Ifan Davies: Y cerddor a'r cyflwynydd a'i gariad tuag at radio

Ifan DaviesFfynhonnell y llun, Ifan Davies
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Pan oedd Ifan Davies yn tyfu fyny, roedd o'n ystyried y darlledwr Huw Stephens yn dipyn o arwr.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, prin oedd prif leisydd y band Sŵnami yn dychmygu y byddai'n camu mewn i esgidiau Huw Stephens ar nos Iau a chael slot gyflwyno barhaol ar donfeddi Radio Cymru.

Mae'r orsaf wedi cyhoeddi mân newidiadau i'r amserlen wrth i Ifan Davies baratoi i gyflwyno ei raglen gyntaf ar nos Iau yn lle Huw Stephens, fydd nawr yn symud i ddarlledu yn gynnar ar foreau Sadwrn yn dilyn ymddeoliad Richard Rees.

"Dwi'n gwrando ar raglenni Huw ers y dechre, pan oedd o ar Radio 1, 6Music a'i raglenni cerddoriaeth ar nos Iau ar Radio Cymru, fo oedd fy arwr radio cyntaf," meddai Ifan.

Huw Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens yn ei ddyddiau ar BBC Radio 1

Er nad yw llais Ifan yn un dieithr i wrandawyr Radio Cymru, dyma fydd ei raglen gyntaf barhaol, wedi iddo eistedd fewn yn lle sawl cyflwynydd gwahanol dros y blynyddoedd.

"'Nes i ddechre cyflwyno pan o'n i yn y coleg ac ro'n i'n ofnadwy o ddiolchgar i'r diweddar Magi Dodd am ofyn i mi fod yn un o gyflwynwyr y Cwis Pop ar Radio Cymru.

"Roedd hwnna'n andros o hwyl ac yn brofiad da iawn i mi ddechre," cofiai.

Ers hynny mae Ifan wedi cyflwyno rhaglenni BBC Radio 1, cyd-gyflwyno rhaglen ar Radio Cymru gyda Siân Eleri, ac ers dros flwyddyn, mae wedi bod yn cyflwyno ar brynhawniau Gwener ar Radio Cymru ar ôl i Tudur Owen gamu i ffwrdd o'r slot yn y prynhawn.

Er mai cerddoriaeth yw prif ddiléit ac arbenigedd Ifan, mae'n cyfaddef iddo deimlo ychydig yn bryderus pan gafodd gynnig i gamu fewn i esgidiau Tudur.

"Ro'n i bach yn bryderus; roedd gen i brofiad o gyflwyno rhaglenni cerddoriaeth, ond mae cyflwyno yn y prynhawniau yn wahanol, mae'r tôn yn wahanol a 'nes i erioed ddychmygu fy hun fel cyflwynydd ar gyfer slot y prynhawn.

"Ond mae'n rhaid i mi ddeud nes i fwynhau yn fawr a dwi'n gobeithio dod ag elfennau o'r rhaglen brynhawn Gwener i mewn i'r rhaglen newydd ar nos Iau.

"'Wrach y byddwch chi'n clywed Jac Northfield a Mollie Palmer yn achlysurol ar nos Iau hefyd," meddai.

Magi Dodd ac Ifan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cyfle cyntaf Ifan i gyflwyno ar Radio Cymru gyda'r diweddar Magi Dodd

Yn ei raglen newydd, gobaith Ifan yw plethu ychydig o'r hyn yr oedd yn ei wneud yn y prynhawniau a chwarae cerddoriaeth arbenigol fydd yn apelio at bawb.

Mae eleni wedi bod yn gyfnod prysur iddo. Yn ogystal â chyflwyno ar y radio, mae hefyd wedi bod yn brysur yn ffilmio cyfres newydd i S4C.

"Tair Cân fydd enw'r gyfres newydd ble fydd bandiau Cymru yn cael her neu thema benodol ar gyfer pob rhaglen. Dwi wedi cael lot o hwyl yn g'neud y gyfres ac mi fydd hi allan cyn bo hir," meddai.

O ran ei raglen radio newydd, mae Ifan yn falch o gael bod yn rhan o gyfrwng y mae wir yn ei werthfawrogi.

"Dwi wrth fy modd gyda radio; dwi'n meddwl fod y radio'r un mor berthnasol heddiw nag erioed.

"Dwi'n edrych ymlaen at ddod ag elfen weledol i'r rhaglen hefyd.

"Mi fydd gynnon ni eitem o'r enw Sesiynau Organ, fydd yn rhoi cyfle i artistiaid a bandiau heddiw greu cerddoriaeth ar organau mewn llefydd traddodiadol a sydd o bwys diwylliannol yn eu hardaloedd nhw.

"Dwi ddim eisiau i bethau sydd wedi ein siapio ni fel Cymry fynd yn angof, felly dwi'n meddwl y bydd o'n eithaf cŵl clywed caneuon a sesiynau yn cael eu perfformio ar hen organau.

"Mae gynnon ni lwyth o syniadau cyffrous a dwi wirioneddol edrych ymlaen at ddechrau arni."

Bydd rhaglen Ifan Davies ymlaen pob nos Iau ar BBC Radio Cymru rhwng 1900-2100.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.