Teyrnged i fyfyriwr 'caredig ac addfwyn' a gafodd ei drywanu

Bu farw Jamie Collins, 21 oed, o anafiadau trywanu yn dilyn digwyddiad yn ei dŷ yn Filton, ger Bryste
- Cyhoeddwyd
Mae teulu myfyriwr o Abertawe a fu farw ar ôl digwyddiad yn ardal Bryste wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jamie Collins, 21 oed, o anafiadau trywanu yn dilyn digwyddiad yn ei dŷ yn Filton, lle'r oedd yn byw tra'n astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.
Mae Zack Coughlan, 23 oed, a oedd yn byw gyda Mr Collins yn y tŷ ar Cleve Road, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd teulu Mr Collins ei fod yn "ddyn ifanc galluog, caredig ac addfwyn gyda'i fywyd cyfan o'i flaen".

Mae'r heddlu'n parhau gyda'u hymoliadau yn ardal Cleve Road yn Filton
Cafodd y gwasanaethau brys eu galwyn oriau man 9 Ebrill.
Cafwyd hyd i gorff Mr Collins yng ngardd gefn yr eiddo a dywedodd yr heddlu eu bod yn credu ei fod wedi marw rhai oriau ynghynt.
Ymddangosodd Mr Coughlan, a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr gyda Mr Collins, yn Llys y Goron Bryste ddydd Mercher.
'Edrych ymlaen at symud yn ôl i Abertawe'
Dywedodd teulu Mr Collins "ni all geiriau ddisgrifio sut rydyn ni'n teimlo fel teulu ar hyn o bryd".
Ychwanegon nhw ei fod yn "edrych ymlaen at symud yn ôl i Abertawe" ar ôl gorffen ei radd peirianneg a roboteg.
"Mae'r cariad a'r gefnogaeth rydyn ni wedi ei dderbyn gan ffrindiau Jamie a'n ffrindiau ni wedi ein llethu a hoffem ddiolch i bawb am eu negeseuon caredig wrth i ni barhau i alaru'n breifat."
Dywedodd Prifysgol Gorllewin Lloegr fod Mr Collins yn "weithgar yng nghymdeithasau myfyrwyr".
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Mae'r brifysgol wedi synnu'n fawr gan y newyddion am farwolaeth ein myfyriwr Jamie mewn amgylchiadau mor ofidus.
"Mae ein meddyliau gyda theulu Jamie yn yr amser trist iawn hwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.