'Aeth chwe chenhedlaeth o fy nheulu i'r ysgol yn Llangyndeyrn, ond dim mwy'

Yn 2023 aeth Cymru Fyw i sgwrsio gyda Huw Pant-teg i nodi 60 mlynedd ers achub y cwm. Yma mae Huw o flaen ffermdy Pant-teg, gydag adroddiad papur newydd o'r 60au sy'n adrodd cynlluniau i foddi'r cwmFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Huw o flaen ffermdy Pant-teg, gydag adroddiad papur newydd o'r 60au sy'n adrodd cynlluniau i foddi'r cwm

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae'n drist iawn i ddweud y gwir, mae'n siŵr bod chwech i saith cenhedlaeth o'n teulu ni wedi cael eu haddysg yn Llangyndeyrn."

Bydd Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn yn Sir Gâr yn cau ddiwedd y flwyddyn. Ers mis Medi eleni mae cofrestr yr ysgol yn dudalen wag, a'r ysgol fechan heb ei chân.

Mae hynny'n ergyd galed i Huw Williams neu Huw Pant-teg o Langyndeyrn yng Nghwm Gwendraeth Fach.

Roedd Huw ar y pwyllgor amddiffyn a frwydrodd yn erbyn cynlluniau gan Gorfforaeth Ddŵr Abertawe i ddefnyddio dŵr Afon Tywi i foddi'r cwm a chreu cronfa ddŵr i ardal Abertawe rhwng 1960-1963.

Petai'r boddi wedi digwydd, byddai fferm Pant-teg ble bu Huw'n amaethu o dan y dŵr heddiw, ac Ysgol y Fro dan gysgod argae.

Disgyblion a chylch meithrin Ysgol y Fro, Llangyndeyrn, fis Hydref 2023. Ar y pryd roedd ugain o blant yn yr ysgol i gyd a phlant y cylch meithrin yn ychwanegol i hynnyFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion a chylch meithrin Ysgol y Fro, Llangyndeyrn, fis Hydref 2023. Ar y pryd roedd 20 o blant yn yr ysgol i gyd a phlant y cylch meithrin yn ychwanegol i hynny

Heddiw mae Huw'n 90 oed ac yn parhau i fyw yn Llangyndeyrn, a'i fab Alun yn ffermio'n Pant-teg.

Ar 21 Hydref 1963, ar ôl misoedd o wrthsefyll cadarn a heddychlon, daeth buddugoliaeth i drigolion Llangyndeyrn.

Ers hynny, mae Huw wedi bod yn ymwelydd cyson ag Ysgol y Fro er mwyn rhannu stori'r frwydr gyda'r plant.

Mae'r cynlluniau i gau drysau Ysgol y Fro cyn diwedd y flwyddyn yn ei dristáu.

"Mae'n golled, mae'n galon y gymuned. Adeg y Nadolig nawr, fyddai ddim yn cael mynd i gyngerdd y plant ble mae'r gymuned i gyd yn casglu i supporto'r plant," dywedodd.

"Fyddwn ni'n colli hynny i gyd. Fydd hi'n od iawn heb yr ysgol - mae'n rhaid dweud."

Daw'r penderfyniad i gau Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn ac Ysgol Meidrim yn Sir Gâr yng nghanol pryderon am niferoedd isel o ddisgyblion, diffygion ariannol a chyflwr adeiladau rhai o'r ysgolion.

Mae'r cyngor yn dweud mai'r bwriad yw moderneiddio addysg a darparu addysg ar gyfer anghenion y dydd.

Mae Cyngor Sir Gâr yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ymgynghori ar gau pedair ysgol gynradd yn y sir hefyd, sef Ysgol Blaenau, Ysgol Pontiets, Ysgol Carwe ac Ysgol Bancffosfelen, yn sgil pryderon am ddyledion, a'r angen i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg yn gynaliadwy yn ariannol.

Huw gyda'i fab Alun ar fferm Pant-teg yn 2023Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda'i fab Alun ar fferm Pant-teg yn 2023

Cyn-deidiau a gor-wyrion yn gyn-ddisgyblion

Huw sy'n sôn rhagor am gysylltiad ei deulu gyda'r ysgol:

"Mae cysylltiad agos iawn gyda'n teulu ni ag Ysgol Llangyndeyrn ers tua 1870.

"Aeth fy mhlant i yno, wyrion a wyresau, ac mae gen i or-wyrion gafodd eu dysgu yno. Oedd fy nhad yn mynd yno, fy nhad-cu'n mynd yno, fy hen dad-cu a dwi ddim yn siŵr os oedd ei dad e hefyd."

Yn ôl Huw, mae Ysgol y Fro wedi ei lleoli mewn "man hyfryd sy'n edrych i lawr ar y pentef," gerllaw glannau Afon Gwendraeth Fach.

Dyw'r ysgol heb symud safle ers iddo yntau fod yn ddisgybl yno'n ystod blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd.

Amser chwarae yn Ysgol y Fro, Llangyndeyrn yn ystod hydref 2023Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Amser chwarae yn Ysgol y Fro, Llangyndeyrn yn ystod hydref 2023

Atgofion Huw o Ysgol y Fro yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Roedd 1939 yn flwyddyn fawr i Langyndeyrn a'r byd - blwyddyn dechrau'r Ail Ryfel Byd. Ond roedd hi'n flwyddyn fwy i blentyn bedair oed oedd yn mynd i'r ysgol am y tro cyntaf.

"O'n i'n dechre yn yr ysgol o gwmpas 1939-1940, dechre'r rhyfel," eglurodd Huw.

"Ro'n i'n hapus iawn yno i ddweud y gwir.

"Roedd llawer mwy o blant yna yr adeg 'ny achos oedd plant yn sefyll yno tan eu bod nhw tua 14 cyn bod nhw'n mynd mas i weithio - heblaw bo' chi'n pasio arholiad i fynd i'r grammar school neu rhywbeth fel'ny.

"Roedd tua 50 o blant yno pan o'n i yn yr ysgol - fel mae amser wedi newid."

Disgrifiad,

Gwyliwch Huw yn rhannu hanes Brwydr Llangyndeyrn

"Fi'n cofio'r cyfnod yn iawn - oedd rhaid gwisgo gas mask rhag bod y gelyn yn dod mewn a gorfod mynd allan i'r cae tu allan a cwato tu ôl i'r clawdd - a gas mask dal amdanon ni rhag bod ni'n cael invasion.

"Doedden ni ddim yn siŵr bryd hynny fel oedd pethe'n mynd i ddigwydd.

"Fel plant dwi ddim yn credu i ni ystyried pwysigrwydd y peth, ond oedd yr athrawon yn gwybod yn iawn - byddan nhw'n ymarfer gyda ni rhag gele'r gelyn i mewn.

"Yr adeg 'ny daeth ifaciwis i ddyrnu yn yr ardal. Oedd gyda ni ddau ar ein ffarm ni.

"Roedd gan yr ifaciwis ysgol arall yn neuadd y pentre', plant o Lundain oedden nhw. A bydde amell i ffeit wedyn ar yr hewl, roedden nhw'n meddwl eu bod nhw'n gryfach na ni!" chwarddodd Huw.

'Roedd dipyn mwy o ddisgyblaeth'

Wrth hel atgofion am y dyddiau a fu, mae Huw'n cofio'r braw arferai deimlo wrth syllu ar y wialen oedd yn ei ddosbarth.

"Oedd dipyn mwy o ddisgyblaeth yn yr ysgol yr adeg 'ny - oedd y wialen i fyny ar y cwpwrdd.

"Os oedd rhywun ddim yn bihafio, oedd y wialen yn dod mas. O'n i'n ofnus iawn - fentren ni ddim bihafio yn yr ysgol."

Saunders, Cynan, Harri, Rosie, Gwenno a Milla yn cofio safiad eu cyndeidiau ar iard Ysgol y Fro yn 2023Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Saunders, Cynan, Harri, Rosie, Gwenno a Milla yn cofio safiad eu cyndeidiau ar iard Ysgol y Fro yn 2023

Ond, roedd digonedd o hwyl diniwed i'w gael hefyd, fel mae'n cofio:

"Oedd plismon lleol yn dod lan bob hyn a hyn i gadw llygaid arnon ni, yn enwedig os oedden ni wedi bod yn dwyn 'afale yn y berllan yn y ffarm nesaf aton ni. Bydde Davis y plismon yn dod lan i roi pryd o dafod i ni."

Ac mae'n cofio'n felys am sychu o flaen y stof ar ôl cerdded i'r ysgol yn y glaw hefyd.

Meddai: "Roedd rhai plant yn cerdded filltiroedd i'r ysgol, yn aml iawn yn wlyb diferyn os oedd hi wedi bod yn bwrw glaw.

"Oedd stof fawr gyda thân yng nghanol yr ysgol - roedden ni'n gallu sychu dillad yn fan'ny wedyn.

"Oedd hi'n amser hapus trwy'r cwbl."

Huw yn edrych ar adroddiadau papur-newydd am hanes 'Brwydr Llangyndeyrn' yn 2023Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Huw yn edrych ar adroddiadau papur-newydd am hanes 'Brwydr Llangyndeyrn' yn 2023

Ac yntau wedi treulio degawdau lu'n rhannu ei atgofion o fyw'n Llangyndeyrn, a stori achub y cwm gyda phlant Ysgol y Fro, mae'n chwith gan Huw na fydd hynny'n parhau.

Dywedodd: "Roedd y plant wrth eu boddau'n clywed stori'r frwydr. O'n i'n joio mynd lan 'na a dweud y gwir.

"Tybed beth ddaw o'r ysgol nawr? 'Sa i'n gwybod.

"Gobeithio y bydd cyfle i ddod at ein gilydd i hel atgofion cyn i'r drysau gau."

Fe gysylltodd Cymru Fyw â'r cyngor am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: