Y gantores fyd-enwog Bonnie Tyler wedi marw yn 75 oed

Cafodd Bonnie Tyler, neu Gaynor Hopkins, ei geni yn Sgiwen, Castell-neddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bonnie Tyler, neu Gaynor Hopkins, ei geni yn Sgiwen, Castell-nedd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores fyd-enwog o Gymru, Bonnie Tyler, wedi marw yn 75 oed.

Wedi'i geni yng Nghastell-nedd, daeth hi'n seren yn yr 1980au gyda'r gân Total Eclipse of the Heart.

Cafodd ei rhuthro i'r ysbyty ym Mhortiwgal fis Mai ar gyfer llawdriniaeth frys a chafodd ei rhoi mewn coma wedi hynny er mwyn iddi wella.

Fis Mehefin, dywedodd llefarydd ar ei rhan ei bod hi allan o goma, ond yn parhau mewn uned gofal dwys.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ei bod wedi marw yn yr ysbyty ym Mhortiwgal o ganlyniad i'r salwch.

Bonnie Tyler yn 1983Ffynhonnell y llun, Bonnie Tyler
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Total Eclipse of the Heart ei rhyddhau yn 1983

Gaynor Hopkins oedd ei henw genedigol a bu'n canu ers ei bod hi'n 17 oed.

Ni ddaeth llwyddiant dros nos i'r ferch a gafodd ei geni mewn tŷ cyngor yn Sgiwen, a wnaeth berfformio yn gyntaf yng nghlybiau Abertawe.

Cafodd ei darganfod gan Roger Bell mewn clwb yn Abertawe, gan ryddhau ei sengl gyntaf, Lost in France, yn 1977.

Cyrhaeddodd It's a Heartache ganddi'r un flwyddyn a chyrraedd y pedwerydd safle ar siart senglau'r DU, a'r trydydd safle ar siart Billboard Hot 100 yn America.

'Merch fach swil iawn'

Ond unwaith i Total Eclipse of the Heart gael ei ryddhau yn 1983, mi newidiodd ei bywyd.

Roedd y fersiwn wreiddiol ohoni yn saith munud o hyd, ond daeth i frig y siartiau gyda'r fersiwn radio pedwar munud a'i chodi i sylw ymhell o glybiau Abertawe.

Bu'r gân ar frig siartiau'r DU am bythefnos ac ar frig siartiau UDA am bedair wythnos.

Dywedodd hi wrth y BBC yn ddiweddar nad oedd fyth yn blino ei chanu.

Bonnie Tyler
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n canu ers ei bod yn 17 oed, gan ryddhau ei sengl gyntaf, Lost in France, yn 1977

Cafodd ei hanrhydeddu gyda MBE am wasanaethau i gerddoriaeth yn 2022, a'i henwebu deirgwaith am Grammy, er na enillodd erioed.

Ymhlith ei chaneuon enwog mae Here She Comes, Holding Out for a Hero, Sitting on the Edge of the Ocean, If You Were a Woman a Faster Than the Speed of Night.

Yn 2013 fe gynrychiolodd y DU yng nghystadleuaeth Eurovision gyda Believe in Me.

Ni wnaeth hi erioed roi'r gorau i berfformio ac roedd ganddi gyfres o ddyddiadau ar gyfer taith eleni mewn sawl gwlad ar draws Ewrop.

Bonnie Tyler yn 2023
Disgrifiad o’r llun,

Bonnie Tyler yn 2023

Dywedodd Bonnie Tyler wrth y BBC y llynedd fod ei mam wedi ei magu i gredu ynddi hi ei hun.

Dywedodd ei bod yn "ferch fach swil iawn yn yr ysgol" ond ei bod wedi llwyddo i oresgyn hynny oherwydd ei chariad at ganu.

Roedd ei chariad at y diwydiant yn dal yn glir yn y cyfweliad hwnnw, ac roedd hi newydd ryddhau sengl newydd - Yes I Can - cân am ddod o hyd i gryfder mewnol a chredu ynoch chi'ch hun.

Gorchfygodd y byd cerddoriaeth, ac roedd hi wrth ei bodd yn Ewrop, a bydd Bonnie Tyler yn cael ei chofio fel un o leisiau mwyaf adnabyddus Cymru a'r byd.

'Eicon Cymreig'

Wrth roi teyrnged, dywedodd y cerddor a chyflwynydd Owen Money: "Dwi wedi ei 'nabod ers cyn iddi fod yn enwog, yn y 60au hwyr pan roedd hi'n dechrau ei gyrfa yn Abertawe.

"Mae fel teulu a dweud y gwir. Ro'n i yn ei thŷ haf diwethaf a'r peth cyntaf gwnaeth hi oedd agor potel o champagne.

"Roedd hi'n un o'r menywod yna oedd yn caru bywyd," meddai.

Wrth ymateb i'w marwolaeth, dywedodd ei fod "methu credu'r peth".

"Roedd hi'n ffan mawr o fy sioe, ac ro'n i'n ffan mawr o'i un hi.

"Nid yn unig oedden ni'n ffrindiau, ond roeddem yn cefnogi'n gilydd.

"Roedd hi'n parhau i fod yn enfawr yn Ewrop, yn Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, roedd hi mor dda.

"Mae'n eicon Cymreig."

Bonnie TFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Fe dderbyniodd Bonnie Tyler gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2013

Wrth gyflwyno ei rhaglen ar BBC Radio Wales, fe wnaeth y cyflwynydd a cherddor Bronwen Lewis roi teyrnged, gan ddisgrifio Bonnie Tyler fel "legend" ac yn "un ohonom ni".

"I bobl Sgiwen yng Nghastell-nedd lle cafodd ei geni a'i magu, Gaynor Hopkins oedd hi, merch i löwr ac fe wnaeth hi roi ein tref fach ni ar y map.

"Fel merch o Gastell-nedd a cherddor fy hun, dwi wastad wedi ei hedmygu a'r ffordd y mae wastad wedi bod yn hi ei hunan, ffeindio hiwmor ym mhopeth, a dangos i'r gweddill ohonom fod modd i chi wireddu eich breuddwydion dim ots o le rydych yn dod."

Ychwanegodd: "Bydd wastad yn cael ei chofio fel un o'r goreuon, a bydd ei hetifeddiaeth yn parhau yn ein calonnau yma yng Nghymru a thu hwnt am byth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig