Daniel Evans: 'Y tân yn fy mol' am yr iaith Gymraeg

- Cyhoeddwyd
"Mae wastad hiraeth gyda fi, a mae wastad tân yn fy mol i ynglŷn â chynrychiolaeth Cymreig a Chymraeg."
Dyw dramâu William Shakespeare ddim yn rhoi llwyfan i ganeuon Cymraeg fel arfer ond mae'r cynhyrchydd Daniel Evans wedi newid hynny yn ei gynhyrchiad ddiweddaraf i'r Royal Shakespeare Company.
Mae As You Like It yn cynnwys caneuon o Gymru a phytiau o'r iaith yn y ddrama am y tro cyntaf.
Bu Daniel, sy'n gyd-gyfarwyddwr artistig y Royal Shakespeare Company, yn trafod gyda BBC Cymru Fyw yr hiraeth a'r angerdd sy' ganddo tuag at Gymru a'r iaith Gymraeg a sut mae'n dylanwadu ei waith.
Meddai: "Ti'n cyrraedd rhyw oedran arbennig, a maen nhw'n dweud wrth awduron, 'ysgrifennwch am yr hyn ry' chi'n ei 'nabod'.
"A phan ddechreuais feddwl am fy nghynhyrchiad cyntaf i yma yn Stratford, o'n i'n meddwl, 'dw i eisiau cyfarwyddo rhywbeth am rywbeth dwi'n 'nabod yn ddwfn a rhywbeth sy'n mynd i'n nghynrychioli i.
"Nid mod i moyn rhoi fy hun ar lwyfan o gwbl - ond rhywbeth sydd yn mynd i fod yn dod o'r galon. Achos yn nrama Shakespeare As You Like It, y thema fawr yw cariad. Ac mae yna gariad at chwiorydd neu gefndryd a chariad rhamantaidd a chariad at y tirwedd.
"Felly o'n i'n meddwl, beth fyddai'n digwydd pe bawn i'n rhoi fy nghariad i tuag at fy iaith i a fy niwylliant i i fewn i'r cynhyrchiad yma?
"A dw i mor falch mod i wedi 'neud y penderfyniad."

Y seren Broadway, Jonathan Groff, sy'n chwarae Rosalind yn As You Like It
Yn y cynhyrchiad yn y Royal Shakespeare Theatre yn Stratford mae 'na nifer o actorion Cymreig, gan gynnwys Steffan Harri, Steffan Hughes a Rhys Parry Jones ac mae'n cynnwys caneuon fel Myfanwy, Ar Lan y Môr, Bugeilio'r Gwenith Gwyn ac Ar Hyd y Nos.
Gwireddu breuddwyd
Meddai Daniel, sy'n dod o'r Rhondda yn wreiddiol, am y penderfyniad i gynnwys y Gymraeg: "Mae'n golygu llawer i fi.
"Dyma'r tro cyntaf i fi gyfarwyddo drama gan Shakespeare tra mod i yn gyd-gyfarwyddwr artistig yn y RSC felly roedd yna dipyn o bwysau.
"Mae'n gynhyrchiad dw i 'di bod yn breuddwydio amdano fe ers bron i ddegawd. Ac mae'r ffaith fod ni'n gallu eistedd yn Stratford, sef man genedigaeth Shakespeare a chlywed tipyn bach o Gymraeg ar lafar a llawer o'r Gymraeg mewn cân, yn golygu lot i fi."

Daniel Evans yn cyfarwyddo ymarferion As You Like It
Penderfynodd Daniel ail-leoli coedwig Arden o'r ddrama i orllewin Cymru, sy'n ardal sy'n ei ysbrydoli o ran y tirwedd a'r diwylliant, meddai: "Mae cynganeddu Dic Jones wedi bod yn rhywbeth dw i'n troi ato yn weddol aml.
"Mewn ffordd, o ran y lleoliad, yr hyn sy' wir yn ysbrydoli fi yw y tirwedd yng ngorllewin Cymru. A'r ffaith bod ti'n gallu bod mor agos at y môr, mor agos at y mynydd, ac eto ti'n gallu bod mewn tref neu bentref.
"Dyw e ddim yn syndod i fi bod yr ardal yna yn rhan o y Mabinogi. Mae 'na hud a lledrith am yr ardal."
Gyda drama wreiddiol As You Like It yn cynnwys caneuon gwerin Saesneg, mi ddewisodd Daniel caneuon Gymraeg ar sail y naws oedd Shakespeare yn trio ei greu, gan ddewis Myfanwy pan oedd angen cân drist.
Mae e'n ffyddiog fod Cymru yn cael ei chynrychioli mewn ffordd arbennig iawn ar lwyfan yn Stratford, meddai: "Mae 'na ddau leoliad yn y ddrama - llys a chefn gwlad.
"Yn ein llys ni, o'n i eisiau dychmygu be' byddai'n digwydd os fyddai arweinydd yn mynd i bŵer yn San Steffan mewn cwpl o ddegawdau oedd falle eisiau cael gwared â sawl rhyddid sydd gyda ni ar yr un pryd - rhyddid ar lafar, rhyddid i fyw a gwneud ein dewisiadau personol ni.
"A beth os falle yn y byd hwnnw byddai yna Gymru rhydd? A pe bai rhaid i fi ddianc o'r regime newydd yma lle do'n i ddim yn gallu byw y bywyd oedd yn gywir i fi, i ble fydden i'n dianc? 'Swn i eisiau dianc i'r Gymru rhydd a fydden i eisiau dianc i orllewin Cymru.
"Felly dyma le dechreuodd y syniad."

As You Like It
Felly sut ymateb sy' wedi bod gan gynulleidfaoedd yn Stratford i'r ddrama hyd yma?
Meddai Daniel: "Mae'n risg wrth gwrs achos o'n i'n meddwl, a ydy'r bobl sy' eisiau rhywbeth pur yn mynd i ddod ar fy ôl i a dweud 'ti wedi newid y caneuon gwych yma' ond does neb wedi gwneud hynny hyd yn hyn.
"Newydd agor ydy ni felly pwy a ŵyr? Falle mod i'n temptio ffawd fan hyn ond hyd yn hyn, mae pobl jest wedi dwlu ar glywed gôr bach o Gymry yn canu yn Gymraeg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
