Cerddi Rownd 1 2026
Pennill bachog: Llw o Ufudd-dod
Aberhafren
Mae ia du yn lledaenu / ar draws cyfandir syn,
bwts ar balmant oer yn bygwth/ ufudd-dod eu tŷ gwyn.
Hunaniaeth clir mewn mwgwd du/ a phawb yn gofyn pwy 'dyn nhw?
Nid maint y droed sy'n bwysig/ ond sawdl pwy sy'n tyngu'r llw.
Sion Tomos Owen 8
Tafarn y Vale
Llw Ufudd-dod i Cyw
Rhoddaf fy hunan yn gyfan, o Cyw,
bob bore, yn ddyddiol, dy wylio mor driw.
Ymrwymaf mewn Steddfod, i'th ddilyn di rownd
a hymian caneuon undonog sy'n sownd
yn fy mhen i'n dragywydd. Addawaf o hyd
i ddawnsio'n y gegin, addoli Dy Fyd
Enfys Hatcher 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â gwyliau
Aberhafren
Ein Hawst sy’n wyliau distaw
o drist heb fwced a rhaw.
Mari George 8.5
Tafarn y Vale
Un dyfal gyda’i dafod -
Hen figít yw’r Brit abroad.
Gareth Ioan 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘‘Ffolineb yw dadlau â’r data’
Aberhafren
Mewn cit ffwtbol Cymru coch wltra
aeth Mansel, rêl boi, i’r cae isa
at y tarw am ffrae,
ni ddaeth fyth o’r cae;
ffolineb yw dadlau â’r data.
Llion Pryderi Roberts 8.5
Tafarn y Vale
Ffolineb yw dadlau â’r data
Sy’n cadarnhau Carré yw’r ffasta
O holl brops y byd;
‘Wir - pan godith e sbîd -
Mae e’n ffastach na Bryan Habana!
Gareth Ioan 8
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Perchennog
Aberhafren
Yno’n ferch, a’i sgert yn fach,
daw'n gysur, daw'n agosach
â'i dawn hardd i'r stryd yn ôl,
yma'n wên, mae'n wanwynol.
Ei llais mwyn sy'n dy swyno,
y fath gamp, fe ei o'th go,
dy arwain yn gain i'r gwyll
wna'n dawel, at ffin dywyll.
Tithau'n ddyn, yn un a all
o ddewis, yma ddeall
nad dy eiddo heno'n hy
yw hon. Ti'n parchu hynny?
Mari George 9.5
Tafarn y Vale
Heb yr awch fe af o’m bro,
ar daith hir, hir, i wirio’r
tŷ wrth ymyl y tywod.
Iddyn nhw rhyw hen ddyn od
ydw i sy’n dod â’i wên
yma, yma i’w tomen,
yn amau y dreth bremiwm.
Mae’r lle yn edrych mor llwm.
Dylwn osod rhyw flode
bach di-ri a llonni’r lle
â haenen o baent denim
yn dwt. Ond dwi’n poeni dim.
Ianto Jones 9
Triban yn cynnwys y llinell ‘Rwyf innau’n benderfynol’
Aberhafren
Rwyf innau’n benderfynol,
wir yr, rwy’n benderfynol
o’i gwneud hi’n berffaith glir fy mod
yn hynod benderfynol.
Llion Pryderi Roberts 9
Tafarn y Vale
Er mod i'n fardd diffygiol,
rwyf innau'n benderfynol;
un fel’na fues i gydol f’oes -
rhyw hwrdd teir coes barddonol.
Iwan Thomas 9.5
Cân ysgafn: Sut i ddatrys problemau rygbi Cymru
Aberhafren
Es i lawr i'r groesffordd i gwrdd â'r diafol ei hun,
’run sbit â David Moffat a tatŵ cennin ar ei dîn,
Dwedodd, "rhaid colli rhanbarth i rygbi symud ymlaen,"
Ond fel ffan o'r Celtic Warriors, odd y schadenfreude yn ffein!
O, Ogi, Ogi! Gen i'r Gweilch Dreigiau Sgarlets Blues.
Beth am ranbarth yn y Gogledd? Mwy o siawns yn Timbuktu!
Mae gan Wrecsam Rob a Ryan, ac Abertawe Snoop Dog,
Ydy TayTay neu Beyonce eisiau prynu Bedlinog?
Oes AI Chip gan Apple neu robotiaid Amazon
yn gallu creu clôn o Alun Wyn neu atgyfodi Barry John?
"Yma o hyd" ma'r bêl gron yn canu'n groch
a dagrau Dafydd Iwan sy'n torri syched y wal goch,
ond ’da Undeb Rygbi Cymru? Rhaid twlu nhw yn y bin,
"Er gwaethaf pawb a phopeth" ’yn ni'n canu fwy na dim!
O am gytgan
i'r Gweilch Dreigiau Sgarlets Blues.
Yr unig ateb (yn ôl Facebook),
yw gwerthu'r stadiwm a'i droi i fewn i Wetherspoons.
Sion Tomos Owen 8.5
Tafarn y Vale
(…jyst pan o’ch chi’n meddwl na alle pethe fynd yn wâth)
Myfi, yw’r Un – y gorau – fi yw’r greatest sy’ di bod
Datrysaf i y cwbwl – dewch yma’i ganu nghlod.
Rhowch i mi unrhyw broblem, s’dim her i mi’n rhy fawr -
Rwyf i’n ddim llai na lejynd; maen nhw’n dweud fy mod i’n gawr.
So, draw â fi i Gymru - heb wahoddiad - dyma fi;
Fe wnaf Welsh Rugby’n Great Again – fe fynnaf barch a bri.
Fe brynaf i bob franchise, bydd hi fel yr N.F.L.
Jyst gwnewch yr hyn rwy’n dwedyd a bydd pethau yn ‘real swell’!
Yn gyntaf codaf tarrif ar y Gweilch a Dreigiau Gwent,
Ac ar Gaerdydd yn yr Arms Park, fe ddyblaf i eu rhent.
Bydd rhaid cael tîm yn Wrecsam; tyrffiwn Rob a Ryan mâs,
Er mwyn i’r Gogs weld gêm go iawn, ar wyrddni eu Cae Ras.
Mae rhai sy’n dweud taw West is Best - mae’n siŵr bod hynny’n ffaith,
Ac wedi sortio’r Middle East, fe awn sha’r West ar daith -
Awn yno’i fro y sosban – fe newidiaf liw’r hen dre,
Ail-enwaf Barc y Scarlets - cawn Barc Oren yn ei le.
Ond ar ôl mis yng Nghymru mae’n amlwg bod 'na gawl,
Nid jyst rhyw gawl cyffredin ond hen gawl sy’n gawl ar jiawl.
A chyn ca’ i’r bai am bopeth yn ‘False-News’ y Western Mail -
Wel, mâs o ‘ma af innau, gan fod pethe’n troi yn stêl.
Iwan Thomas 9
Ateb llinell ar y pryd - Ces sgrap ym Mhywlltrap un tro
Aberhafren
Ces sgrap ym Mhywlltrap un tro
‘Da geiriau rhai diguro
Llion Pryderi Roberts
Tafarn y Vale
Rôl match aeth beirdd i glatsio
Ces sgrap ym Mhywlltrap un tro
Gareth Ioan 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Siwtces
Aberhafren
Mae’r nyrs yn pacio
siâp y person fu yma
i’w gês bach.
Mae’n gosod ei esgidiau olaf
ar y top.
Mae menig profiad rhyngddi hi
ac arogleuon tŷ ni.
Ni chlyw hi’r hwmian ysgafn
rhwng y sanau a’r stwff siafio,
Ni wêl hi’r lasys yn symud
rhwng plygiadau’r pyjamas
fel gwythiennau.
Mae’n gwneud ei gwaith.
Mae’n cau’r sip.
Fe’i cariwn yn araf
am adref heb wybod
a allwn ei agor eto.
Mari George 10
Tafarn y Vale
Â’i dafod mas,
plyga’i ddillad bach,
dewis ei hoff sanau,
gosod yr Haribos
yn goron ar ei byjamas,
a’i dedi Super Mario’n pipo rhwng y welis.
Minnau’n ysu i lyfnhau crîs,
i sythu siorts sgi-wiff.
Yna mewn llawysgrifen wobli,
mae’n ticio’r rhestr wirio,
cyn straffaglu â’r sip.
“Ti moin help cariad?”
“Nadw Mam. Fi’n saith.”
Cyn gwâlo o dan ei ddŵfe Guto Gwningen,
mae’n gosod y siwtces
wrth y drws ffrynt,
yn barod
ar gyfer yfory.
Enfys Hatcher 9.5
Englyn: Gwaharddiad
Aberhafren
Os yw pobman yn banio ar unwaith
yr hyn all dy frifo,
cryfach, trymach bob un tro
ydyw’r awydd i’w drio.
Llion Pryderi Roberts yn darllen gwaith Aron Pritchard 9
Tafarn y Vale
Mae aelodau seneddol wedi gwrthod gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16oed, er gwaethaf trafodaethau am y mater.
Gadawaf y ffôn yn llonydd – am nawr.
Ymhen hir daw’r awydd
i gael dos cyn golau dydd.
Dwi’n euog o’r byd newydd.
Ianto Jones 9.5














