Cerddi Rownd 1 2026
Pennill bachog: Cynnig Annisgwyl
O Bob Cwr
Aeth John i lawr ar ei linia’
i feddwl ailwneud ei gria’.
Trodd ei gariad a gweiddodd ‘gwnaf’.
Rwan, mae’n priodi mis nesa’.
Celt John yn darllen gwaith Mared Fflur Jones 8.5
Tir Iarll
Cefais gynnig gan y Talwrn
sef golygu rhaglen lawn,
cyfle imi fel technegydd
i arddangos peth o'm dawn.
Mond y top a'r tail ddarlledwyd,
roedd hi fod i bara awr...
"Y dasg gynta yw'r pennill bachog,"
"Cymrwch ofal a hwyl fawr."
(Wedi cymryd y ddwy linell olaf o
recordiad rhaglen ddiweddaraf y Talwrn)
Tudur Dylan Jones 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm gramadegol
O Bob Cwr
Oes angen i ragenw
ein hollti yn ni a nhw?
Nanw Maelor 8.5
Lle gellir, gwell sillgolli’n
y twll ‘ti / yn’, rhag twll tin.
Mererid Hopwood 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi es i am baned/ddished i’r caffi
O Bob Cwr
Mi es i am baned i’r caffi
A dyna lle roedd Sali Mali
Yn dangos i Jac
Ei Jwc yn y bac!
‘Na gyd o’n i ishe oedd coffi…
Celt John 8.5
Tir Iarll
Mi es i am ddished i’r caffi
ac yno gwnes limrig am laff i
gofnodi yn fanno
nad ydw i yn ffan o
Cristiano na'r Cyrnol Gaddafi.
Emyr Davies 8
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Storm
O Bob Cwr
Agor ap ac agor hin
afiach dros wres cynefin
stafell wely i glymu glaw
o olau sgrin rhwng dwylaw
ac â llif y cyfrifon,
fe ddaw’r feed i foddi’r ffôn,
ddafn wrth ddafn, a’i boddi hi;
deigryn pob llun sy’n llenwi
ei gorwelion a’r sgrolio
mor drwm ei chwthwm drwy’i cho,
cyn cau’n daran amdani’n
sgrin o hin i’w throchi hi.
Nanw Maelor 9
Tir Iarll
Os yw cân gwynt taranau
yn un cylch ffyrnig yn cau
hyd y ddôl, os mellt a ddaw,
os yw mwclis y smwclaw
at dy groen, paid â phoeni,
rhyw basio heibio wna hi.
Glaw'n y galon yw galar,
gwynt mileinig colli câr,
mae hon yn storm wahanol,
un felly edy ei hôl,
yn y gofid tragyfyth
ni wnaiff honno basio byth.
Tudur Dylan Jones 9.5
Triban yn cynnwys y llinell ‘I ddathlu Sul y Mamau’
O Bob Cwr
I ddathlu Sul y Mamau,
Daw Mawrth at grud y dolau
I Suo Gân a gwenu’n braf
Ac esgor haf o flodau.
Brennig Davies 8
Tir Iarll
I ddathlu sul y mamau
Camais i sgidiau’r tadau
Ac es i botsian yn y sied,
Mae’n galed ar y gorau…
Aneirin Karadog 8
Cân ysgafn: Fy Nhalwrn Cyntaf neu Ein Talwrn Cyntaf
O Bob Cwr
(I alaw Cân y Cardi)
Wel dyma’n Talwrn cyntaf
A ninnau’n cachu brics,
Sgwn i pwy sy’n ein herbyn?
Tir Iarll?? Wel, ‘na chi fix!
Bwyta ni’n fyw wna’r criw o brifeirdd
Pob un â’u gwobrau mawr,
Ceri, bydda’n hael,
Mae fel rhoi pry yn erbyn cawr!
Ond cofiwch, roedd pob prifardd
Yn brentis yn eu tro,
Pwy wyr os bydd archdderwydd
Yn hi neu fi neu fo.
A gwyddais, wedi’r marciau,
Bod prifardd yn ein mysg,
Pan gefais dri am englyn
A’r llinellau oll yn lusg.
Cynnigiais ddêl i Mererid:
“Wnawn adael i chi guro,
Os wnei di ffafr a rhoi i ni
Gwisg wen pan cawn ein hurddo?
Celt John 9
Tir Iarll
Ein talwrn cyntaf
Pan oedden ni yn Aber
Yn ein hugeinmlwydd ewn,
Fe ddaeth y syniad beiddgar
O roi ein henw mewn.
A dyna sut y deuthum
I glyw talyrnwyr gwlad,
Yn mymblan o flaen Gerallt
A’n edrych ar fy nhra’d.
Bu’n rhaid wynebu timau
O feirdd go iawn y plwy’,
Y lleisiau doeth, cyfoethog
Na chânt dalyrna mwy.
Y dychan yn ein cerddi
A ddôi â’r chwyldro mawr -
Gwleidyddion, tywysogion,
A gaent eu tynnu lawr.
Mae ngherddi i heb wella,
Heb wella 'chwaith mae’r wlad,
Wrth fymblan o flaen Ceri
Ac edrych ar fy nhra’d.
Emyr Davies 9
Ateb llinell ar y pryd – Mewn hot tub mae Anti Ann
O Bob Cwr
Mewn hot tub mae Anti Ann
Yn rhechu yn y grochan
Brennig Davies 0.5
Tir Iarll
Mewn hot tub mae Anti Ann
Yn dala’r ffôn i Dylan
Aneirin Karadog 0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Brycheuyn
O Bob Cwr
Ar ôl gadael ein ffrind yn glyd yng ngwely’r
pridd, wedes i ‘mod i ddim yn gweld y pwynt
rhagor, pwynt straffaglu trwy faw byw, a wedes di,
Cer am gawod. A chyn camu mewn, rhodda’r tywel
dros y rheiddiadur, fel bod e’n dwym pan ddoi di mas,
megis coflaid.
O Dduw — unrhyw dduw sy’n bod, sy’n barod,
helpwch ni. ‘Dyn ni’n greaduriaid bach a brau:
mor wirion ein mynd-a-dod, yn ddim byd wrth
ddarfod, llai na gronyn o dywod, brycheuyn yn
disgyn yn araf trwy’r golau. Ond Duw, ‘dyn ni’n
caru’n gilydd tra bo’ ni ‘ma, ac weithiau mae ‘na
obaith i ni felly, efallai.
Rhyw deimlad fel camu o’r gawod
a synhwyro, rhywsut, trwy’r profiad,
bod yna freichiau anweledig wedi
lapio’n dynn amdanaf.
Brennig Davies 9
Tir Iarll
Yn llwch yr haul, lluchiaist
dy ddillad oddi arnat – am y gât
â ti, i redeg yn rhydd tua’r traeth: gwres
y tarmac yn boenus-bleserus
dan dy draed, cyn i’r tywod yntau eu llosgi’n
braf ... aeafau wedyn, a thithau’n peswch
ger y pentan, y gwelais ar dy gefn
ryw gochni nad oedd yno o’r blaen;
ddwedais i ddim – dim
ond smotyn oedd hi, mor gynnil,
mor gyfrwys,
â’r mymryn lleiaf o lwch.
Gwynfor Dafydd 9.5
Englyn: Gêm
O Bob Cwr
Scrabble
Drwy flociau pren llythrennau, – dwi’n estyn
ystyr o’r pentyrrau,
ddarn ’rôl darn, mewn gêm rhwng dau,
i herio drwy greu geiriau.
Nanw Maelor 10
Tir Iarll
Yn rhywle mae’r rheolau – a deflaist
i daflod palasau
dy fraint, ond mae’r fraint mor frau
â’r dwst sy’n pydru’r distiau.
Mererid Hopwood 10













