Diwedd cyfnod i Richard Rees wedi 50 mlynedd o raglenni cerddoriaeth

- Cyhoeddwyd
Roedd y diwydiant cerddoriaeth yn lle gwahanol iawn pan wnaeth Richard Rees chwarae ei gân gyntaf ar y radio yn 1976: roedd popeth ar finyl a doedd 'na'm ffasiwn beth â ffrydio.
Ond wrth iddo roi'r gorau iddi ar ôl hanner canrif o gyflwyno gyda'i raglen olaf ar 11 Ebrill mae 'na un peth sydd heb newid - ei gariad at gerddoriaeth.
Pan oedd Richard Rees yn ei arddegau yn ardal Llanelli ar ddiwedd yr 1960au a dechrau'r 1970au, doedd y sîn Gymraeg ddim yn ei gyffroi.
Roedd yn mynd i rai nosweithiau Pinacl Pop ble byddai nifer o fandiau yn chwarae mewn neuaddau gan gynnwys Hogia'r Wyddfa, Dafydd Iwan a'r Perlau. Ond bandiau fel Led Zeppelin a Free yn y byd cerddoriaeth Saesneg oedd yn mynd â'i sylw.
Recordiau Sain
"I fod yn hollol onest, i rywun oedd yn gwrando'n gyson ar gerddoriaeth Radio 1 doedd y gerddoriaeth Cymraeg pryd hynny ddim mor exciting â hynna," meddai wrth Cymru Fyw.
"Roedde ti'n gwrando ac yn dilyn, ond oedd e ddim yn rhywbeth oedd yn dy gyffroi di."
Ond roedd pethau yn brysur newid iddo fo a cherddoriaeth Gymraeg.

Ers ei sefydlu yn 1969 roedd cwmni recordiau Sain wedi bod yn datblygu ac yn arloesi drwy wella ansawdd recordiau Cymraeg oedd yn help i ddatblygu artistiaid fel Meic Stevens, Hergest a Heather Jones. Erbyn canol yr 1970au roedd 'na gyffro yn y byd pop Cymraeg.
Yn 1976, ar ôl cyfnod yn gweithio'n llawrydd gyda Sain Abertawe a Radio Cymru, fe gafodd Richard Rees gynnig i gyflwyno Sosban, rhaglen gerddoriaeth bob bore Sadwrn ar yr orsaf genedlaethol.
Sesiynau Sosban
Mae angen dipyn o gerddoriaeth i lenwi tair awr bob wythnos. Er bod y nifer o fandiau wedi cynyddu erbyn 1976 roedd llawer llai na heddiw, a doedd 'na ddim stôr o gerddoriaeth yn yr archif chwaith.
Felly roedd Sosban yn rhoi hwb i grwpiau a'u helpu i recordio.
"Hwnna oedd bwriad Sosban yn y bôn - ro'n ni'n rhoi cyfleoedd i fandiau oedd ddim yn cael y cyfleoedd i recordio ac roedden ni'n gwneud sesiwn bob wythnos reit o'r dechrau," meddai.
"Roedd bandiau'n hala tapiau mewn ac wedyn bydden ni'n trefnu sesiwn gyda nhw, fel arfer yn stiwdio BBC, yn Llandaf. Ac wedyn roedden ni'n darlledu'r caneuon gyda chyfweliad fel arfer yn fyw bore Sadwrn.
"Rwy'n credu bod Sosban wedi rhoi cyfle i lot fawr o artistiaid – Ail Symudiad, bandiau fel Bwchadanas, Maffia Mr Huws, Crys, roedd y rhain i gyd yn fandiau gafodd sesiynau gan Sosban."

Richard Rees gydag un o'i gyfeillion o'r Gorllewin - y chwaraewr rygbi a'r cyflwynydd radio, y diweddar Ray Gravell
Roedd y rhaglen hefyd yn ffordd o greu bwrlwm yn niwylliant Cymraeg a galluogi pobl ifanc i gysylltu efo'i gilydd.
"'Wedodd rhywun wrtha i'n ddiweddar mai Sosban oedd Facebook y cyfnod," meddai.
"Os oedd rhywun yn Coleg Bangor eisiau trefnu dawns gyda rhywun yn Aberystwyth roedden nhw'n 'neud e trwy Sosban.
"Doedd cael rhyw 100 o alwadau ffôn ar fore Sadwrn yn ddim byd - a llythyre."
Elin Fflur yn creu argraff
Ers y cyfnod hynny mae Richard Rees wedi gwneud nifer o swyddi gwahanol yn y cyfryngau – gan gynnwys bod yn gyhoeddwr teledu a chynhyrchydd teledu a radio.
Ond ar hyd y blynyddoedd mae cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth wahanol i Radio Cymru a Radio Wales wedi bod yn rhan gyson o'i yrfa.
Mae'r artistiaid sydd wedi creu argraff arno dros y degawdau fel darllen llyfr hanes roc Cymraeg – Edward H, Jarman, Bando, Maffia Mr Huws, Brodyr y Ffin. Ac mae o wedi cyfweld nifer fawr o gerddorion gan gynnwys sêr byd enwog fel Paul McCartney, Queen a 10CC.
"Un o'r artistiaid gafodd yr argraff fwyaf arna i oedd Elin Fflur," meddai.
"Pan glywes i'r albwm Dim Gair yn 2002 'nes i jyst feddwl, 'waw, pwy yw hon?'. A dwi wedi bod yn ffan mawr o Elin byth ers hynny."

Yn 2006 fe gafodd gynnig cyflwyno rhaglen gerddoriaeth ar Radio Cymru ar foreau Sadwrn. Er bod amser y slot wedi newid ambell waith, mae'r rhaglen wedi parhau am 20 mlynedd – tan nawr. Bydd yn cyflwyno ei raglen olaf ar 11 Ebrill, 2026.
"Mae 'di bod yn hanner can mlynedd, mae 'di bod yn grêt, thank you very much ond dwi'n credu bod hi'n bryd gorffen."
Er bod cymaint mwy o gerddoriaeth ar gael bellach, un peth sydd wedi dirywio ydy'r cysylltiad rhwng y cyflwynydd a'r artistiaid, meddai.
Pan oedd artist yn rhyddhau albwm newydd roedd o'n eu cyfweld wyneb yn wyneb, yn magu perthynas ac yn cadw llygad am unrhyw recordiau newydd ganddyn nhw.
Roedd o hefyd yn gallu trosglwyddo'i wybodaeth i'r gwrandäwr wrth gyflwyno'r caneuon. Gyda chyfweliadau ffôn a chaneuon wedi eu gyrru'n ddigidol – yn hytrach nag ar finyl neu CD gyda'r holl wybodaeth ar y clawr - mae hynny wedi diflannu.

Gyda Dewi Pws, Gillian Elisa a Ray Gravell
"Un o'r beiau mawr ar y sîn Cymraeg ar hyn o bryd yw bod ti ddim yn gwybod pwy sy'n gwneud beth," meddai. "Ti'n cael rhywbeth wedi ei hala atat ti fel ffeil MP3 neu fel wav file. Does 'na ddim gwybodaeth ynglŷn â phwy oedd yn chwarae bâs, pwy oedd yn chwarae drums, pwy ar lead guitar.
"So, mewn blynyddoedd i ddod, mewn 20 mlynedd, bydd rhywun yn eistedd yn Radio Cymru neu ble bynnag ac yn cyflwyno rhaglen yn edrych nôl ar 2026 ac yn meddwl: 'O ie, band yma, ym, pwy oedd y rhain te?'."
Ac er ei fod yn rhoi'r gorau i gyflwyno, fydd Richard Rees ddim yn rhoi'r gorau i'w gerddoriaeth.
"Yn amlwg mae yna elfennau o gerddoriaeth newydd dwi'n hoff iawn ohonyn nhw, mae yna elfennau o gerddoriaeth newydd dwi ddim mor keen arnyn nhw," meddai.
"Ond bydda i'n dal i wrando, bydda i'n dal i ffeindio bandiau ac unigolion dwi'n hoff iawn ohonyn nhw a bydda i'n cadw llygad, ac yn sicr yn dal i ddilyn."

Dewis caneuon rhaglen olaf Richard Rees
Ar gyfer ei raglen olaf mae Richard Rees wedi dewis rhai o'r bandiau a'r artistiaid sydd wedi golygu'r mwyaf iddo'n bersonol dros yr hanner can mlynedd diwethaf.
Felly dyma'i restr chwarae olaf... a gwrandewch ar y rhaglen olaf ar BBC Radio Cymru am 05:30 ar 11 Ebrill neu ewch draw i wrando ar BBC Sounds.
Beti Wyn - Mynediad am Ddim
Trip i Llandoch - Ail Symudiad
Ray o'r Mynydd - Fflur Dafydd
Mynd i Ffwrdd Fel Hyn - Meic Stevens
Nos Sul a Baglan Bay - Huw Chiswell
Becci'n Chwarae'r Blues - Heather Jones
Ysbrydion - Dewi Pws
Noson Dawel Iawn - Crys
Mae Rhywbeth Mynd i Ddigwydd - Lowri Evans
Noson Arall Efo'r Drymiwr - Steve Eaves
Rhythm Yn Y Glaw - Cleif Harpwood
Dau - Catsgam
An Dealchadh - Runrig
Penodau Ein Bywydau Ni - Mojo
Fel Hyn Oedd Pethe Fod - Caryl Parry Jones
Ydy Hi'n Amser - Mered Morris
Sneb Yn Becos Dam - Edward H Dafis
Codi Cestyll - Mei Gwynedd
Mae'r Ysbryd Yn Troi - Elin Fflur
Dyddiau Da - Delwyn Siôn
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023
