Cerddi Rownd 1 2026.
Pennill bachog: Llyfrau am Ddim
Llewod Cochion
“Pa beth yw hyn?”
medd Myrddin Ap
“Llyfrau am ddim?
‘Na syniad crap!”
Alun Cefne 9
Dros yr Aber
Lle bu cornel dawelach, fore oes,
llyfrau wast sydd bellach
a’u geiriau’n ddim ond geriach
yn nhwrw byd ein rhai bach.
Rhys Iorwerth 9
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm cemegol
Llewod Cochion
Y teimlad mewn gig Adwaith
â'i deffrodd i rodd yr iaith.
Angharad Penrhyn Jones 9
Dros yr Aber
Os daw ’na fom atomic
mae’n werth trio cuddio’n cwic.
Carwyn Eckley 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘A yw hi’n rhy hwyr i ymuno?’
Llewod Cochion
Un gwirion ofnadwy oedd Iolo;
Fe holodd mewn angladd yr un-tro
â hithau’n ddydd Gwener,
a’r angladd ddydd Mercher,
A yw hi’n rhy hwyr i ymuno?
Alun Cefne 8.5
Dros yr Aber
Rwy’n denor sy’n hoff o gomiwtio.
A yw hi’n rhy hwyr i ymuno –
gan fod Godre’r Aran
’di ’nhaflu fi allan –
â Chôr Godre Kilimanjaro?
Iwan Rhys 8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffatri
Llewod Cochion
Nain, o’i ffedog yn ffidio
dwy iâr wen wrth fynd am dro,
ugeiniau o ben gwenith
ar lawr ar fore o wlith...
Mae sôn am filiwn am sied;
I neud elw, hel dyled;
Hyn a hyn o ieir gwynion
‘leni oedd i lenwi hon,
ac ar Excel mae’r elw
heddiw yn iach iddyn nhw.
Yn eu helw, ni welant
bluen wen ar wyneb nant.
Arwyn Groe 10
Dros yr Aber
Riliau. Riliau o rywle
yn dod o frecwast tan de,
hyd yr hwyr, i’m ffôn. A drwg
y diawliaid? Dod i olwg
y maent yn yr oriau mân:
lovelife â’r riliau aflan
fesul eiliad sgroliadwy
yw penyd fy mywyd mwy.
Daw’r wawr. Daw riliau di-ri,
riliau i fy rheoli,
a’u sothach sy’n ffars weithiau.
Mwy na hyn, rwy’n eu mwynhau.
Rhys Iorwerth 10
Triban yn cynnwys y llinell ‘Ffolineb ydyw ceisio’
Llewod Cochion
Ffolineb ydyw ceisio
hel mêl gan fuchod godro,
a thyfu pys mewn ffatri gaws;
mae jysd yn haws i beidio.
Arwyn Groe 9
Dros yr Aber
“Ffolineb ydyw ceisio
troi basydd yn ffalseto”
taranodd Bryn. “Ond os gwna’i hyn,
a gwasgu’n dynn, mae'n gweithio.”
[y llinell a hanner olaf mewn llais ffalseto]
Iwan Rhys 8.5
Cân ysgafn: Sut i Ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Llewod Cochion
Mi ffoniais Dewi i ofyn
Beth oedd o eisiau 'i wneud,
Pizza? Crawl? Peint tawel bach?
Doedd ganddo 'm lot i'w ddeud.
Cysylltais gyda’i fêts o
Sant Padrig first of all,
Pest Control di betha fo
Mis Mawrth mae o on call.
Mi decstiais Sant Andreas
Ces ateb digon croes
Roedd o am drip pysgota
A ydy o'n tynnu 'nghoes?
Whatsapiais San Siôr wedyn
Ond fydd o ddim rownd lle,
Mae'n mynd yn ôl i Dwrci
O March tan ddiwedd May.
Nath Dwynwen, Beuno, Illtud
Fy ngôstio, jyst dim chwant.
A threfnu 'do' i Dewi...
Wel! Ma isio mynadd Sant.
Pryderi Jones 8.5
Dros yr Aber
Rwy wedi cael llond bola ar ddydd ein nawddsant ni.
Gas gen i bethau bychain. Rhowch bethau mawr i mi!
Mae arogl lobsgowsaidd yn fy nharo fesul wafft
(‘gwisg genhinen yn dy gap’ oedd wir yn gyngor dafft).
Mi fetiaf i mai rhoddi bys yn glust wnâi Dewi Sant
pe bai yn clywed crawcian Calon Lân gan gôr o blant.
Nid wy’n gofyn calon hapus, calon onest, calon lân.
Gofyn wyf am fywyd moethus, aur y byd, a’i berlau mân!
Ac yno yn fy mlocio rhag mynd i mewn i Spar
mae Merched y Wawr a Mistar Urdd, Dafydd Iwan a’i gitâr.
Mae bara brith yn afiach. Teisenni cri sy’n grimp.
Cawl cennin sydd yn ddiflas – bwyd addas iawn i wimp.
Mae angen codi morgais os am wneud cawl cig oen
a’r byntin coch a gwyn a gwyrdd sydd wir yn byntin poen.
Welsoch chi’r cennin pedr yn felyn ar bob sil, do?
Ac fe ddwedais ble y gallwch chi stwffio’ch daffodil, do?!
‘Byddwch lawen’ ebe Dewi, heb orfod golchi llestri
ar ddiwedd noson boring o Gawl a Chân mewn festri.
Ond gan fy mod i’n Gymro, well i mi wneud rhywbeth, glei.
Fe ddathlaf ar y soffa gyda Guinness a mins pei.
Iwan Rhys 9
Ateb llinell ar y pryd – Mae'n wag yn ein stadiwm ni
Llewod Cochion
Aeth Barry John ohoni
Mae'n wag yn ein stadiwm ni
Arwyn Groe
Dros yr Aber
Tybed sylwaist ti Abi?
Mae'n wag yn ein stadiwm ni
Rhys Iorwerth 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cymundeb
Llewod Cochion
Ar lan y llyn, y crëyr llwyd
sy'n llonydd, fel petai'n dal
ei anadl, yn aros
am atebion, ei olygon
ar rywbeth pell i ffwrdd. Ar wyneb y dŵr,
y sglefrwyr sy'n sgrialu'n ddigyfeiriad rhwng y brwyn
yn rhy chwim i suddo, rhy ysgafn
i gyrraedd y dyfnderoedd.
Yn y nen, y gwyddau
sy'n ffurfio eu saeth amherffaith, yn clegar,
clegar, un yn dilyn y llall, yn anelu
am adref. Ar y bryniau,
y brefu unig
sy'n dod o bob cyfeiriad, yn gôr
ansoniarus ar y gwynt.
A rŵan, yr aer yn torri, yn torri drostom,
yn friwsion mân,
yn ein cyffwrdd ni i gyd.
Angharad Penrhyn Jones 9.5
Dros yr Aber
Gweithdy ‘Ar y Dibyn’ sy’n cynnig cyfle i bobl brosesu profiadau bywyd trwy greadigrwydd
Yn ara bach, closiwn
at y bwrdd a’i liain plastig
yn llawn creithiau paent.
Estynnwn at y clai
gan fwytho’r tameidiau brau
rhwng bys a bawd.
Mae cloriau’n agor,
geiriau wedi’u cnoi ar ben pensel
yn denig i’r ddalen, sŵn tudalennau’n troi
a fesul un, daw lleisiau fu’n sownd
mewn gwddw’n rhy hir
i gydio yn y llygaid sy’n gwrando
ac sy’n dechrau deall
nad oes rhaid cuddio
llwch a staeniau inc ar ddwylo.
Rhys Iorwerth yn darllen gwaith Marged Tudur 9.5
Englyn: Sgriwdreifer
Llewod Cochion
Cymar drwy'r holl waith cymen, - ei garn ef
Gryna'n awr fel deilen,
Llai troadwy â hwy'n hen
Isio gras â phob sgriwsen.
Pryderi Jones 9.5
Dros yr Aber
Ei iaith o yw pob troad – ac o reddf,
gyda’i sgriws mae’n siarad;
gwneud ei waith a’i gwna yn Dad,
drwy’r cyweirio daw’r cariad.
Carwyn Eckley 10














