Cyhuddo dyn yng Nghaerdydd o lofruddiaeth yn Llundain

Cafodd Awap Halouf, dyn o Lundain, ei arestio yng Nghaerdydd nos Sul, meddai Heddlu'r Met
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 21 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ar ôl i ddyn 22 oed gael ei drywanu i farwolaeth yng ngorllewin Llundain, meddai'r heddlu.
Cafodd Awap Halouf, dyn o Lundain, ei arestio yng Nghaerdydd nos Sul cyn ei gyhuddo'n ddiweddarach o lofruddiaeth a bod â llafn yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus, meddai Heddlu'r Met.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 01:47 fore Mawrth 30 Mehefin yn dilyn adroddiadau am drywanu yn Hounslow, gorllewin Llundain.
Pan gafon nhw a'r gwasanaeth ambiwlans o hyd i Haruun Hassan roedd wedi dioddef anafiadau difrifol, meddai'r heddlu.
Cafodd ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon.
Ers hynny mae Mr Halouf wedi cael ei gadw'n y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Wimbledon ddydd Mawrth.
Cafodd menyw 21 oed ei harestio yng Nghaerdydd hefyd ddydd Sul, ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau pellach barhau.
Mae teulu Mr Haruun yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.