Rhybudd 'creisis cetamin' gan gyn-ddefnyddiwr fydd â phroblemau am byth

Mae Sioned Roberts, 25, yn dal i fyw gyda sgileffeithiau defnyddio cetamin
- Cyhoeddwyd
Mae elusen i bobl sydd wedi profi problemau â chyffuriau yn dweud eu bod wedi gweld "cynnydd enfawr" yn nifer y bobl sy'n dod atyn nhw am help ar ôl defnyddio cetamin.
Mae'n gyffur sy'n aml yn cael ei ddefnyddio gan feddygon a milfeddygon, ond mae'n gallu cael effeithiau a dinistriol o'i gamddefnyddio'n rheolaidd.
Yn ôl un sydd wedi profi effaith y cyffur ar ei chorff a'i bywyd, mae cymdeithas yn wynebu "creisis cetamin" ac mae angen i fwy ddeall y peryglon.
Mae elusen ac arbenigwr wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn gweld plant mor ifanc ag 13 ac 14 oed yn defnyddio eu gwasanaethau.
Un sy'n byw â sgileffeithiau cetamin yw Sioned Roberts, 25, o Lanfair-ym-Muallt.
Dechreuodd gymryd y cyffur ar nosweithiau allan gyda'i ffrindiau, ond dros amser trodd hynny'n beth fwy rheolaidd, ac yna'n arferiad dyddiol.
Dywedodd: "Yn y foment pan ti'n gwneud cetamin, ti ddim yn teimlo unrhyw beth, ti ddim yna, do'n i ddim yn gwybod be' sy'n mynd ymlaen efo fy nheulu, efo fy mherthynas, fy ffrindiau, does dim byd yn botheran fi pan fi'n neud e.
"Ond pan ti'n stopio cyffuriau, ti'n delio gyda'r problemau in real life ac mae'n gwneud e deg gwaith yn waeth.
"Dwi wedi gwneud cetamin ers saith mlynedd i gyd a nawr dwi'n gwneud yn ok ond mae bladder fi dal wedi shrinko, dwi'n cael infection ar ôl infection.
"Mae'n bearable ond dwi wedi gorfod newid beth dwi'n yfed, beth dwi'n bwyta, beth dwi'n gwneud," meddai.
'Problemau am weddill fy mywyd'
Dywedodd iddi weld sawl meddyg gwahanol yn sgil poenau difrifol yn ei stumog, ond nad oedd yr un doctor wedi holi a oedd yn cymryd cetamin.
"Dyw'r bobl broffesiynol ddim yn gwybod digon am y broblem, a mae'n dod yn fwy popular nawr.
"Ma' llawer o bobl yn gwneud e, dwi'n meddwl ni basically mewn creisis efo cetamin a mae'r help, beth ni angen, ddim yna, mae'n shame."
"Pan o'n i wedi mynd i'r ysbyty, o fi'n bump stôn (32kg)... o' nhw dal ddim wedi gofyn i fi os o'n i'n gwneud cetamin neu unrhyw gyffuriau, ac mae'n eithaf amlwg fod rhywbeth yn mynd ymlaen."
Mae BBC Cymru wedi siarad ag arbenigwyr a sefydliadau o fewn y maes sy'n dweud bod profiad Sioned yn un fyddai llawer wedi wynebu, ond maen nhw'n dweud bod y sefyllfa yn gwella o ddydd i ddydd, gyda mwy o ymwybyddiaeth ac addysg erbyn hyn ynghylch sgileffeithiau cetamin o fewn y gwasanaeth iechyd.
Beth yw cetamin?

Mae cetamin yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ar anifeiliaid ac yn y byd meddygol, ond mae hefyd yn cael ei werthu'n anghyfreithlon oherwydd ei effeithiau rhithweledigaethol (hallucinogenic).
Mae meddygon wedi dweud wrth y BBC ei fod yn bresenoldeb cynyddol o fewn cymdeithas, yn rhannol oherwydd ei fod ar gael yn rhwydd, ac am bris rhatach na chyffuriau eraill.
Cafodd cetamin ei uwchraddio o gyffur dosbarth C yn 2014 oherwydd tystiolaeth gynyddol ynghylch ei beryglon corfforol a seicolegol.
'Dwi mor ddiolchgar'
Derbyniodd Sioned gymorth gan wasanaeth adfer Kaleidoscope, rhywbeth wnaeth achub ei bywyd, meddai, "dwi mor ddiolchgar".
"Ti'n gallu stopio fe os ti'n cael cefnogaeth o dy amgylch, ond os ti ddim, mae'n really anodd achos ti'n cael poen, ac mae'r teimladau i gyd yn dod 'nôl pan ti'n dechrau mynd yn sobor eto."
Ychwanegodd: "Dwi'n mynd i gael y problemau yma am weddill fy mywyd ond mae'n gallu bod yn well os ti'n stopio nawr."

Dywedodd Carys Jones fod 'na "gynnydd enfawr" wedi bod yn y nifer sy'n defnyddio gwasanaethau Adferiad
Mae elusen gyffuriau Kaleidoscope wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n cael eu hatgyfeirio at eu gwasanaeth yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf.
Dywedon nhw mai dau berson gafodd eu hatgyfeirio yn 2021, ond bod hynny wedi cynyddu i 121 hyd yma eleni.
Mae mwyafrif y rhai sy'n cael eu hatgyfeirio rhwng 18 a 24 oed.
Tebyg yw profiad elusen arall, Adferiad, a dywedodd Carys Jones o'r elusen eu bod yn "gweld mwy a mwy o bobl yn dod i gael yr help 'ma yn wythnosol".
"'Da ni'n gweithio mewn partneriaeth gyda House of The Vivienne ac maen nhw'n gwneud drop in sessions ar ddydd Mawrth a 'da ni'n gweld pobl a phlant mor ifanc ag 14 oed yn dod trwy'r drws ac yn defnyddio'r gwasanaethau 'ma.
"Mae 'na gynnydd enfawr.
"Mae'n bwysig i ni gael y gwasanaethau 'ma, chi'n gweld gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl, cyffuriau gwahanol ond nid yn specific ar gyfer cetamin, ma' fe'n really bwysig i ni gael rhywbeth specific oherwydd yr effeithiau mor eang."

Mae help gyda dibyniaeth cetamin yn wahanol i gyffuriau eraill, meddai Dr Darren Quelch, gan fod cleientiaid yn iau ac mae anghenion meddygol cymhleth
Mae ymchwil yn digwydd ar hyn o bryd i geisio gwella dealltwriaeth o anghenion y bobl sy'n fwyaf tebygol o fod angen cymorth.
Dywedodd Dr Darren Quelch o Brifysgol De Cymru fod cyfweliadau â defnyddwyr gwasanaeth arbenigol yn awgrymu bod defnydd cetamin yn dechrau mor ifanc ag 13 oed.
Dywedodd fod y niwed corfforol sy'n cael ei achosi gan ddefnydd parhaus yn amrywio o broblemau cof a phoen cronig, i ddifrod i'r bledren a methiant yr arennau.
Ychwanegodd fod gwasanaethau cymorth yn gorfod addasu'n gyflym gan fod anghenion y defnyddwyr yn fwy cymhleth.
"Nid delio â chyflwr meddygol cymhleth iawn yw eu gwaith arferol," meddai.
"Hyd yn oed pe baent yn gwneud hynny, mewn gwirionedd dydyn ni ddim yn gwybod eto beth yw'r ateb cywir."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd16 Ionawr

- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2025
