Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar ôl darganfod corff yng Nghaergybi

- Cyhoeddwyd
Mae dyn, 33, o Gaergybi wedi'i gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn y cafwyd hyd i'w gorff yn y dref ddydd Sadwrn.
Cafodd Martin Joseph Ward, o Ffordd Kingsland ei arestio wedi i gorff dyn, 53, gael ei ganfod yn ystod yr oriau mân.
Cafodd y dyn ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llandudno, a barodd tua munud, cadarnhaodd Ward ei enw, ei ddyddiad geni a'i fod yn deall bod ei achos yn cael ei drosglwyddo i Lys y Goron.
Dywedodd y Barnwr Gwyn Jones y byddai'n aros yn y ddalfa.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, 20 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
