Staff amgueddfeydd Cymru'n wynebu ymddygiad 'erchyll' gan 'bobl blin'

Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Richardson fod y broblem o ran yr ymddygiad at staff yn waeth ers y pandemig

GanMark PalmerUned Wleidyddol BBC CymruaGwydion ap Llyr EdwardsBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr Amgueddfa Cymru'n dweud bod gweithwyr ym mhob un o'u hamgueddfeydd yn gorfod delio ag "ymddygiad ymosodol" gan ymwelwyr "blin".

Ni ddywedodd Jane Richardson pam bod ymwelwyr yn troi at ymddygiad "erchyll" o'r fath, ond yn aml mai "merched, iau, yn aml o gefndir ethnig lleiafrifol" oedd yn derbyn y driniaeth.

Fe ddatgelodd hi hefyd bod amcangyfrif y gost i drwsio'r Amgueddfa Genedlaethol tua £66m - yn lle'r amcangyfrif blaenorol o £40m.

Ychwanegodd Ms Richardson wrth siarad ag ASau ar Bwyllgor Diwylliant y Senedd na fyddai'n bosib "cadw'r amgueddfa ar agor yn barhaol" os nad yw'r gwaith trwsio'n digwydd.

Yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd Ffynhonnell y llun, AMGUEDDFA CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerth tua £66m o waith atgyweirio angen cael ei gwblhau ar yr Amgueddfa Genedlaethol, medd prif weithredwr Amgueddfa Cymru

Roedd yr ASau yn cynnal eu sesiwn graffu flynyddol gyda phrif weithredwr Amgueddfa Cymru a chadeirydd y sefydliad, Kate Eden.

Mae yno saith o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan ac Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon.

Dywedodd Ms Richardson fod y broblem o ran yr ymddygiad at staff yn waeth ers y pandemig. Mae rhai pobl yn "flin" ac yn ymddwyn yn "ymosodol".

Rhywbeth arall sy'n digwydd yno meddai yw bod pobl yn ymweld tra'n gwisgo camera ac yn trio cychwyn helynt gyda chyd-weithwyr yn fwriadol.

Awgrymodd Ms Richardson hefyd fod y rhai sy'n gwneud hynny yn postio'r deunydd fideo ar y we.

"Mae gennyn ni gydweithwyr sydd wedi dioddef o hynny," meddai.

Amgueddfa yn 'cau ei hun'

Ychwanegodd Ms Richardson nad yw peidio â thrwsio'r Amgueddfa Genedlaethol yn y brifddinas yn opsiwn.

"Ni all yr amgueddfa barhau i weithredu, mae'n cau ei hun."

Bydd cynllun llawn ar gyfer y gwaith trwsio yn barod flwyddyn nesaf, meddai.

Ond nododd mai'r amcangyfrif presennol ar gyfer trwsio'r hyn y galwodd hi'n "bethau diflas… mecanyddol, trydanol a phlymio", yw £66m.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.