Y siop chips Gymreig yn Arizona

Siop Chips Evans, FlagstaffFfynhonnell y llun, Evans Fish & Chips
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Flagstaff yn nhalaith Arizona'n ddinas â phoblogaeth o ryw 80,000 ac yn eistedd ar yr enwog Route 66.

Ond mae hefyd yn ardal bwysig yn nhermau natur - i'r de o Barc Natur y Grand Canyon, wedi ei hamgylchynu â choedwigoedd ac yn 7,000 troedfedd uwchben lefel y môr.

Felly, efallai ei fod yn le annhebygol i agor siop sglodion Gymreig, ond yn downtown Flagstaff mae Evans Fish & Chips Shop.

Flagstaff ArizonaFfynhonnell y llun, MattGush/GettyImages
Disgrifiad o’r llun,

Canol dinas Flagstaff, gyda chopaon y mynyddoedd San Fransisco ar y gorwel

Yn siarad â Cymru Fyw mae un o'r gweithwyr, Miranda, yn rhoi hanes y siop:

"Fe agorodd Evans Fish & Chips yn Flagstaff yn 2020 yn ystod pandemig COVID-19, yn ble roedd Primo's Deli'n arfer bod, ar ochr ddeheuol downtown Flagstaff.

"Roedd Primo'n le hynod o boblogaidd ac yn enwog am ei hot dogs, ac roedd pobl leol ac o bell yn gwirioni â'r lle.

"Cafodd y siop newydd ei agor gan Doug Evans, a oedd wedi gweithio'n y diwydiant bwyd yn Flagstaff ers 40 mlynedd, ac yn berchen ar le o'r enw Jitters Lunchbox.

"Mae gwraig Doug, Melodie Platt, yn dod o ogledd Cymru, a'i syniad hi oedd i agor siop chips draddodiadol yn Flagstaff.

"Yna fe weithiodd y ddau i ddatblygu bwydlen authentic ar gyfer y siop, gyda'r bwriad o greu bwyd y byddech chi'n ei ffeindio mewn siop chips ym Mhrydain yng ngogledd Arizona."

Siop Chpis Evans, FlagstaffFfynhonnell y llun, Evans Fish & Chips
Disgrifiad o’r llun,

Y pysgod a sglodion y mae Evans yn ei werthu

Mae gan y perchennog presennol, Joelle (sy'n cael ei galw'n Joe), wreiddiau Cymreig hefyd. Dywedodd Joe:

"Pan 'nes i ymchwilio i hanes fy nheulu, roeddwn i'n eithaf cyffrous i ddarganfod bod gen i wreiddiau Cymreig hefyd.

"Roeddwn i wastad yn credu mai o dras Wyddelig ac Albanaidd yn unig oeddwn i.

"Un o'r rhesymau pam roeddwn i eisiau cymryd y siop drosodd oedd cael mwy o gyfleoedd i gysylltu â fy hanes a threftadaeth trwy fwyd."

Siop Chpis Evans, FlagstaffFfynhonnell y llun, Evans Fish & Chips
Disgrifiad o’r llun,

Perchennog y siop heddiw, Joe, yn gweithio tu ôl i'r cownter

Mae'r staff yn ceisio sicrhau bod y profiadau y mae cwsmeriaid yn ei gael mor agos â phosib i'r hyn y mae pobl yn ei dderbyn yng ngwledydd Prydain, fel esbonia Miranda:

"Gan fod teulu Melodie 'di dod o Gymru'n wreiddiol fe wnaeth hi weithio gyda Doug i greu ryseitiau gwreiddiol y byddech chi'n ffeindio ym Mhrydain. Dros y blynyddoedd mae Joe wedi gwneud newidiadau yma ac acw gan gynnig opsiynau mwy lleol a thymhorol.

"Mae 'na ddynes o Nottingham sy'n byw yma, Autumn James, sydd hefyd wedi cyfrannu at y fwydlen bresennol. Felly er bod Siop Chips Evans wedi ei ysbrydoli gan Gymru, mae 'na ysbrydoliaeth o rannau eraill o Ynysoedd Prydain.

"Rydyn ni'n awyddus iawn i hyrwyddo'r elfennau traddodiadol a defnyddio cynhwysion lleol a thymhorol."

Siop Chpis Evans, FlagstaffFfynhonnell y llun, Evans Fish & Chips
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r cyfeiriadau i Gymru sydd i'w gweld ar y waliau yn y siop

Ydy'r siop yn cael dipyn o ymwelwyr o Gymru?

"Yndyn, yn aml," medda Miranda.

"Mae'r siop yn cael nifer o ymwelwyr o Gymru ac o weddill Prydain sy'n teithio drwy Flagstaff.

"Mae llawer ohonyn nhw'n dogfennu'r ffaith bod nhw 'di bod yma ar eu cyfrifon TikTok neu Instagram, a hefyd gadael adolygiad ar Google - 'dan ni newydd gael bach o sylw gan gyfrif poblogaidd @tayandalexx ar Instagram."

Siop Chpis Evans, FlagstaffFfynhonnell y llun, Evans Fish & Chips
Disgrifiad o’r llun,

Mwy o'r bwyd sydd ar gael yn y siop

Mae lleoliad Flagstaff yn helpu'r siop ddenu mwy o gwsmeriaid, fel dywedai Miranda.

"Mae fan yma'n un o'r mynedfeydd i ardal y Grand Canyon ac yn fan poblogaidd i ymwelwyr wneud bach o archwilio yng ngogledd Arizona, ac mae ar Route 66 a'r ffordd lawr i dde-orllewin yr Unol Daleithiau. Felly, mae'n fan poblogaidd i bobl sy'n teithio'r wlad stopio.

"Mae llawer o'r teithwyr sy'n stopio a dod i'r siop wrth eu boddau o gael profiad 'y chippy' mewn man mor annisgwyl - a'r ffaith bo' ni'n aml yn rhoi ongl Americanaidd ar y bwyd."

Siop Chpis Evans, FlagstaffFfynhonnell y llun, Evans Fish & Chips
Disgrifiad o’r llun,

Y ddraig goch i'w gweld yn glir i gerddwyr ar y palmant

Mae cael y ddraig goch yn amlwg tu allan a thu mewn y siop hefyd yn help i atynnu pobl, yn ôl Miranda:

"Yn sicr. Mae'r ddraig goch yn denu sylw ac yn gwneud i bobl fwynhau a chofio'r siop. Mae ymwelwyr yn gofyn am y dreigiau'n aml, ac mae pobl yn tynnu lluniau o'u hunain yn sefyll o flaen y siop yn rheolaidd.

"Mae ymwelwyr o Brydain, ac yn enwedig o Gymru wrth reswm, mae'r dreigiau'n dal y sylw ac yn creu cysylltiad yn syth pan mae rhywun yn dod drwy'r drysau. I eraill mae'n destun chwilfrydedd ac maen nhw'n gofyn am gysylltiadau'r siop â Chymru."

Siop Chpis Evans, FlagstaffFfynhonnell y llun, Evans Fish & Chips
Disgrifiad o’r llun,

Tu allan i'r siop ar South San Francisco St, Flagstaff

Oes gan Miranda neges i rywun o Gymru fydd efallai'n pasio drwy Flagstaff rhyw ddydd?

"Os 'dach chi'n mynd i'r Grand Canyon, i Arizona, yn teithio i Las Vegas neu'n mynd ar hyd Route 66, galwch draw bydden ni wrth ein boddau eich croesawu chi yma.

"Mae'r siop wedi ei hadeiladu ar y cysylltiadau â gogledd Cymru, ac rydyn ni wrth ein boddau yn siarad gyda phobl o Gymru neu o unman arall, yn clywed eich hanes.

"Os ydych chi'n pasio drwy dalaith Arizona rhowch wybod o ble 'dach chi'n dod, a pheidiwch anghofio dweud helo wrth y dreigiau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig