Main content

Rownd Gyn Derfynol Talwrn 2026

Pennill Bachog yn mynegi diffyg hyder

Tir Iarll

Rwy’n rhy swil; rwy’n rhy salw, yn rhy fach,

Rhy fud i wneud sylw,

Fy llais a fydd ar fy llw

Mor wan. (Cymru yw’r enw).

Aneirin Karadog 9

Twtil

Mae ’na siâr i mi yn y siom i ’mhlant

mai ymlaen yr aethom;

tocio’n byw fel tician bom

yn y gwres a greasom.

Iestyn Tyne 9

Cwpled caeth decsill yn cynnwys gwahoddiad i rywun penodol i rywle penodol.

Tir Iarll

Am groeso agored a llo pasgedig,

Dere ‘ma Herod draw i’r Amerig.

Emyr Davies 9.5

Twtil

Y mae ôl haul ar lethrau Moel Eilio.

A gawn ni fynd? Mae digon i'w fendio …

Iestyn Tyne 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi redais i allan o bapur’

Tir Iarll

Ces job fach yn siop ‘Tyrd Bechadur’,

sef gwrando ar bawb a sgrifennu’r

camweddau yn gyfan -

daeth Emyr a Dylan ...

mi redais i allan o bapur.

Mererid Hopwood 8.5

Twtil

Dw i’n cofio un diwrnod o Ragfyr

ces bwl go anffodus o ddolur

oedd syndod o rydd,

fe barodd drwy’r dydd;

Mi redais i allan o bapur.

Steffan Phillips 8.5

Cywydd gofyn (rhwng 12 a 18 llinell) unrhyw bŵer uwch (‘superpower’)

Tir Iarll

Y ddawn fwya fynnaf i

yw dawn y Pair Dadeni,

nid marw mo’r meirw mwy,

rhai ydynt fory a thradwy

i’w haileni yn lanwedd

eto fyth tu hwnt i fedd.

Er imi weld ‘Superman’

yn ei adfyd yn hedfan,

i be’ cawn i ei bŵer,

neu fel batman, neu Dan Dare,

diystyr o arwyr ŷnt,

comedians bob cam ydynt.

Fel yr hen Bair Dadeni,

ymarhous f’ai ’mhŵer i,

a gwn na bo gan y byd

bŵer sy’n uwch na bywyd...

cael Tad i fyw’n wastadol,

mwy na hyn, cael mam yn ôl.

Tudur Dylan Jones 9.5

Twtil

Afon amser a'i cherrynt

sy'n ddi-ildio'n gwibio'n gynt;

rhuthr anorfod sy'n codi

yn rhugl iawn fy nghwrwgl i.

Drwy’r rhuo maith, o’m llestr mân,

ac o olwg y geulan,

erfyniaf am rwyf heno –

rhwyf fain i'w arafu o.

Yn y dŵr, â’m harf diraen,

pe medrwn, fe lywiwn flaen

fy nghwch bach i gilfach gudd

ambell lyn – am bwll llonydd,

lle i oedi rhag lli llydan,

oedi i gau fy llygaid gwan;

lle nad awn, yn llai na dafn

neu ryw hesgen frau, ysgafn

drwy’r sianel ddiddychwelyd

i’r bae hir ym mhendraw'r byd.

Iestyn Tyne 10

Pennill mawl neu ddychan, ar fesur y Clerihew, i unrhyw ffigwr hanesyddol

Tir Iarll

Syr David Lloyd George,

An fwstash hollol gorj,

Trît oedd Versailles,

Aeth o Dŷ Newydd mewn hers, ay.

Aneirin Karadog 8.5

Twtil

Doedd y Meuryn gwreiddiol

ddim yn herfeiddiol

a dyna osod y safon

i weddill y cnafon.

Tegwen Bruce-Deans 8.5

Cân ysgafn: Pwt o Feirniadaeth

Tir Iarll

Yn nyddiau Meuryn Feuryn, ymhell cyn Ceri Wyn,

cyn Gerallt o ran hynny, doedd pethau ddim fel hyn;

y beirdd, nhw oedd y broblem, yn gollwrs gwael a chas,

nid Barddas oedd eu forte bryd ’ny, ond cwmpo mas;

roedd pawb yn rhy groen denau, yn meddwl bo nhw’n ‘it’,

a phallu’n deg â derbyn bod eu cerddi weithiau’n ... hopeless.

Marc o un! You’re kidding! Fi yw’r pencerdd gorau’n bod!

Sai’n dod i’r Talwrn eto os na cha’i fwy o glod;

bu streic a phiced ffyrnig a’r cynganeddu’n groch:

I FARDD RHOWCH FWY O URDDAS! mewn paent Tryweryn-goch;

rôl gornest yn Ffostrasol, yn ochre croesffordd Plwmp,

fel Giani Infantino yn ateb galwad Trwmp,

cas Butros Butros Gali gais i godi’r ffôn

gan gapten tîm o’r gogledd (o linach Hwfa Môn);

“Cymodi? Bendant! Sicr! Dewch â Graf i weini’r cledd

a Gwynfor o Langadog a Henry R o’i fedd ...”

Dywedwyd, wedi pwslo, ‘rhoed 8 lle bu gynt 1’

a throëd pob rhyw feirniadeth yn bwt, rhag gwneuthur sîn.

Er gwybod bod y marciau, go iawn, yn llai o seis,

mae dod i’r Talwrn heddiw yn brofiad eitha neis.

Mererid Hopwood 9

Twtil

Am fod holl wobrau’r brifwyl yn tueddu i fynd i blebs,

eleni lluniwyd steddfod elusennol i’r selebs.

Fy mraint oedd cael beirniadu’r perfformiadau doji,

ond fi sy’n mynd i’w chael hi am bechu eu rhieni.

Dafydd Iwan a’r alaw werin – does ddim angen bod yn nerfus!

Boddhaol ar y cyfan – jesd braidd yn ailadroddus…

Parti Dros yr Aber – arbennig, ’dachi’n dynn,

Deud gwir, yn hollol berffaith … ma’n boring erbyn hyn!

Efo’r clocsio, OTJ, mae’r cicio’n sâl ers sbel,

Ond dydio fawr otsh rili, nei di ennill ’chos ti’n ddel – (cywiro) dal!

Ar yr ymgom, Mr Sheen, a’r teitl … chdi dy hunan!?

Cofia di’r actorion eraill sydd yn rhannu’r llwyfan …

Mererid, ti’n llefaru’n delynegol. Waw.

Ond o’r meicroffon byddarol, safa dwtsh nes draw.

Wedyn Tryst ac Emma – a oeddech chi yn chwil?

Mae hon yn Steddfod siriys sy’n costio dros bum mil.

Ac yna fe ddaw’r Meuryn. Am godi cestyll tywod

y ti gaiff y brif wobr, sy’n dod ag ond un amod:

Canmoliaeth am ganmoliaeth. O Ceri, bydd yn glên

pan weli di’r Twtiliaid bach yn dod i’r Babell Lên.

Buddug Watcyn Roberts 9

Ateb llinell ar y pryd – VAR a feiaf i / Fe feiaf VAR

Tir Iarll

Ni allaf ddiodde colli

VAR a feiaf i

Aneirin Karadog 0.5

Twtil

Llyfr Y Flwyddyn am ‘winnar’

Fe feiaf i VAR

Iestyn Tyne 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Y Bws Olaf

Tir Iarll

Ni welaf, drwy fy mlinder, y fenyw

sy’n dweud pader ar fy mhwys,

yng nghlydwch fy nghlustffonau, ni sylwaf

ar y cwpl yn y cefn yn cwympo

mewn cariad, mân niwsans ydy’r bechgyn

sy’n bloeddio o’r blaen – mae eu straeon

mor anhynod, mor ddarfodedig

â’r penawdau sy’n slwtsh

dros seddi’r dydd. Tu allan: y tywyllwch

sy’n ein cario oll ar lwybrau dieithr

i dai moethus, stafelloedd mwll,

i ben draw’r byd neu gornel stryd

i ni fyw’n hanesion cudd, bob

un. A dyna’r dyn sy’n rhedeg

ar ein holau, plîs ...

Cyd-deithiwn mewn i dwnnel dall.

Daw bws arall gyda’r bore.

Aneirin Karadog yn darllen gwaith Gwynfor Dafydd 10

Twtil

Ond un diwrnod, byddi’n ffeindio dy hun

law yn llaw â rhai fu’n ddieithriaid eiliadau ’nôl

yn gwibio lawr y stryd am y bws ola’ adra;

un diwrnod, wrth wylio wynebau tai yn pylu

a’u muriau’n pilio atgofion ohonot fel hen baent,

byddi’n gwenu; sbio dros ysgwydd ar niwl y Fenai,

ar ogla walia tamp a sŵn teipio tri y bore,

bywyd o be’ bynnag ar garreg drws be’ nesa’,

ac un diwrnod, byddi’n gadael i’r lleill fynd o dy flaen

wrth i ti oedi a gweld blynyddoedd o fyw

yn diflannu i goma arall ym mrawddeg bywyd;

byddi’n eu gwylio’n camu i’r cerbyd, un wrth un,

a’r drysau’n cau.

Un diwrnod, â sŵn injan pell yn gyfeiliant i’r hwyr,

byddi’n rhoi un droed o flaen y llall, ac yn dechrau cerdded.

Tegwen Brufce-Deans 9.5

Englyn: Côr

Tir Iarll

Yn haid fe ddaw’r aelodau i gynnal

Y gân, ac mae’r cordiau’n

Gadarn, ond bydd rhai darnau

Yn ddi-hwyl heb un neu ddau.

Emyr Davies 10

Twtil

Ymarfer Côr Eisteddfod y Garreg Las

Drwyddi, o’r top - heb gopi!… ac wedyn

fe godwn mewn rhesi

o dair sir i drysori

y pnawn hwn o pwy y’n ni.

Steffan Phillips 10