Cyfrol Mererid Hopwood yn cipio Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026

Mererid Hopwood - MaeFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Mererid Hopwood Brif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 gyda'i chyfrol Mae

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prifardd Mererid Hopwood wedi ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026 gyda'i chyfrol farddoniaeth, Mae.

Cyhoeddwyd yr enillydd mewn seremoni yng Ngaleri Caernarfon nos Iau, gyda'r awdur yn derbyn £4,000 a thlws Llyfr y Flwyddyn.

Dywedodd y beirniaid fod y gyfrol yn llawn "tynerwch", "daerineb" a "gobaith" gan ei disgrifio fel casgliad oedd yn werth aros amdano.

Dyma'r tro cyntaf ers 2002 i gyfrol farddoniaeth ennill y Brif Wobr Gymraeg.

Mererid HopwoodFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Mererid Hopwood, gafodd ei geni yng Nghaerdydd, oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001 ac mae bellach yn Archdderwydd Gorsedd Cymru yn ogystal ag yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Mae yw ail gasgliad barddoniaeth Mererid, ac mae'n dwyn ynghyd degawd o gerddi sy'n trafod pynciau fel heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchedd a bod yn fam ac yn fam-gu.

Dywedodd Ifor ap Glyn ar ran y panel beirniadu: "Mae 'na dynerwch yn ei chanu; ond mae 'na daerineb hefyd; ac yn fwy na dim mae 'na obaith."

Ychwanegodd fod y casgliad yn adlewyrchu diddordeb dwfn Mererid mewn iaith ac yn dangos ei hymrwymiad i'r ymgyrch dros heddwch.

Anthony Shapland - A Room Above a ShopFfynhonnell y llun, Michal Iwanowski / Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Anthony Shapland Brif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2026 gyda'i nofel gyntaf, A Room Above a Shop

Yn y categori Saesneg, enillodd nofel gyntaf Anthony Shapland, A Room Above a Shop, y Brif Wobr Saesneg.

Mae'r nofel wedi'i lleoli yn ne Cymru yn ystod cyfnod Cymal 28 (deddf oedd yn gwrthwynebu hyrwyddo perthnasau hoyw) ac argyfwng HIV ac AIDS, ac mae'n adrodd stori gariad rhwng dau ddyn sy'n byw bywyd cudd.

Dywedodd y beirniaid fod y nofel yn "waith celf hardd" ac yn llais newydd arbennig yn llenyddiaeth Cymru.

Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni - Iestyn Tyne, Tri - Sonia EdwardsFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Iestyn Tyne a Sonia Edwards wobrau yn y categorïau Ffeithiol Greadigol a Ffuglen Gymraeg

Yn ogystal â'r prif wobrau, cafodd gwobrau eu cyflwyno mewn categorïau Ffuglen, Barddoniaeth, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Enillodd Iestyn Tyne y Wobr Ffeithiol Greadigol Gymraeg gyda Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau 'Atgof' Prosser Rhys, sy'n ail-ddilyn taith y bardd Prosser Rhys gan archwilio llenyddiaeth LHDTC+, rhagfarn a hunaniaeth.

Enillodd Sonia Edwards y Wobr Ffuglen gyda Tri, nofel drosedd sy'n dilyn cyfres o farwolaethau dirgel.

Y Cae Ras - Manon Steffan Ros, Trochi - Carwyn EckleyFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cipiodd Manon Steffan Ros Wobr Plant a Phobl Ifanc, tra enillodd Carwyn Eckley Wobr Barn y Bobl Golwg360

Cipiodd Manon Steffan Ros Wobr Plant a Phobl Ifanc gydag Y Cae Ras, nofel am deulu, pêl-droed a chefnogi Wrecsam drwy lygaid bachgen 12 oed.

Ond aeth Gwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni i Carwyn Eckley am ei gyfrol gyntaf, Trochi, sy'n casglu cerddi sy'n adlewyrchu ei brofiadau, ei ddiddordebau a'i fywyd fel bardd ifanc.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi bodoli ers y 1960au ac wedi cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004 i ddathlu'r gorau o lenyddiaeth Gymraeg a Saesneg Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.