Main content

Talwrn Tafwyl - Yr Adar Gleision v Yr Elyrch

1 Pennill bachog (rhwng 4 ac 8 llinell): Tsiant yn datgan cefnogaeth neu wrthwynebiad

Adar Gleision
Am dechnoleg... rhaid clegar!
O’n teras rhaid herio’r peth anwar,
fe lefwn yn aflafar:
YCH A FI YW’CH V.A.R.
YCH A FI YW’CH V.A.R. ...!

Aron Pritchard 8.5

Elyrch
Rwy'n Sgotyn am fis, yn Joc o Ddymffris
mae gen i lun Lulu, yn sownd ar fy nghrys.

Daw Cwpan y Byd yn ôl i 'Strad Clud,
c'mon yr Hen Ogledd ni yma o hyd.

Non Lewis 8

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ap’

Adar Gleision
Mae Tafwyl yn fwy hwylus
efo ap ar flaen dy fys.

Manon Wynn Davies 9

Elyrch
Mae yna ap am wn i
i idiots greu cwpledi.

Aled Evans

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi glywais rhyw sgrechen aflafar’

Adar Gleision
Mi glywais ryw sgrechian aflafar
yn dyfod o Dafwyl, o’r Selar.
Do, mwrdrwyd y Meuryn
ar gownt pennill telyn.
Mae’r Graig erbyn hyn yn y carchar.

Manon Wynn Davies 8.5

Elyrch
Mi glywais ryw sgrechen aflafar
gan ddau o’m cymdogion cwerylgar,
ond falle mai mwythau
achosai’r oernadau
oherwydd mae’r ddau nawr yn bedwar.

Elin Meek 8.5

4 Cywydd ysgafn i unrhyw arwr neu arwres

Adar Gleision
Bartley (Mascot Cardiff City, aderyn glas)

Criw a fyn eu deryn da
yw tylwyth Ayatollah,
yn ein mysg, ti yw’n masgot
clou dy gam, un cŵl dy got
sy’n ddawnus, yna’n ddoniol,
yr un gwyllt pan sgoriwn gôl!
I’r cae hwn, codwr canu
abal wyt, yn llond dy blu
wrth gymell tsiant y Canton
heibio’r rhwyd, a ger ein bron
y mae dawns i dîm y dydd,
ei reolwr a’i eilydd!
Os dywedwst yw’r stadiwm
wedi’r wae o golli’n drwm,
waeth am hynny, Bartley bach,
ceir hefyd floeddio cryfach
o gael help ein cyfaill glas
i danio clwb ein dinas.

Aron Pritchard 9

Elyrch
Yoda

Mae’r corrach bach mwya’n bod
O dan yr wyneb dinod;
Un croenwyrdd wedi crino,
Ei drem a’i frawddeg ar dro,
Henwr cloff ag osgo’r claf
Yn twyllo’r Sith tywyllaf.
Un a wnaed o ddinodedd
Ydyw’r Jedi glewa’i gledd;
Ysgolhaig y sgiliau hŷn,
Y meudwy, llawn grym wedyn,
A rhag un drwg yn y drin,
Ei feddwl yw ei fyddin.
Am ddoethineb y rebel
Bydd chwedlau am oesau’n hel;
Bydd cytser a sêr yn sôn
Am arwr mwy na’r mawrion
Yn dwrdio camawdurdod,
Am un bach… i minnau’n bod.

Emyr Davies 9.5

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell: ‘Anodd iawn yw dweud yn union’

Adar Gleision
Anodd iawn yw dweud yn union
pam mai gwych yw tref Caernarfon.
’Falla’n syml gan ei bod-hi’n
eithaf pell o Aberteifi.

Rhys Iorwerth 9

Elyrch
Anodd iawn yw dweud yn union,
Llio, Efa, Rhys a Manon
pryd yn gwmws fu'r tro ola
ichi wneud yr Ayatollah.

Aled Evans 9.5

6 Cân ysgafn: Parodi ar ‘Ysbryd y Nos’

Adar Gleision

Pan ddaw’r tasgau draw gan Ceri
Dim ond un dasg sy’n rili sgeri.
Nid sgwennu y limrigau
Na chwysu dros gywyddau.
Cystadlu’n erbyn Huw Chiz.

Y fi sy’n cael y dasg cân ysgafn
Mae’n gwneud fi deimlo’n reit benysgafn.
Mi wn i pwy fydd yno
Yn barod i fy nghuro.
Ie, neb ond Huw Chiz.

Ysbryd Huw Chiz, tyrd drwyddo fi,
Rho i mi lais sydd fatha ti.
Rho i mi acen Baglan Bay
Gad mi ganu’n gryf – “I be”

Does gen i ddim gitâr na phiano
Na phump CD, na ffans i glapio.
Dwi heb fod ar y teli,
Nac ennill Cân i Gymru
Ond dwi yn erbyn Huw Chiz.

Ysbryd Huw Chiz, Dere Nawr
Er mwyn cystadlu yn erbyn cawr.
Heb dy gefnogaeth, bydd Rhywbeth o’i Le
Gad mi ganu’n gryf – “I be”

Ysbryd Huw Chiz, Rho Un i Mi
Ysbryd Huw Chiz, dwi’th angen di
Ysbryd Huw Chiz, ar fy llw,
Ysbryd Huw Chiz, bw-bwgi-bw.

Ac yna’n sydyn ac yn dawel,
Wi’n ffindo’n acen Abertawe
Wi’n timlo o fy mreichie
A reit i lawr i nghoese
Mae Ysbryd Huw Chiz

Ysbryd Huw Chiz, shwd mae’r hen ffrind
Mae’n braf dy deimlo ynof fel hyn.
Nawr yn fy acen Baglan Bay,
Gad mi ganu’n gryf – “I be”

(cytgan o Rhywbeth o’i le i orffen)

Llio Maddocks 10

Elyrch

Ysbryd Caerdydd

Feuryn un peth sy’n fy mhoeni
Ma’r tîm Caerdydd ‘ma bach yn doji
Ma nhw yma’n byw mewn gwladfa
Wa’th nhw fod ym Mhatagonia
‘Sdim ysbryd Caerdydd

Ysbryd Caerdydd mae e’ lawr yn Splott
Nid ym Mhontcanna
Er wy’n hoffi nhw lot!
Lan yn Eley
Nid Y Grange
Ma’r tîm Caerdydd ‘ma bach yn - fel ma nhw’n gweud yn Fairwater - ‘strange’

Ysbryd Caerdydd yw’r âff ‘n âff
Groes o gyswllt?
Chi’n afin y lâff
Ysbryd Caerdydd yw Tiger Bay
Hir a thoddaid?
Falle’r Halfway

O Feuryn gawr dyw’r Adar Glas
Ddim mwy na’r gwcw
Bluebirds mai-mae’n bur anhebygol Feuryn
Ni’n caru’u cerddi
Edmygedd pur
Ond Feuryn ‘dyw hi’n glir
Mewn Alarch rho dy ffydd
Dyw’r tîm ‘co ddim yn wir Gaerdydd
Ond’ni’n caru chi Caerdydd

Huw Chiswell 9.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Yn y ciw i fynd i'r cae

Adar Gleision

Yn y ciw i fynd i'r cae
Y Meuryn fu am oriau

Aron Pritchard 0.5

Elyrch

Yn Tafwyl rwyf ar wyliau
Yn y ciw i fynd i'r cae

Emyr Davies 0.5

8 Cerdd (heb fod dros 18 llinell): Aderyn

Adar Gleision

(Cyfnewid plu alarch gwyn Abertawe am rai adar glas Caerdydd)
Collais y bluen gynta yn bedair ar ddeg.
Chwyrliodd heibio’r stondin gocos
tu fas i Woolworth,
tra mod i’n dewis dillad mynd mas yn New Look.
Hedfanodd yr ail o gwmpas tŵr y Tab
pan oeddwn i yn y Cŵps
â’r tai teras ymhell.
Diflannodd mwy wrth golli hen anti Beti
a’r derots yn ei cholfen.
Brynhawn dy angladd, Mam,
â Viognier yn fy llaw,
sylwais nad oedd yr un ar ôl.
Y rhai gwyn wedi hen droi yn las gan olud y siopau swanc a’r coffis drud.
Ond yno roedd cymdogaeth,
cyfeillgarwch a chwmnïaeth yn blu
cynnes o’m cwmpas.
Plu yw plu.

Efa Gruffudd Jones 10

Elyrch
Bengwin bach glas,

dest o wyll y môr

yn dawel i draeth Oamaru y noson honno,
a’r sêr anghyfarwydd
yn goleuo fesul un.

Ro’n i yn un o’r haid
arhosai amdanat,
ein ffonau wedi’u codi fel yr ‘untroed oediog’
i dynnu Y Llun i ddiffinio’r gwyliau.

Yn dy ddryswch,
baglaist rhwng y cerrig mawr
a syrthio’n ôl wrth godi’n lletchwith
i geisio cyrraedd clydwch dy nyth.

Ond doedd dim hawl i’th helpu,
felly trois fy nghefn a mynd, iti gael llonydd.

Roedd dy lun yn saff ar fy ffôn.

Elin Meek 9.5

9 Englyn cywaith ar y pryd – Seler /Selar

Adar Gleision

Yn dwrw’n y dyfnderoedd – yn fan hyn
Yfwn iaith o’r silffoedd
Ac yn chwil yn ein miloedd
I gae gŵyl, fe awn ar goedd

Rhys Iorwerth 9.5

Elyrch

Mi awn drwy’r brics a’r meini, yn y dwst
Er mwyn dweud ein cerddi:
Ein talwrn yw’r poteli
A’r gân hon yw’r gwin i ni

Emyr Davies 9.5