Cyhoeddi llyfr i blant am antur Tyrbo'r ci oedd ar goll am dair wythnos

- Cyhoeddwyd
Mae ci defaid aeth ar goll am dair wythnos cyn cael ei ddarganfod dros 200 milltir o'i gartref wedi ysbrydoli llyfr newydd i blant.
Daeth Tyrbo y ci i amlygrwydd dros yr haf ar ôl iddo ddiflannu oddi ar fferm ym Mhen Llŷn a chael ei ddarganfod dair wythnos yn ddiweddarach yn Sir Derby.
Perchennog Tyrbo yw Elen Williams, sydd wedi penderfynu troi stori Tyrbo yn llyfr i blant.
Yn ogystal â'r llyfr mae hefyd cân wedi cael ei ryddhau am Tyrbo'r ci ac yn canu mae nai Elen, sef Elgan.
Darganfod ger Derby
Dywedodd Elen ar raglen Ifan Evans ar BBC Radio Cymru:
"Mae Tyrbo wedi fy nghadw i'n brysur ers iddo ddod yn ei ôl, dwi wedi bod fel asiant iddo.
"Dwi wedi sefydlu grŵp Cŵn Fferm Coll ar Facebook yn sgil beth oedd wedi digwydd i Tyrbo a beth oedd wedi digwydd i ffrind i mi, roedden nhw wedi colli eu ci hwythau ac yn ffodus iawn nes i ddod o hyd i'w ci nhw ar y cyfyngau cymdeithasol.
"'Naethon ni ddod at ein gilydd, y cyngor, undebau a thîm troseddau cefn gwlad a phenderfynu fod angen rhwydwaith am gŵn fferm a gwaith yn benodol - fod 'na wybodaeth amdanyn nhw yna, ac ein bod yn trio addysgu ymwelwyr a llwybrau cyhoeddus beth ydi ci gweithio."

Elen a'r milfeddyg o Sir Derby ar ôl dod o hyd i Tyrbo
Y gred yw bod Tyrbo wedi crwydro lawr at y traeth lleol wrth fferm y teulu yn Llangwnnadl pan aeth ar goll.
Mae Elen yn credu y gallai rhywun fod wedi ei ddwyn, a bod y sylw ar y cyfryngau cymdeithasol o bosib wedi dychryn y bobl oedd yn gyfrifol, a'u bod felly wedi ei ryddhau.
Ag yntau wedi bod ar goll am bron i dair wythnos, cafodd Elen alwad ffôn gan filfeddyg yn Derby yn dweud bod cwpl wedi ei ganfod yn crwydro ar ochr lôn yn gynnar yn y bore.

Mae Elgan yn nai i Elen
Mae stori Tyrbo wedi ennyn cymaint o ddiddordeb i'r pwynt ble mae Elen wedi ei droi'n llyfr i blant.
"Drwy'r haf, dim ots lle dwi wedi gweld pobl 'dwi'n nabod y cwestiwn dwi'n cael ydi "sut mae'r ci"?
"Mae cymaint o bobl wedi dweud y base hi'n stori dda i blant, ac yn sgil fy ngwaith fel golygydd llyfrau plant i Wasg Carreg Gwalch, ro'n i'n teimlo fod yn rhaid i mi fynd ati i neud.
"Dros yr haf es i ati i 'sgwennu ac roedd y stori yno'n barod, doedd y gwaith dychmygu ddim yno," meddai.

Elgan yn recordio'r gân yn stiwdio Edwin Humphreys
Yn ogystal â'r llyfr mae cân hefyd wedi cael ei ryddhau o'r enw Tyrbo, Ble Mae O.
Elgan, nai Elen sy'n canu'r gân am anturiaethau'r ci defaid.
Dywedodd Elgan: "Roedd o'n brofiad da recordio'r gân, o'n i'n canu lot yn yr ysgol fach a diolch i Edwin Humphreys am adael i ni ddefnyddio'r stiwdio i recordio'r gân," meddai.
Mae Tyrbo adre'n ddiogel erbyn hyn ond mae Elen yn gobeithio codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cŵn gwaith a chadw llygaid barcud hefyd ar Tyrbo i geisio osgoi iddo gael antur arall i ffwrdd o gartre' yn fuan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2016
