Main content

Cerddi Rownd Derfynol 2026

1 Pennill bachog (rhwng 4 ac 8 llinell): Cyfarwyddiadau wrth bacio

Dros yr Aber

Rŵan, ty’d... Rho un tedi yn y cês.
Yli’r coed yn llosgi.
Ac yn waeth, fy machgen i,
mae’n bythol, bythol boethi.

Rhys Iorwerth 10

Tir Iarll

Der â nhw ’da’r newidieth: pob wes wes,
Der yn wew didoreth;
Der â whant i drio, weth,
Hyd y feidir, dafodieth.

Aneirin Karadog 9.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw bentref yn nalgylch y Steddfod

Dros yr Aber
O ddifrif, Pentre Ifan:
be sy’n dala honna lan?

Carwyn Eckley 9

Tir Iarll
“A wes whant dod i Lantwd?”
“Sorry? What?! Don’t be so rude!”

Aneirin Karadog 9



3 Limrig yn cychwyn gyda’r geiriau ‘ Mae si ar y maes...’

Dros yr Aber
Mae si ar y maes fod Sioe Cyw
’di chanslo. Os brifo i'r byw
y bydd ein holl blant
heb gwmni Ben Dant,
fel rhiant dwi’n diolch i dduw.

Rhys Iorwerth 8.5

Tir Iarll
Mae si ar y maes fod Cwm Betws
Yn berchen ar gerrig enormws;
Mae’r de ac mae’r gogledd
Yn fud wrth eu mawredd
A’r orsedd i gyd yn ddiwetws.

Emyr Davies 8.5



4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Meini neu Maen

Dros yr Aber
(Er cof am Robin Evans, Madryn, Lôn Ddewi, fy nghymydog a ffrind)

Be yw’r haf a hwnnw’n brin
o rywbeth? Mae’n wag, Robin,
yn ddiarth ar Lôn Ddewi,
yn od iawn am na ddoi di
at y lawnt i ddweud helô.
O Fadryn, er hyn, heno
daw miwsig drwy gerrig gwyn.
Daw’r wên gadarn. Ac wedyn,
hyd y dre, tros bafin stryd,
ar fur fe ddaw o’r Foryd
dy heulwen-môr o stori.
Dyna’r haf, mi fentraf i.

Rhys Iorwerth 10

Tir Iarll

Y Tri Maen Trai
Sef tair craig mas yn y môr yn Pwllderi sy’n dod i’r golwg yn eu tro pan fo’r llanw’n treio. Er cof am Wncwl Jac, Roy a Gerwyn.

O don i don y daw’r dydd
i droi’r ewyn ar drywydd
y tir aur; mae’n chwilio’r traeth
i roi’i hun i weriniaeth
eiliad gul gwlad y golau,
rhoddi’i hun nes ymryddhau
o’i drafels; yna’r drefen
yw troi ’nôl ’da’r patrwn hen,
troi am hen linell bellach
na phell-bell, a dan bwyll bach,
yn hwyrnos ola’r siwrnai,
troi i weld y tri maen trai.

Mererid Hopwood 10

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Da o beth o hyd yw gofyn’

Dros yr Aber
Cyn cael snog yng nghefn Maes B,
hola enw’r ddwy fam-gu.
Da o beth o hyd yw gofyn
jest rhag ofn eich bod chi’n perthyn.

Iwan Rhys 9

Tir Iarll
Da o beth o hyd yw gofyn
Beth yw tipple gorau'r Meuryn?
Peint yw cynnig Dros yr Aber
Ninnau'n cynnig peint a hanner.

Tudur Dylan Jones 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Yr Aduniad

Dros yr Aber

Criw’r ysgol sy’n aduno, ac mae’r dafarn dan ei sang.
Mae’n chwarter canrif union ers i mi weld y gang.
Ni ches i wadd i’r parti – doedd neb yn fy hoffi i.
Ond yma rwyf beth bynnag, ac felly dyna ni.
O edrych o fy nghwmpas, ’dyw rhai heb newid dim.
Y blynyddoedd a aeth heibio i eraill yn... llai chwim.
’Co Wyn a Wil, ’refeilliaid – mae’r naill, er bod ni all,
yn edrych o ran oedran fel ’tae yn dad i’r llall.
Mae Sara Swil ers oriau yn siarad fel pwll y môr.
Fe ddaeth hi mas o’i chragen, ond iyffach mae hi’n bôr.
Mae Bili Bola’n denau a Rici Raca’n dew.
Y bechgyn sydd ’di moeli. Gan y merched fwy o flew.
Mae un yn taflu dartiau – crwt fu yn fardd ryw dro.
Dau hobi digon diflas. Pawb at y peth y bo.
Mae Dewi Drwg yn filiwnêr, arbenigwr mewn AI.
Fe ddaeth yn bell o fwyta y creons yn clas clai.
Mae Steven Stud yn salw, Siw Swot sydd mas o waith,
a Mihangel Gwyn ap Rhydderch sydd wedi colli’r iaith.
Does neb i weld ’di sylwi mai fi sydd yn fan hyn,
cyn-Brifathro’r ysgol yn farman yn Llew Gwyn.

Iwan Rhys 10

Tir Iarll
'Mi redais i allan o betrol,
ger layby i swingars profiadol
Y rhai mwyaf clên
oedd Gwilym a Jane,
sy’n ffrynt ’Babell Lên, yn arferol.'
Rhys Iorwerth

Rhyw air o esboniad ar ran Gwilym a Jên
a ddaeth eto leni i ffrynt Babell Len

ar gyfer aduniad eu 'cyfeillion' i gyd,
llond pabell ohonoch efo'ch gilydd run pryd.

A dwi'n gwybod y byddech chi oll yn bereft
pe na chaech gyfarfod i ymarfer eich crefft.

Dwi'n falch o weld Del. Mae'n aelod mor driw,
Ac Idris ac Elsie, y ffyddlonaf o'r criw.

Mae Iona yno'n eiddgar, mae wastad yn drysd,
ond am ei gwr, Eifion , dydy o ddim mor ffysd.

Mi ddysgodd Rhys Iorwerth berfformio'n llawn nwyd
ar foreau dydd Sul yn rwm ffrynt Nia Clwyd.

Dy'n nhw'm yma i'r Talwrn, ond aros mae'r llwyth
am eu sbot ar y llwyfan rhyw doc wedi wyth.

Ond at yr esboniad ar ran Gwilym a Jên...
roedd typo gan Rhys yn y gerdd gododd wên.

Dim 'swingers' ond 'singers' oedd 'di feddwl ei ddeud,
cantorion diniwed, ond mae'r drwg wedi'i neud?

A da i Rhys Iorwerth, yn ffrynt Babell Lên
fyddai dweud y gair sori wrth Gwilym a Jên.

Tudur Dylan Jones 10


7 Ateb llinell ar y pryd – Fin haf y mae’r borfa’n wyn

Dros yr Aber

Daeth syched, daeth tân wedyn
Fin haf y mae’r borfa’n wyn

Carwyn Eckley 0.5

Tir Iarll

Fin haf y mae’r borfa’n wyn
Hiraeth am lamp y Meuryn

Emyr Davies 0.5


8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Golygu

Dros yr Aber
Anfon llythyr at ffrind sy’n cael gofal diwedd oes

Heno, dwi’n cnoi’r blynyddoedd ar ben beiro
ond cyn i’r inc iro’r papur gwag,
mae’r geiriau wedi crino yn fy ngheg.
Mae’r cloc yn tician.
Sut mae clustogi prognosis,
atal ystrydebau rhag lledu,
lapio diolch mewn paragraffau?
A sut mae dweud y pethau iawn?
Rhaid trio.
Uwch y ddesg, dwi’n gadael i deimladau
ddenig dros y marjins,
gadael brawddegau heb eu mireinio,
gadael i atalnodau anadlu’n herciog,
gadael un gair olaf
gan wybod na fydda i’n gadael fynd.

Marged Tudur 10

Tir Iarll

Edrychais arno am oriau,
y llun o wyliau’r haf,
nes gweld y gwir diamau
yn lens yr heulwen braf,
a thywallt ffrwd o ddagrau blin
dros wyneb hyll arwyneb sgrin.

Cywirais bob manylyn
o ’nghorff a ’ngwallt a ’ngwên
a thrwsio pob brycheuyn
o ’nghoesau hyd fy ’ngên,
ac wrth ddiddymu gwallau’r llun,
dileu, drwy hynny, fi fy hun.

A phan fydd siâp mwy hynod
drwy’r sgwâr yn syllu ’nôl,
a finnau’n ddim ond cysgod
o’r ddelw sydd ar ôl,
at Instagram a Snapchat af
i rannu’r llun, yn hapus braf.

Gwynfor Dafydd 10

9 Englyn cywaith ar y pryd – Richard a Wyn - Fflach

Dros yr Aber

Os yw Wyn yn absennol yn yr – yn yr ŵyl
Fel Rich, bydd, yn waddol,
Eco’r rhain au roc a rôl,
yn eu bro yn barhaol

Carwyn Eckley yn darllen 10

Tir Iarll

Deuawd nadw y’w ddistawach – yw dau frawd
Y fro hon, mae llinach
Mwy ynom yn gord mwynach
Ffiol lawn yw gwaddol Fflach

Emyr Davies yn darllen 10