Ateb y Galw: Alun Davies

- Cyhoeddwyd
Alun Davies, awdur sy'n wreiddiol o Geredigion ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Mae Alun newydd ryddhau ei nofel ditectif ddiweddaraf, Y Corff o Dan y Ddaear.
Er ei fod yn byw ac yn gweithio yn y brifddinas, mae dylanwad Ceredigion yn amlwg iawn yn ei nofelau. Felly dyma ddod i'w adnabod fymryn yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Diwrnod cynta' yn yr ysgol feithrin yn Aberystwyth. Do'n i ddim eisiau bod yna o gwbl, ond wnes i gwrdd â rhywun sy'n dal yn ffrind da dros 40 mlynedd yn hwyrach.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae gen i lot o atgofion da o wylio Cymru gyda'n ffrindiau, a nawr dwi a'n mab gyda tocynnau tymor i wylio'r Adar Gleision pob wythnos.

Alun gyda'i fab yn Stadiwm Dinas Caerdydd
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Boi eitha' syml.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl 'nôl?
Sefyll yn stadiwm Bordeaux yn ystod Ewros 2016 a clywed Hen Wlad fy Nhadau yn cael ei bloeddio cyn y gêm gynta' yn erbyn Slofacia. Ro'n i wedi aros 35 mlynedd i weld Cymru yn cystadlu mewn twrnament, a mae'r atgof o fod yna yn gwneud i fi wenu o hyd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson cynta aduniad Oasis yn y stadiwm yng Nghaerdydd haf diwetha. Peints gyda'n ffrindiau yna cwrdd â Catrin, fy mhartner i, am fwyd cyn gwylio'r cyngerdd gore erioed, a morio canu drwy'r nos.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cyfweliad prifysgol yn Rhydychen. Wnes i drio creu'r argraff mod i'n gwybod mwy nag oeddwn i. Wnes i ddim twyllo'r cyfwelwyr, a ges i ddim mewn.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Fydda i'n crio'n chwerthin lot mwy aml na crio'n drist. Y tro diwetha alla i gofio oedd dramor gyda'n ffrindiau i blwyddyn diwetha' - penwythnos cyfan o wneud ein gilydd i chwerthin.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi ddim yn golchi'n siorts rhedeg hanner digon aml!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Gai ddewis cyfres deledu? Os felly, Succession. Mae gen i dueddiad i flino ar gyfresi hir ond wnaeth hwn gadw fy sylw tan y funud ola. Ma'r stori, yr ysgrifennu a'r actio mor wych.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Fyswn i rhywle heulog gyda fy nheulu. Diwrnod yng nghwmni'n gilydd, yna allan am y pryd o fwyd gore a'r gwin drytaf allen ni gael.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Dominic Sandbrook a Tom Holland, o bodlediad The Rest is History. Ma' ganddyn nhw ganrifoedd o straeon i'w rhannu, a fyswn i'n eistedd a gwrando.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi wedi bwyta guniea pig. Ro'n i'n teithio yn Peru a mae'n fwyd traddiodiadol yno. Fyswn i ddim yn ei argymell e.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Alun gyda'i dadcu
Llun o fi a 'nhadcu. Ma'r ddau ohonom ni'n edrych ar ben ein digon.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Lionel Messi yn ei anterth, i gael gwybod sut mae'n teimlo i wneud rhywbeth mor anodd edrych mor hawdd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Awst

- Cyhoeddwyd7 Medi

- Cyhoeddwyd31 Awst
