Iwan a Hywel Pitts: Y brodyr wnaeth faglu mewn i gomedi

- Cyhoeddwyd
Mae'r brodyr Iwan a Hywel Pitts ymysg y comedïwr Cymraeg mwyaf poblogaidd, ond doedden nhw erioed wedi bwriadu mynd fewn i gomedi. Fe ddechreuodd un er mwyn cael sylw'r dorf mewn gigs efo'i fand, ac fe brynodd y llall y pyped mwyaf oedd ar gael am £20 – gan roi genedigaeth i Gareth yr Orangutan.
Ond wrth i'r ddau deithio ar draws America mewn cyfres newydd i S4C, mae'n amlwg bod y seiliau wedi bod yno ers eu magwraeth yn Llanberis.

Iwan a Hywel
Roedd Iwan yn mwynhau gwneud i bobl chwerthin ers yr ysgol gynradd a throdd yr hiwmor yn arf yn Ysgol Uwchradd Brynrefail.
"Oedd geno fi undiagnosed ADHD trwy gydol ysgol so o'n i'n 'actio allan' fysa'r athrawon yn dweud," meddai mewn cyfweliad efo'i frawd bach, Hywel, i BBC Cymru Fyw. "Do'n i ddim - o'n i jyst ddim yn cael y cymorth o'n i angen.
"O'n i'n bach o'r class clown mewn ffordd - bob tro'n trio cael mêts fi i chwerthin, trio cael yr athrawon i chwerthin - jest trio cael bach o sbort. Yr ADHD ydi hynny – ond mae'n helpu fi i focusio weithiau, trwy ganolbwyntio ar lle mae'r punchline nesa yn mynd i ddod.
"Wedyn nesh i ffeindio allan yn eitha' sydyn, os ti'n chwerthin ar ben chdi dy hun mae o'n cymryd y pŵer i ffwrdd o'r bobl sy'n bwlio chdi achos ma' nhw'n 'neud o i gael reaction.
"Os ti hefyd yn chwerthin ar chdi dy hun ma' nhw'n colli'r edge yna wedyn, achos ma' nhw isio gweld chdi'n gwylltio. Oedd o'n survival technique."

Iwan a Hywel efo'u rhieni, Mel - sydd wedi cymryd rhan yn y podlediad Podpeth efo'i feibion - a Menai
Roedd digon o hiwmor a chreadigrwydd yn eu cartref hefyd. Mae'r ddau frawd yn cofio'u rhieni yn cyhoeddi llyfr Carwyn y Cangarŵ Cymraeg, am gangarŵ gwrywaidd oedd eisiau poced ar ei fol i gadw ei Joey. Roedd eu mam hefyd yn creu sgetsys gyda'i ffrind, yna'n eu ffilmio a'u gyrru i S4C.
"Naethon nhw gael cwpl o chats efo S4C ond ddoth o i ddim byd," meddai Iwan. "Y dyddiau yma fasa fo wedi bod yn YouTube channel neu rywbeth, ond ar y pryd oedda nhw'n gwneud pob dim ar dâp.
"Dwi'n meddwl bod ni wedi tyfu i fyny mewn i tŷ bonkers rili."
Mae Hywel yn cytuno: "Y mwya' dwi'n meddwl amdano fo dwi'n meddwl ti'n iawn. DIYsketch show oedda nhw. Dwi'n cofio bod 'na un mewn rhyw pub yn Rhyl a fi'n ista yn y car tra roeddan nhw'n malu cachu."

Y brodyr balch efo'u copi o Carwyn y Cangarŵ Cymraeg, a lluniau o'r cyd-awdur - eu mam Menai Pitts - mewn sgetsys wnaeth hi pan oedden nhw yn eu harddegau cynnar
Defnyddio hiwmor sych oedd steil Hywel yn hytrach na "chlownio" a'i uchelgais oedd bod ar y llwyfan mewn band, nid fel digrifwr.
Ond ei brofiad fel prif leisydd I Fight Lions yn ceisio cael y gynulleidfa i wrando wnaeth ei arwain at gomedi.
"Oedd y comedi yn ymateb i fi'n cael fy anwybyddu - dyna pam nesh i ddechrau," meddai.
"Jyst eisiau sylw o'n i pan o'n i'n fengach dwi'n meddwl, ac roedd pobl yn anwybyddu fi pan o'n i ar y llwyfan yn gwneud caneuon o ddifri - achos dyna o'n i eisiau bod pan o'n i'n fengach oedd cerddor go iawn."

Hywel Pitts
Fe gafodd wahoddiad i berfformio'i ganeuon doniol mewn ambell i noson ac mae'r cynigion wedi parhau i ddod ers hynny.
Bellach mae o'n denu cynulleidfaoedd i nosweithiau comedi efo'i ganeuon sy'n trafod bob math o bynciau, o rinweddau Llanberis i dudalen Rhwydwaith Menywod Cymru, ac mae o'n aelod o'r grŵp cabaret, Cabarela.
Mae o hefyd yn fwy profiadol na'i frawd fel cyflwynydd – gan gynnwys y Noson Lawen - fel mae'n hoffi ei bwysleisio wrth Iwan.

Yr hogiau yn eu harddegau - Iwan, 18, a Hywel, 15
Ond tra bod wyneb y brawd iau yn fwy cyfarwydd, o bosib mai llais Iwan – neu fersiwn ohono – ydi'r un mwyaf adnabyddus. Oherwydd Iwan ydi'r perfformiwr tu cefn i Gareth Ulysses Llew Pongo, neu Gareth yr Orangutan.
Doedd hynny heb ei gynllunio chwaith. Roedd Iwan yn gweithio i gwmni teledu yng Nghaernarfon efo'r cerddor Rhys Gwynfor a'r cyflwynydd Geraint Iwan, pan wnaeth y tîm chwilio am byped i adolygu gwefannau ar gyfer rhaglen gylchgrawn.
"Naethon ni chwilio ar-lein am y pyped mwyaf oedda chdi'n cael am y pris – a roedda chdi'n cael lot o byped am yr un yma am £20 so wnaethon ni gael Gareth i mewn," meddai.
"Wnaeth pawb cael go yn rhoi braich i fyny ei ben-ôl o, ac wedyn naethon ni 'neud y llais. So fasa fo wedi bod digon hawdd i Rhys Gwynfor neu Geraint Iawn gael y job ond fi oedd y pypedwr mwyaf naturiol, felly ges i'r job o wneud llais Gareth."

Gareth efo cyflwynydd BBC Radio Cymru, Aled Hughes
Mae'r epa wedi tyfu mewn poblogrwydd o'r fideos byr ar y cyfryngau cymdeithasol yn y dyddiau cynnar, i wneud cyfweliadau efo sêr mwyaf Cymru ar Hansh a chyfresi i S4C, fideos cerddoriaeth a hyd yn oed hunangofiant.
Tra bod Gareth yr Orangutan a Hywel wedi perfformio efo'i gilydd mewn gigs byw ac ar y teledu, a'r ddau frawd wedi cyd-gyflwyno ar y radio a phodlediadau, tydi nhw heb fod ar y teledu efo'i gilydd fel Iwan a Hywel - tan rŵan.
Mewn cyfres newydd ar S4C mae'r ddau yn teithio ar draws UDA i gyfarfod Americanwyr ac i olrhain hanes eu hen hen ewythr wnaeth ymfudo yno yn 1903.
Yn Pitts Stop America maen nhw'n cyfarfod cymeriadau difyr, yn trafod gwleidyddiaeth a chael profiadau fel mynd i noson farddoniaeth yn Washington.

Iwan yn Pitts Stop America
Ond er mai dyma'r tro cyntaf i'r ddau fod o flaen y lens efo'i gilydd, dydi'r profiad ddim mor wahanol i'r hyn maen nhw wedi ei wneud erioed, meddai Hywel: "Mae hiwmor yn rhan bwysig o berthynas fi ac Iwan erioed.
"Roedda ni bob tro'n gwatshad ffilms comedi efo'n gilydd a mwydro a dydi perthynas ni heb ddatblygu llawer ers hynny."
"Ti'n gweld hynna yn y rhaglen," ychwanegodd Iwan. "'Dan ni wastad wedi actio fyny ychydig i gynulleidfa, fel arfer ein rhieni neu teulu, neu'n gilydd - jyst yn neud ein gilydd chwerthin.
"So roedd o'n eitha' naturiol i jest cario 'mlaen i 'neud hynna ac actio fyny i Aled oedd yn ffilmio ac i'r gynulleidfa fasa'n gwylio adra.
"Nath Hywel ddechrau 'neud caneuon dychanol a doniol achos oedd neb yn gwrando arna fo a meddwl 'os di neb yn gwrando, dwi'n mynd i jest entertainio fy hun'.
"A dwi'n meddwl bod hyn yn ethos 'dan ni 'di cael erioed."
Fe fydd Pitts Stop America ar S4C am 21:00 bob nos Fawrth rhwng 20 Hydref a 10 Tachwedd, ac ar BBC iPlayer a Clic S4C.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021

- Cyhoeddwyd29 Medi
