Dyn wedi'i arestio ar ôl i gorff gael ei ddarganfod mewn fflat ar Ynys Môn

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 53 oed o Ynys Môn wedi marw ar ôl cael ei ddarganfod mewn fflat yng Nghaergybi yn ystod oriau mân bore Sadwrn.
Mae dyn lleol 33 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth mewn cysylltiad â'r farwolaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Sul bod "ditectifs wedi cael mwy o amser i gwestiynu'r dyn."
Cafodd yr heddlu eu galw i fflat yn Llys Watling, ar Ffordd Llundain, am 02:42 ddydd Sadwrn, 17 Hydref, gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cafodd y dyn 53 oed ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Richard Sidney fod yr heddlu'n "deall y bydd y digwyddiad yn peri pryder i'r gymuned leol."
Ychwanegodd ei fod am ddiolch i'r gymuned leol am eu cymorth tra bod swyddogion yn parhau gyda'u hymchwiliad yn y cyfeiriad.
Yn gynharach, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd "unrhyw risg barhaus i'r cyhoedd."
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.