Main content

Cerddi Rownd 1 2026

Pennill bachog: Anogaeth i Gynilo

Glannau Teifi

Os yw dy fryd ar fynd i’r coleg

Gwell it ddechrau tolio’n syth

Er nad wyt ti’n ddim ond baban,

Neu byddi’n talu’r llog am byth.

Elfed Evans yn darllen gwaith Nia Llewelyn 8

Y Cŵps

Yn fodlon fe gei wylio

Dy falans banc yn dringo

Gan wybod mai dy ’wyllys di

’Di roid o’i mi i’w joio.

Rocet Arwel Jones 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm biolegol

Glannau Teifi

Gennyn am gario gynne

ydy nam ein DNA.

Anne Watts 9.5

Y Cŵps

Y mae rhai yn hiwmerws,

Eraill yn eitha seriws.

Huw Meirion Edwards 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Tref orau y Cardis o ddigon’

Glannau Teifi

Medd Henry, o’r sgwâr yn Nhregaron,

‘Rwyf yma ‘di parcio yn gyson

Am fis ar ôl mis

Heb dalu’r un pris;

Tref orau y Cardis o ddigon’.

Nerys Llewelyn yn darllen gwaith Nia Llewelyn 8.5

Y Cŵps

All Aber, na Llambed-Tregaron-

Llandysul-y Cei-Aberaeron,

Ddim maeddu tref Ceri,

Y gwych Aberteifi,

Tref orau y Cardi o ddigon.

Dafydd John Pritchard yn darllen gwaith Geraint Williams 8

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Dosbarth

Glannau Teifi

(Mae mudiad ‘Ysgolion y Goedwig’ wedi ei selio ar fodel Sgandinafaidd o gynnig addysg holistaidd yn yr awyr agored.)

I’m hwyres nid yw muriau

a stafell ond cell ‘di cau,

i un ddwy-oed coed sy’n cŵl

a’r modd i danio’r meddwl.

I barth iach daw’r ‘dosbarth iau’

i’r prysg am ddysg heb ddesgiau,

a’r reiat ym myd natur

yn y baw’n troi’n addysg bur.

Yn y gwlith, mewn dillad glaw

a’i Welis, fe ddaw alaw’r

dderwen a llên y llwyni

â byd o hud iddi hi.

Nia Llewelyn 9.5

Y Cŵps

“Yma, Syr.” Ond mis i hwn

Fydd byw undydd ar wndwn

Eu desgiau noeth a’u dysg nhw;

Yma, oer yw’r pren marw.

Dall yw mwy i’w dull a’u modd

A graen eu geiriau anodd.

Try ei ben at y ffenest,

Troi, fel yr eirlys at wres

Dwfn yr haul; dyfynna’n rhwydd

Enwau’r erwau cyfarwydd.

Yma, mae’n ddechrau tymor;

Daw ei stem, daw’r had o’i stôr.

Huw Meirion Edwards 9.5

Triban yn cynnwys y llinell ‘Go brin fod neb yn gwrando’

Glannau Teifi

Sdim ots os gwnawn ni ffwndro,

a ffaelu sgorio heno,

sdim angen becso dim am hyn –

go brin fod neb yn gwrando.

Terwyn Tomos 9

Y Cŵps

Lle gwag yw'r eglwys heno,

Go brin fod neb yn gwrando.

Gweddïo mae'r canhwyllau gwêr,

A'r sêr ry bell i fecso.

Dafydd John Pritchard yn darllen gwaith Geraint Williams 8.5

Cân ysgafn: Newid Lliw

Glannau Teifi

Yn nyddiau ffug-newyddion, y we â’i holl A.I.

Peth anodd yw adnabod y ffeithiau gwir o’r gau.

Naw wfft i brawf ac ymchwil a dysg a common sens

‘da’r rhai sydd fod rheoli yn eistedd ar y ffens.

Cred rhai yn daer mewn byd sy’n fflat ac nid yn belen gron

A bod Marsians gwyrdd ‘di glanio o’r gofod yn Llanon,

Bod Musk yn ffrind i’r tlodion a Taylor Swift yn ddyn,

Mae Ceri Wyn yw’r Yoda ac Elin Fflur yw’r cwîn.

Wrth syrffio’n chwim drwy YouTube ac Insta. a ThikTok

Caf ddelwedd ar ôl delwedd, rhai lliwgar i roi sioc.

Caf weled defaid gwyrddion mewn cae o borfa biws,

Rysáit am ‘falau turquoise i’w gwasgu i wneud jiws

A gwylio iâr yn dodwy, â’i hwyau’n nefi blŵ

A zebra coch a melyn yn pori’n llon mewn sŵ.

Mae’r lluniau hyn yn ddwli, i’w derbyn gyda laff

Ond gyda’r ffug-newyddion does neb na dim yn saff.

Mewn sefyllfa mor ddifrifol y benbleth fawr i mi

Yw sut y trodd gwirionedd ddoe o wyn i gelwydd du?

Nia Llewelyn 8.5

Y Cŵps

Ymson Cameleon

Mae twtsh o lyffant1 ynof fi

Meddai rhai, ond wyddoch chi

Mod i’n rhywbeth bach mwy crand?

Dwi’n gameleon – y broga on-brand.

Mae gen i dafod hir a chwim2

All bigo poced dyn mewn dim.

A llygaid chwilia’r dde a’r chwith

Run pryd,3 am wendid yn eich plith.

Dwi’n ffyrnig iawn os oes raid

Amddiffyn f’ynys4 rhag ryw haid

O estroniaid, wna’i ddal fy nhir

Am na fedra’i nofio,5 deud y gwir.

Dwi’n bwrw nghroen bob hyn a hyn6

A’i newid beunydd am un gwyn.

Ta waeth mae gen i gôt gwerth chweil

All newid lliw yn ôl y steil,7

Yn durquoise, melyn neu yn biws

Pa bynnag liw sy fwya o iws.

Ond waeth pa liw sy ar tu fas,

Fe red fy ngwaed yn oer8 a glas.9

Rocet Arwel Jones 9

Ateb llinell ar y pryd – Ni all un bom wella’n byd

Glannau Teifi

Daw llef a daw ofn hefyd

Ni all un bom wella’n byd

Terwyn Tomos

Y Cŵps

Eithafiaeth byth a hefyd

Ni all un bom wella’n byd

Dafydd John Pritchard 0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ysbrydion

Glannau Teifi

Mewn cilfach daclus yn y glyn,

mi gerddais trwy y gerddi hyn,

a syllu ar y meini tynn

yn rhesi hir;

mae’r milwyr yn eu lifrai gwyn

yn hawlio’r tir.

Yn dorf gytûn, ac ar wahân,

yn finiog ac yn fud eu cân,

gan losgi’n eirias heb y tân

a’u hysodd gynt;

a’u stori’n cario’n wreichion mân

Ar alaw’r gwynt.

Fe gerddais, syllu, teimlo’r fflam

yn martsio eto fesul cam,

yn gwarchod pridd heb holi pam.

Wrth droi i ffwrdd,

Mae byddin newydd, sionc ei llam,

Yn dod i ’nghwrdd.

Terwyn Tomos 9.5

Y Cŵps

dewch at y bwrdd. ylwch y

rhain, ylwch y ffrwythau a'u

diferion lliwiau.

ond mae'r te 'di oeri,

biti, ac mae'r hanner

torth fel haearn sbaen. ylwch,

bodiwch chi y briwsion hyn,

mae'r rhain, rhaid deud,

fel graean talcen tŷ.

ai gwe pry cop 'di hwnna'n

pontio'r darn o grystyn a'r

un hen fowlen wag? damia.

mae'r tân yn oer. mae'r

coed sydd hyd y lle yn

damp. rhy damp. rhyw un

hen fatsien sydd ar ôl - i'w

chadw'n saff. ond dwi 'di siarad gormod.

'stynnwch...

Dafydd John Pritchard 9

Englyn: Cronfa

Glannau Teifi

Wedi’r cur fe gododd furiau- am oes

i ddal môr o ddagrau

ond rhyw ddydd, daw i’w rhyddhau

un cric i agor craciau.

Geraint Volk yn darllen gwaith Nia Llewelyn 9

Y Cŵps

Rhynnet pe gallet ffroeni – hen waddod

Pridd a gwraidd yn chwerwi

Dŵr dy ddinas, pan flasi’r

Dafnau drud o’i dyfnder hi.

Huw Meirion Edwards 9.5