Teyrnged i 'fam garedig a chariadus' fu farw ar ôl cael ei thrywanu

Bu farw Eleanor Barnfield yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes a fu farw yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi arwain at ymchwiliad llofruddiaeth wedi rhoi teyrnged iddi.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 12:43 ddydd Llun yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad car.
Dywedodd y llu bod gyrrwr y car, dynes 47 oed o Ben-y-bont, wedi dioddef anafiadau nad oedd yn gysylltiedig gyda'r gwrthdrawiad, a'i bod wedi'i chludo i'r ysbyty. Bu farw'n ddiweddarach.
Y gred yw ei bod wedi cael ei thrywanu.
Mae'r ddynes bellach wedi'i hadnabod yn ffurfiol fel Eleanor Barnfield, a oedd yn gweithio i gymdeithas tai Valleys to Coast.
Mae dyn 61 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn ymgyrch heddlu sylweddol yn Ger-y-Nant, un o safleoedd Valleys to Coast, nos Lun. Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa.
Mae presenoldeb sylweddol gan yr heddlu wedi bod yn ardal Ger-y-nant ers y digwyddiad.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun wedi adroddiad o wrthdrawiad
Mewn teyrnged, dywedodd teulu Eleanor: "Mam oedd y person mwyaf caredig, mwyaf cariadus a mwyaf dewr yn y byd.
"Hi oedd popeth i ni, a bydd ei theulu a'i ffrindiau yn ei charu ac yn ei cholli'n fawr am byth. Hi oedd ein craig."
Dywedodd Prif Weithredwr Valleys to Coast, Jo Oak, eu bod "wedi ein llorio gan farwolaeth drasig ein cydweithiwr, Eleanor Barnfield".
"Roedd Eleanor yn aelod gwerthfawr iawn o dîm Valleys to Coast, ac mae ei cholled wedi cael effaith ddofn ar bawb a oedd yn ei hadnabod ac yn gweithio ochr yn ochr â hi," meddai.
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau Eleanor yn y cyfnod anodd iawn hwn. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio."
Ychwanegodd bod y gymdeithas yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, ond na "fyddai hi'n briodol i ni wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd".

Roedd ymgyrch heddlu sylweddol yn yr ardal nos Lun
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jason Rees: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu Eleanor.
"Hoffwn roi sicrwydd i'r gymuned bod timau o dditectifs a staff arbenigol yn cynnal ymchwiliad.
"Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a chefnogaeth y trigolion, yn enwedig y rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn y digwyddiad.
"Efallai y bydd cymunedau lleol yn sylwi ar fwy o bresenoldeb gan yr heddlu wrth i'n hymchwiliad barhau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
