Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio wedi ymgyrch heddlu arfog

Cafodd Heddlu'r De eu galw i Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun wedi adroddiad o wrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i ddynes farw yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i Heol Coety ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 12:43 ddydd Llun yn dilyn adroddiad o wrthdrawiad car.
Dywedodd y llu bod gyrrwr y car, dynes 47 oed o Ogledd Corneli, wedi dioddef anafiadau nad oedd yn gysylltiedig gyda'r gwrthdrawiad, a'i bod wedi'i chludo i'r ysbyty. Bu farw'n ddiweddarach.
Roedd y car wedi taro wal, meddai'r heddlu.
Mae dyn 61 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Nid yw'r dynes fu farw wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol ond mae ei theulu wedi cael gwybod.
Mewn teyrnged, mi wnaeth llefarydd ar ran cymdeithas tai Valleys to Coast gadarnhau bod aelod o'u staff yn rhan o'r digwyddiad a bod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r person hwnnw.
Ychwanegodd y llefarydd fod y gymdeithas yn gweithio'n agos gyda'r heddlu, ond na "fyddai hi'n briodol i ni wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd".

Mae fideos o'r digwyddiad yn dangos 12 o swyddogion arfog yn mynd i mewn i'r adeilad
Mae adeilad wedi cael ei wagio ac mae presenoldeb sylweddol gan yr heddlu wedi bod yn ardal Ger-y-nant wedi'r digwyddiad.
Mae'r heddlu'n annog y cyhoedd i osgoi'r ardal.
Mae Darren Owen, 33, wedi byw gyferbyn â Ger y Nant ers 18 mlynedd, a dywedodd ei fod yn "bryderus gweld yr holl heddlu".
"O'dd e'n rhyfedd gweld e i gyd y tu allan i'r ffenest, heddlu arfog, dronau a faniau, cerbydau heddlu yr holl ffordd at yr ysbyty.
"Dwi erioed wedi gweld dim byd fel yma o'r blaen, chi'n gweld heddlu ond nid gymaint â hyn o heddlu arfog yn dringo ar ben yr adeilad.
"Do'n i methu stopio gwylio i weld beth o'dd yn digwydd, do'dd dim syniad 'da ni."


Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Jason Rees: "Mae dyn bellach yn y ddalfa yn dilyn ymgyrch heddlu sylweddol yn Ger-y-nant dros nos.
"Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n achosi gofid mawr, ac mae ein meddyliau gyda theulu'r dioddefwr a phawb sydd wedi cael eu heffeithio. Diolchwn i'r gymuned leol am eu cefnogaeth, sydd wedi arwain at arestiad, heb i neb arall gael anafiadau.
"Diolchwn i'r rhai a gafodd eu symud o'u cartrefi dros nos am eu cydweithrediad yn ystod cyfnod pryderus, wrth i ni eu cynorthwyo i ddychwelyd adref.
"Diolchwn hefyd i'r gymuned leol am eu cydweithrediad wrth i'n hymchwiliad barhau."
Presenoldeb yr heddlu dal yn amlwg fore Mawrth
Mae'r wybodaeth gan Heddlu De Cymru yn dal yn brin, ac mae'n dawel iawn ac yn wlyb yma'r bore yma, felly dydw i heb weld llawer o bobl o gwmpas.
Mae presenoldeb sylweddol yr heddlu yn dal i fod yma, gyda swyddogion a cherbydau'r heddlu ar y safle.

Mae adeilad wedi'i wagio yn dilyn y digwyddiad ddydd Llun
Dydyn ni ddim yn gallu mynd yn agos at dai Ger y Nant - llety lloches ar gyfer pobl dros 60 oed sy'n cynnwys 13 o fflatiau.
Mae fideos o'r digwyddiad ar Stryd y Nant, sydd ddim yn bell o ganol Pen-y-bont, wedi'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dangos 12 o swyddogion arfog yn mynd i mewn i'r adeilad.
Mae fideo arall hefyd yn dangos fan heddlu yn gadael y safle tua hanner nos, nos Lun.
Roedd Heol Coety ar gau am rai oriau neithiwr a hynny wedi achosi cryn dipyn o oedi i deithwyr yng nghanol Pen-y-bont.
Mae'n ardal brysur i draffig fel arfer, yn arwain at yr orsaf drenau a chanol y dref i un cyfeiriad ac i Ysbyty Tywysoges Cymru i gyfeiriad arall.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.