Main content

Cerddi'r Rownd Chwarterol Talwrn 2026

Pennill bachog yn mynegi dryswch

Twtil

Am i mi ddrysu

hedegog a hedgehog

bellach mae gen i

ddraenog adeiniog

Iestyn Tyne 8.5

Llewod Cochion

Nid fy mod i

ar fin drysu,

ond...

lle ddiawl

mae fy specs i?

Alun Cefne 8

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘tâl’

Twtil

Mae’r tâl am wneud y Talwrn

yn fach am rhywbeth sy’n fwrn.

Steffan Phillips 8.5

Llewod Cochion

Er tila’r tâl o’r Talwrn,

I feirdd nid yw tlodi’n fwrn.

Alun Cefne 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi wnes i fy ngorau i guddio’

Twtil

Un noson wrth imi fynd heibio

i gefn y Llew Coch, pwy oedd yno

ond beirdd anioddefol

y tîm talwrn lleol …

mi wnes i fy ngorau i guddio.

Iestyn Tyne 8

Llewod Cochion

Â’r Tystion Jehofa ‘di landio,

Mi wnes i fy ngorau i guddio;

Er bod prinder o aer

Yn y cwpwrdd dan staer,

Roedd methu anadlu yn werth-o.

Arwyn Groe 8.5

Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘i wlad llaeth a mêl daw llwythau milain’

Twtil

Fflotila Sumud

“Fel haid o bryfed yn diasbedain,

i wlad llaeth a mêl daw llwythau milain

â bwyd, bechod, yn eu badau bychain;

ond daliwn mewn cof, er eu wylofain,

mai di-rym o hyd yw’r rhain – rhaid cadw

i ymledu’n enw mamwlad i’n hunain.”

Steffan Phillips 9.5

Llewod Cochion

I wlad llaeth a mêl, daw llwythau milain

A malu’r ifanc fel milwyr Rhufain.

A fel pob rhyfel, bydd cyrff yn gelain,

Aneiri’r meirw drwy’r erwau mirain.

Yn fy mro pob haf mae’r rhain – a phob cloch

Yn neis o groch tra bo neb yn sgrechain.

Arwyn Groe 9

Pennill ymson gwiwer

Twtil

Fel gwiwer sydd yn sboncio

drwy’r coed, mae gen i gyts;

ond barddoni ar y radio?

Mae hynny jyst yn … nyts.

Iestyn Tyne 8

Llewod Cochion

Mae'n wir bod gan bawb ei deimlade

ac fe'm brifwyd i'r byw, rwy'n groendene,

clywais y gath [nad wyf yn ei hoffi]

yn fy ngalw’n “rat gyda chynffon fflyffi”..

Pryderi Jones 8

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cwpan y Byd

Twtil

Croeso, gynulleidfa, i rownd gynta’r ornest hon,

A dau’n gobeithio heddiw ennill gwobr newydd sbon.

Y fi: track record drwg ar ddêts – o leia dwi’n ddel … ish,

A fo: ei broffil Tinder ydi’i lun o yn dal fish.

Mae’r cwrw’n llifo yn y Spoons wrth gwrdd ar ganol cae,

Dwi’n wên i gyd – cyn iddo agor ceg a phigo ffrae …

Cerdyn melyn iddo fo am mansplain-io’r offside rule,

Trosedd arall, ac mi fydda i’n dangos cerdyn coch i’r ffŵl.

Dwi’n ystyried holi’r gweinydd am gael eilydd yn fy sêt,

Ond mae’r transfer window wedi cau – dwi’n styc ’ma ar y dêt.

Wrth i’r dafarn lenwi efo sŵn fy chwerthin ffug,

Mae o’n trio ’nghomplimentio: “Waw, ti allan o fy league”.

Cic o’r smotyn! Yn anffodus, mae o’n methu’r rhwyd

A ’ngôl i nawr yw gorffen yn reit ffast fy mheint a ’mwyd.

“Hoffech rannu’r bil yn ddau neu dalu fel un pâr?”

Ar ôl drysu efo’r maths, mae’n gorfod holi’r VAR.

Amser ychwanegol, ac mae’r hunllef bron ar ben,

Dwi’n llwyddo dianc gyda dim ond sws ar dop fy mhen.

Mae’r ymgyrch drosodd, am y tro. I’r chat, dwi’n anfon showt:

“Iawn gens? Sa rhywun ffansi dod i’r cae am kick about?”

Tegwen Bruce-Deans 8.5

Llewod Cochion

Ar bêl droed a rygbi gosododd Duw’r jincs’

daeth gorchymyn gan Rhun - “trowch at ddidiliwincs”.

Mewn gemau ail gyfle draw yn Azerbaijan

fe drechodd ein bois dîm o ynys Taiwan,

(ddim dyna’n anffodus eu trychineb ola’-

ar ôl myned adre fe’u infȇdiwyd gan Tseina.)

Archebodd Rhys Iorwerth a Lovgreen eu pecyn

i’r gemau terfynol yn Abergwyngregyn,

gan aros lawr lôn gyda Gareth Wyn Jones -

“diwygiwr” go iawn, o’i giap stabl i’w drôns.

Y chwedlonol Wal Goch a ail-adeiliadwyd -

ei sylfaen gerddorol, bwciedlyd a chwalwyd

gan luoedd mwslemaidd Bosnia Herzegovina,

neu rhywle egsotic draw’n bell bell yn rhywla.

Wedi gemau cyfartal ‘fo Niger a Mali

rhaid oedd trechu y Saeson yn RAF Valley,

ond ar ôl yfed gormodol - (nid eu hunig “night out”)

fe darwyd y camp gan ddôs milain o “gout”

a achosodd i’w bysedd bach chwim droi yn ddiffaeth!

Fe ddinistrwyd ein hogiau bob un, a’ la Catraeth...[Ond am Aneurin.]

Alun Cefne 8

Ateb llinell ar y pryd – Sgwâr o hyd yw bod heb sgrin

Twtil

Sgwâr o hyd yw bod heb sgrin

Mae athro am eu meithrin

Tegwen Bruce-Deans 0.5

Llewod Cochion

O raid dw i'n anghyffredin

Sgwâr o hyd yw bod heb sgrin

Arwyn Groe

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Dwyn

Twtil

Gorffennaf 2025

Wrth i’r chwarae a’r gwyliau ddirwyn i ben

a chân y gwydrau gweigion dincian

rhwng gwyll a gwawr,

rywle rhwng eiliad ac awr

yn dawel, mae’n dod, mae’n dwyn, mae’n mynd,

jest fel’na, o’ma,

bywyd yn gorffen ar hanner cytgan

a dim ond ôl y chwys a’r chwerthin ar grys coch, gwag;

ac er i’r lleidr lwyddo i’th gipio

dwi’n dal i chwilio,

rhwng gwyll a gwawr,

rywle rhwng eiliad ac awr

am dy nodau

yn nhincian y gwydrau gweigion.

Tegwen Bruce-Deans yn darllen gwaith Buddug Watcyn Roberts 10

Llewod Cochion

[Hydref, 2012]

Dwi'n cofio dy lais diniwed wrth iti sôn,

ar y ffordd i'r ysgol, ninnau law-yn-llaw,

am ei horiawr. Roedd yr oriawr biws, dlos,

wedi dal dy lygad wrth chwarae ar yr iard,

a "tybed pam, Mam, fod y dyn drwg

wedi mynd â'r ferch fach?" A'r bysedd

ar yr oriawr, ar ei harddwrn,

yn llonydd bellach.

Chafodd hi erioed fod yn chwech oed;

chafodd hi erioed gyrraedd ei hanner dydd.

Roedd o wedi dwyn gennych chi, hefyd,

y plant oedd ar ôl

ar yr iard, wedi dwyn eich dyddiau

o grwydro heb orfod dal calonnau eich rhieni

yn eich dwylo. A ninnau, y mamau a'r tadau,

yn loetran ar y stepan ddrws, yn gysgodion

yn y ffenestri, yn methu anadlu

nes i'n plant bach gyrraedd adre.

Non Bleddyn Jones yn darllen gwaith Angharad Penrhyn Jones 10

Englyn: Cymydog

Twtil

Bu farw ein cymydog o arddwr yr adeg hon y llynedd

Am y mur â ni mae o’n ei waeledd,

yn ei wely’n gwywo;

dros ein ffens daw rhosyn ffo –

ôl ei ddwylaw’n ailddeilio.

Iestyn Tyne 10

Llewod Cochion

Rhyw amau fod ei gryman - wedi bod

i ben y tegeirian

yn ein mysg; ac yn y man

roedd gofid drwy'r ardd gyfan.

Arwyn Groe 9.5