Cerddi Rownd y Chwarteri Talwrn 2026
Pennill bachog yn mynegi difrawder
Arglwydd de Grey
Ar gefn amlen, hwyr, heno – meddyliais
Am ddelwedd digyffro;
Englyn, dilun, ei lunio,
Un eitha’ trist, mi wneith tro.
Tomos Gwyn 8.5
Dros yr Aber
Heddiw a ddaw drachefn yn ddu. Fe fydd
sôn am feddyg teulu.
Ond twt, fi ’di dyn y tŷ.
Fe af, hwyrach, yfory.
Rhys Iorwerth 9
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘ffi’
Arglwydd de Grey
Ffi a ffai a ffow a ffȇr…..
Sawr rheibio tros yr aber!
Steffan Tudor 8.5
Dros yr Aber
Ni wn i ai’r ffi yw’r ffon
orau sy’ i fesur safon.
Carwyn Eckley 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi roddais fanylion fy nghyfri’
Arglwydd de Grey
A’n tîm ni ymhell ar ei hôl hi
Ces sgwrs yn yr egwyl ȃ Cheri
A rwan dwi’n llon-
Caf ddeg pwynt am hon:
Mi roddais fanylion fy nghyfri!
Steffan Tudor 8.5
Dros yr Aber
Mi roddais fanylion fy nghyfri
i foi gosod patios o’r Fali.
Ar ôl talu’r prat,
mi gofiais, go drat,
mai fflat ar lawr deuddeg sydd gen-i.
Iwan Rhys 8.5
Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Gwell digio un na gwylltio ugeiniau’
Arglwydd de Grey
Gwell digio un na gwylltio ugeiniau
A gwell na lladd yw’r grefft o faddau,
Arfau y doeth all droi’n drafodaethau,
Llond gwlad o gariad yw’r heddwch gorau;
Ni weithith hynny weithiau – rwy’n sori,
Yma eleni rhaid lladd miliynau.
Arwel Emlyn 9.5
Dros yr Aber
Bob nos yn selog, ar lein mae’r hogiau
yn gwthio’u hyder a’u bygythiadau
i lorio un. Ac wrth alw’r enwau,
mi wn yn iawn yn fy nhu mewn innau
mor annheg ydy’n cegau. Ond wedyn,
gwell digio un na gwylltio ugeiniau.
Carwyn Eckley 10
Pennill ymson llwynog
Arglwydd de Grey
Ma nhw allan eto’n fy hela
Gyda’u gynnau a chwn wrth eu traed,
Pob un gyda’u hysbryd di tanio
A hynny gan yr ysfa am waed.
A diawcs da ni’n debyg I’n gilydd,
Mae ein natur yn wir o’r un gradd,
Dio’m bwys pwy yw’r heliwr na’r sglyfaeth
Da ni’n dau yn cael pleser o ladd.
Huw Dylan 8.5
Dros yr Aber
Rwy’n arwain barn y werin;
i bobl wyn, rwy’n llais blin.
Rwy’n gyhuddgar wrth siarad
am yr ‘elît’, ac mae’r wlad
weithiol yn fy mendithio’n
foi â sens... Ni hoffaf sôn
am led fy mhoced, lle mae,
yn fy leinin, filiynau.
Rhys Iorwerth 9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Ailgread
Arglwydd de Grey
Sw’n i’n cael bod yn hollalluog am rhyw ddiwrnod neu dri
Mi fyswn i’n gwneud rhai newidiadau i’n Cymdeithas ni
Gorfodi pawb dros ddeunaw i wneud gradd yn eu cynefin
Hwnnw’n gwrs anrhydedd pum mlynedd mewn synnwyr cyffredin.
Mi fydd na bobol go iawn yn ateb ffonau pob cwmni
A mi fydd posib talu bil heb gyfrinair na chyfri.
Ac I bob ymholiad bydd ateb rhesymol a buan
A hynny heb orfod gwrando ar symffoni gyfan.
Rhoi pob ambiwlans I gwmni delifarw I’w trefnu
Ac fel gyda’u pitza pob un ar amser, byth yn methu.
Bydd rhaid I unrhyw lyfryn sy’n cynnig cyfarwyddiadau
Roi disgrifiad ysgrifenedig I fynd efo’r lluniau.
Fel na fydd neb mewn sefyllfa lle mae’I wardrob yn gwyro
Bymtheg gradd I’r chwith a darnau mhob man heb eu defnyddio.
Ac efallai rhyw ddiwrnod os aiff Duw ar ei wylia
Y caf fenthyg ei allu a chreu’r newidiada.
Huw Dylan 8.5
Dros yr Aber
Ar yr wythfed triliwnfed cant saithdegpedwarfed dydd,
dywedodd ein Duw: “Fe wnaf Fôn yn rhydd.
Rhoi diwedd a wnaf am byth ar y ffýs,
ar dagfeydd Pont y Borth yn sgil lori a býs.
Ac felly, gyfeillion, rhag strach i’r tir mawr,
myfi af a thorri ei chadwyni i lawr.
Terfynu a wnaf holl draffig Britannia,
drwy wneud pont Britannia yn bont sydd ddim yna.
A Môn a gaiff fflôtio yn bell i’r Atlantic,
cyn stopio yn rhywle uwchben y Titanic.
Ac os aiff, mewn trobwll, yr ynys yn sownd,
caiff hi a Phorthaethwy jest fynd rownd a rownd.
Achubaf rai pethau i’r dyfodol, er hyn:
Nia Lloyd Jones, a gitâr Arfon Wyn.
Caiff y moch fynd i Fangor, i wneud eu baw’n fanna.
Ac er parch, yng Nghaernarfon, fe ffeindiaf gartra
i Rhun ap Iorwerth a’i dad am y tro.
Tarâ Llangristiolus. I wareiddiad, helô.
A chan wylio, yn llifo, i’r gorwel Dŵr Marcwys,
caf ddweud, ‘job well done’, a mynd nôl i orffwys.”
Rhys Iorwerth 9
Ateb llinell ar y pryd – Sixty six o hyd y sôn
Arglwydd de Grey
Sixty six o hyd y sôn
Twenty six it aint Sacson
Arwel Emlyn 0.5
Dros yr Aber
Sixty six o hyd y sôn
Oes oesol gan y Saeson
Carwyn Eckley 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Rhes
Arglwydd de Grey
(Clydach Terrace, Ynysybwl. Penderfynodd Cyngor Rhondda Cynon Taf brynu’r cartrefi er mwyn eu dymchwel gan bod hynny’n fwy cost effeithiol na chodi amddiffynfa rhag llifogydd)
Cyn tynnu’r drws o’i ôl,
mae’n oedi; mae’n gwrando;
clustfeinio ar wacter ‘stafelloedd;
trawstiau’n griddfan,
a waliau’n ochneidio,
wrth sibrwd eu hatgofion.
Ond mynd bydd raid,
rhoi clep i ddrws y fan
a chau ar y bocsys a’r bagiau
y gwasgwyd iddynt fywyd teulu.
Taro un cip olaf
a chlywed y brad
yn chwerthin byrlymus y nant.
Troed ar y sbardun
a gadael o’i ôl
res o gregyn gweigion.
Eleri Jones 9
Dros yr Aber
I Anest a Caryl
Drwy ffenest fudur y car,
gwyliwn y niwl yn glynu am yr Eifl
a’r gwylanod, fesul un, yn gadael.
A chyn i ninnau eu dilyn o’r maes parcio gwag,
mae’n gofyn: ‘Gawn ni fynd i daflu cerrig i’r môr?’
Daw llygaid i gyfarfod yn y drych.
Mae drysau’n agor led y pen,
nodwyddau glaw yn pigo bochau,
sgidiau’n suddo i’r tywod, sanau’n gwlychu.
Yn ein plyg, dewiswn gerrig
a’u pwysau’n oer ar gledrau llaw;
bedyddiwn nhw â’n poenau,
ac wrth i’r gwynt gipio’n rhegfeydd,
eu hergydio i ganol y tonnau.
Gan eu teimlo’n disgyn,
safwn dan chwerthin ger y dŵr du.
Marged Tudur 9.5
Englyn: Croes
Arglwydd de Grey
Heulwen, cerdded, rwy’n credu – yn arddel
Y ffordd at yr Iesu;
Eto, Crist, mewn corwynt cry’,
Wedyn, rwyf yn dy wadu.
Arwel Emlyn 9.5
Dros yr Aber
Mor hawdd gyda ’meiro i mynd i fwth:
munud fach o ’nydd-i.
Eto braint ei bwrw hi
a chael fy nghynrychioli.
Iwan Rhys 9.5


























