Siop cigydd Lamia ym Modedern yn cau ar ôl 108 o flynyddoedd

- Cyhoeddwyd
Mi fydd hi'n ddiwedd cyfnod ar Ynys Môn ddiwedd y mis wrth i'r siop cigydd E.T. Jones, neu Lamia, ym Modedern, gau ar ôl 108 o flynyddoedd. Mae'r siop wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd am safon eu cig.
Fe gafodd y busnes ei sefydlu yn 1915 gan Evan Jones ar safle'r hen dafarn Lamia Bach.
Er i'r teulu geisio newid yr enw dros y blynyddoedd, roedd pentrefwyr yn dal i gyfeirio ato fel Lamia ac mae'r enw wedi goroesi hyd heddiw.

Ers blynyddoedd mae wedi bod dan ofal trydedd a phedwaredd genhedlaeth y teulu - Ifan Jones a'i feibion, Bryn ac Iwan, fel yr eglurodd Ifan ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Mae o'n fusnas teuluol erioed. Mae'r hogiau yn y busnes, ac mae'r chwaer newydd ymddeol ers rhyw ddwy flynedd.

"Dwi'n lwcus fod y wraig, Wendy, yn gefnogol ofnadwy; bob dydd dwi yma, mae hi yma. Ar ôl gorffen gwneud y peis, mae hi'n mynd i edrych ar ôl y plant a mynd â nhw i'r ysgol.
"Mae Bryn yn gneud y selsig a'r byrgers, ac Iwan yn torri yn y cefn drwy'r amser. Dwi front of house, yn helpu pobl yn y siop.
"O'dd y ddau fab wedi deud bysa nhw efo fi tan y diwedd, ond mae o'n ormod o faich i gario 'mlaen. Nid penderfyniad ar chwarae bach mo hwn, ond mae'n bryd i mi ymddeol a chanolbwyntio ar fy iechyd a lles.
"Dwi'n teimlo ei bod hi'n amser i ni stydio mwy am y teulu a mwynhau ein hunain bach mwy."

Ddoe a heddiw - dau lun yn dangos y cigydd ar Stryd yr Eglwys, ddegawdau ar wahân
Dros ganrif o gwsmeriaid ffyddlon
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Ifan: "Gyda chalon drom rydym yn cyhoeddi bod ein busnes teuluol yn cau ddydd Sadwrn 31 Hydref ar ôl 108 o flynyddoedd rhyfeddol."
I Ifan, dyma ddiwedd ar 51 o flynyddoedd yn y siop, sydd wedi ennill gwobrau di-ri dros y blynyddoedd ynghyd â thwr o gwsmeriaid ffyddlon, sydd "wedi bod wrth galon popeth rydan ni'n ei wneud".

Tad Ifan, Evie Thomas Jones, a'i daid, Evan Thomas Jones, a agorodd y siop ar 12 Tachwedd 1918
Yn sicr, mae'r diwydiant cigyddiaeth wedi newid dros y ganrif ddiwetha' ers i'w daid, Evan, agor y siop, ond mae Ifan wedi bod yn barod iawn i addasu lle bod angen, meddai. Tan gyfnod COVID, roedd lladd-dy'r cigydd ar dir y siop, ond bu'n rhaid ei symud ar ôl i reolau dynhau.
Ond wrth gwrs, y cwsmeriaid sydd wastad wedi bod yn ganolbwynt i'r cyfan, gyda nifer ohonyn nhw wedi bod yn gadael negeseuon o gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddiolch am wasanaeth Ifan a'r teulu.
Fel yr eglura Ifan, "dwi'n g'neud y gorau i bawb, bob amser".

Ifan gydag un o'r amryw wobrau mae'r siop wedi eu hennill dros y blynyddoedd
Newid byd
Nawr, mae newid arall yn wynebu Ifan, a fydd ddim yn gorfod cyrraedd y siop erbyn 5 y bore i ddechrau ar ei waith, na 'chwaith yn gorfod delio gyda phrysurdeb yr holl archebion Nadolig, meddai.

Richie yn helpu ei daid gyda'r cig
Bydd cyfle nawr i dreulio amser gyda'i wyrion ac i adlewyrchu ar hanner canrif o waith, a thros ganrif o hanes teuluol.
"Nid ydym ond wedi codi busnes. Rydym wedi creu cyfeillgarwch ac atgofion a fydd gyda ni ymhell ar ôl i'r drysau gau.
"Mae hon yn foment emosiynol iawn i'n teulu, ac wrth i ni gau'r bennod yma, fe wnawn hynny gyda thristwch a gwerthfawrogiad anferthol o bawb fu'n rhain o'n stori."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2024

- Cyhoeddwyd26 Medi 2023

- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2024
