers sawl blwyddyn.
"Roedd y ddau ohonon ni yn gwneud cymaint drosti," meddai Robin, "ei chynnwys hi, ei diddanu hi, ei bwydo hi, yn gwneud pob math o bethau. Wel o'n i'n gwneud hynny ar ben fy hun wedyn, ac o'n i jyst yn teimlo'n gaeth."
Cysylltodd gyda HAHAV ar ôl gweld taflen yn hysbysebu'r elusen yn Aberystwyth. Cafodd sesiynau cwnsela dros gyfnod o fisoedd a dywedodd fod y siarad wedi bod yn help ymarferol.
"Mi fyddai'r cwnselydd weithiau yn awgrymu pethau 'Wel triwch hyn', ac roedd hynna ynddo ei hun jyst yn ddigon, i geisio edrych ar bethau o safbwynt wahanol. Hefyd (roedd yn help) cael 'bwrw bol' os liciwch chi, a chael rhywun yn gwrando, rhywun sympathetic, oedd yn dallt yr hyn o'n i'n ddweud."

Roedd Pat a Robin wedi bod yn edrych ar ôl mam Robin ers blynyddoedd gyda'i gilydd - roedd mam Robin yn ei nawdegau ac angen gofal pan fu farw Pat
Hefyd, roedd cael cwnselydd oedd yn siarad Cymraeg yn bwysig i Robin – "Cymraeg oedd iaith Pat a fi erioed i bob pwrpas. Er ein bod ni'n gweiddi ar ein gilydd yn Saesneg weithiau!
"A ddim jyst 'y geiriau' dwi'n ei olygu. Roedd pob agwedd ar Gymreictod yn bwysig yn y broses, y meddylfryd, y cefndir, profiad cymdeithasol, diwylliant. Roedd yn bwysig iawn, iawn cael gwneud yn Gymraeg, felly."

Pencadlys elusen HAHAV ym Mhenparcau ger Aberystwyth - mewn adeilad oedd yn arfer bod yn westy
Cafodd elusen HAHAV ei ffurfio yn Aberystwyth 2015 i ddarparu cymorth ymarferol, gofal cymdeithasol a chwmnïaeth i bobl yng Ngheredigion sydd â salwch cronig sy'n cyfyngu ar eu bywyd.
Yn wreiddiol, darparu gwasanaeth hosbis yng nghartrefi pobl oedd y prif waith, ond erbyn hyn mae gwasanaethau HAHAV wedi tyfu i gynnwys grwpiau cymorth, sesiynau creadigol a therapi.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r elusen wedi gweld cynnydd yn y galw am y gwasanaeth cwnsela galar – yn 2023-24 roedd 114 o bobl wedi cael cyfres o sesiynau cwnsela.
Roedd y nifer wedi cynyddu i 140 yn 2025-26, ac mae'n ymddangos bod cynnydd pellach yn y flwyddyn ariannol bresennol.

"Mae'n oce i ofyn am gymorth, mae'n oce i siarad am hyn," medd Eluned Rowlands, cydlynydd gwasanaeth galar elusen HAHAV
Dywedodd Eluned Rowlands, cydlynydd y gwasanaeth galar, fod y cynnydd yn adlewyrchu newid agwedd tuag at siarad am alaru.
"Mae'n oce i ofyn am gymorth, mae'n oce i ofyn am help proffesiynol. Mae'n oce i siarad ynglŷn â hyn, ym mhob cenhedlaeth. Ni'n gweithio gyda pobl o 18 i fyny a ni wedi cael pob oedran, a dwi'n meddwl bod mwy o ddealltwriaeth nawr. Dyw e ddim mor gudd nawr i siarad am alar.
"Mae colli rhywun yn digwydd i bob un. Dyna un o'r pethau ni gyd yn mynd i, neu wedi mynd trwyddo, yw colled."
Yn ddiweddar fe ailagorodd yr elusen ei phencadlys yn Aberystwyth ar ôl gwaith adnewyddu mawr gwerth £800,000.
I ariannu'r prosiect cafodd HAHAV grantiau gan y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Moondance, Ymddiriedolaeth Garfield Weston a SPF y DU.
Y bwriad yw dechrau peilot ar gyfer gwasanaeth hosbis dydd yn y pencadlys yn yr hydref.
Elusen yng Ngheredigion 'mor ddibynnol ar roddion wrth i gostau ddyblu'
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2024
Mwy o alw am wasanaeth hosbis cartref yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2024
Mae gan HAHAV dros 100 o wirfoddolwyr, ond mae lle ar gyfer mwy i ymuno â'r elusen er mwyn cynnig mwy o gefnogaeth i bobl Ceredigion.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr HAHAV, fod gan yr elusen dîm bach o staff a bod y llwyddiant yn ddibynnol ar wirfoddolwyr.
"Gwirfoddolwyr ydy calon HAHAV – mae 'na dros gant ohonyn nhw ar draws ystod o weithgareddau, ac mae hynny'n cynyddu drwy'r amser.
"Mae'r angen yn anferth – Ceredigion ydy'r unig sir yng Nghymru heb wasanaeth hosbis cydnabyddedig. Felly mi ddechreuodd hwn yn fychan iawn ac mae o wedi tyfu am fod yr angen yn fawr, ac erbyn hyn 'da ni'n ceisio gwasanaethu Ceredigion gyfan."

"Mae siarad yn sicr yn helpu" meddai Robin Huw Bowen
Roedd y gwasanaeth cwnsela galar yn sicr wedi helpu Robin Huw Bowen sydd, meddai, yn dod o gefndir a diwylliant lle nad oedd gofyn am help gan gwnselydd yn rhywbeth naturiol.
"Teulu Cymraeg, Presbyteraidd o ogledd Cymru – teulu o gyfnod ar ôl y rhyfel pan oedd pobl wedi gorfod dygnu arni a bwrw 'mlaen. Ond dyw pawb ddim yn medru 'côpio' fel yna.
"Dwi yn meddwl bod hi'n beth da cael yr help yma. Hyd yn oed os gwnewch yn gyfrinachol – dyw hi ddim i fod yn agored i bawb ei drafod. Sortiwch eich hunain allan gystal ag y medrwch.
"Ond os 'da chi'n dal i foddi, gweiddwch am rywun i daflu lifebelt i chi. Mae siarad yn sicr yn helpu."