Dyn a fu farw ym Môn yn cael ei ddisgrifio fel 'dyn teulu cariadus'

Disgrifiodd teulu Michael Anthony Ward ef fel "dyn teulu cariadus gyda chalon fawr"
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 53 oed a fu farw mewn fflat yng Nghaergybi wedi rhoi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel "dyn teulu cariadus gyda chalon fawr".
Bu farw Michael Anthony Ward ar ôl iddo gael ei ddarganfod mewn fflat yn Llys Watling ar Ffordd Llundain tua 02:40 fore Sadwrn, 17 Hydref.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Roedd ein tad yn ddyn teulu cariadus gyda chalon fawr.
"Bydd colled fawr ar ei ôl.
"Rydym yn gofyn i'n preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth i ni ddod i delerau â'n colled."
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i amgylchiadau ei farwolaeth.
Mae Martin Ward, 33 oed, o Gaergybi, wedi'i gyhuddo o lofruddio ei dad ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, 21 Hydref.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dyn wedi'i arestio ar ôl i gorff gael ei ddarganfod mewn fflat ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Cyhuddo dyn o lofruddio ei dad yng Nghaergybi
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.