Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur

Robert CurlFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn 37 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ddydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Robert Curl o Ben-y-bont ar Ogwr yn y fan a'r lle ar 22 Mai yn dilyn gwrthdrawiad ar y B4265 rhwng beic modur Suzuki a char Toyota Yaris.

Dywedodd ei deulu fod Robert yn "fab, brawd, yn dad ac yn bartner annwyl, yn ewythr, ŵyr a nai yn ogystal â ffrind i nifer".

"Fe wnaeth e gyffwrdd â bywydau cymaint o bobl a bydd yn cael ei garu a'i golli bob amser."

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys cafodd ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad.

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn parhau, ac mae gyrrwr y Toyota Yaris yn helpu'r swyddogion gyda'u hymholiadau.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu eu hymholiadau i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig