Cofio Tad-cu wnaeth helpu Yuri Gagarin i'r gofod

Vasily Parin ar y chwith ac Elena Parina ar y dde Ffynhonnell y llun, Elena Parina
  • Cyhoeddwyd

Am flynyddoedd roedd gan Vasily Parin gyfrinach ddifyr - roedd yn rhan o'r tîm wnaeth helpu Yuri Gagarin i fod y dyn cyntaf yn y gofod.

Yn ôl ei wyres Elena Parina, sydd o Rwsia ac yn ymchwilio i'r iaith a llenyddiaeth Gymraeg, doedd neb o'r teulu, hyd yn oed ei wraig, yn gwybod am gyfraniad arloesol ei thad-cu tan flynyddoedd ar ôl y digwyddiad mawr 65 mlynedd yn ôl.

Meddyg gwyddonol o Ymerodraeth Rwsia oedd Vasily Parin, ac yn y blynyddoedd yn arwain at daith Gagarin, roedd yn ymchwilio i effaith teithio i'r gofod ar y galon a chylchrediad y gwaed.

Ei waith ymchwil i effaith awyrgylch y gofod ar y corff dynol wnaeth ofalu bod Gagarin yn cyflawni ei siwrne yn y gofod yn llwyddiannus, ac yn dychwelyd yn ôl i'r ddaear yn ddiogel.

Laika, y ci gofod

Yn ystod yr 1950au roedd yr Undeb Sofietaidd wedi bod yn anfon cŵn i'r gofod er mwyn archwilio a fyddai'n bosib i anfon pobl i'r gofod. Yn 1957 fe lwyddon nhw - a ci o'r enw Laika oedd yr anifail cyntaf i gylchdroi'r ddaear, roddodd obaith i wyddonwyr o'r hyn fyddai'n bosib ymhen blynyddoedd i ddod.

LaikaFfynhonnell y llun, Heritage Images

Roedd Vasily Parin yn rhan o'r digwyddiad arloesol hwnnw. Meddai Elena, sydd erbyn hyn yn byw yn yr Almaen: "Roedd fy nhad-cu yn un o benaethiaid yr adran feddygol fiolegol a gefnogodd Laika, y ci cyntaf i gyrraedd y gofod, ond yn bwysicach na hynny, y person cyntaf i gyrraedd y gofod, sef Yuri Gagarin.

"Roedd anfon Laika, y ci, i'r gofod yn rhan bwysig o gyrraedd y gofod. Yn anffodus, roedd 'na gymaint o gŵn na gyrhaeddodd, ond fe lwyddodd Laika."

Tad-cu Elena ac Yuri Gagarin

Yn dilyn taith lwyddiannus Laika, roedd yr Undeb Sofietaidd yn barod i anfon dyn i'r gofod, gyda Vasily Parin yn parhau yn rhan ganolog o'r tîm oedd am wireddu'r freuddwyd - a threchu America yn y ras ofod.

Ar Ebrill 12 1961 aeth Yuri Gagarin i'r gofod ar y capsiwl Vostok 1, hedfan drwy'r gofod am 90 munud gan gylchdroi o amgylch y ddaear, cyn glanio'n ôl yn ddiogel yn yr Undeb Sofietaidd.

"Mae'n fraint i fod yn rhan o'r hanes yma," meddai Elena. "Welais i erioed fy nhad-cu, roedd wedi marw cyn i mi gael fy ngeni ond clywais straeon gan fy nhad.

"Yn Ebrill 1961, fe aeth Vasily Parin ar daith busnes heb i'r teulu wybod i le na pham. Daeth yn ôl gyda chrafiad ar ei foch, a dim ond flynyddoedd wedyn fe ddwedodd wrth ei wraig i nôl headpiece Gagarin o faes gofod Baikonur, ac yna daeth fy mam-gu i ddeall ei ran yn nhaith Yuri Gagarin.

"Fy mam-gu oedd y person cyntaf i gael post o'r gofod. Fe aeth Gagarin ȃ llythyr a sgwennwyd gan fy nhad-cu gyda fo i'r gofod ac yn ôl. Roedd o'n dweud 'I Nina Parina, y ddynes gyntaf yn y byd i gael post o'r gofod', a mae'r llythyr nawr yn yr amgueddfa ymchwil gofod ym Moscow.

Yuri GagarinFfynhonnell y llun, Bettmann/Getty

Dylanwad Vasily Parin ar ei deulu

"Dwi'n dod o deulu hollol wyddonol - mae gan Mam a Dad ddoethuriaeth mewn bioleg. Ond roedd fy nhad yr unig un o bedwar i fynd y ffordd wahanol. Gweithiodd y ddau frawd a chwaer mewn gwyddoniaeth neu fferylleg.

"Ac mae'n hawdd deall pam - roedd eu tad, Vasily Parin, yn bersonoliaeth aruthrol, yn wyddonydd meddygol ac yn weinyddwr ymchwil talentog. Roedd hefyd wedi bod yn is-weinidog iechyd Sofietaidd a phennaeth ysgol feddygol ym Moscow."

Bu bywyd a gyrfa Parin yn un llawn lliw a dirgelwch. Dim ond wyth mlynedd cyn taith Gagarin, treuliodd wyth mlynedd yng ngharchar o 1947-54 am gyhuddiad o ddatgelu cyfrinach am feddyginiaeth canser i Americanwyr.

"Pan ddaeth yn ôl o'r carchar, adnabu fy nhad a oedd yn naw erbyn hyn mohono fo - yn sydyn dyn hen heb ddant oedd o (ac yntau yn 50 oed). Ond stori hapus rywsut oedd hi hefyd - daeth yn ôl i'r ymchwil at baratoi taith fawr Gagarin a daeth yn un o benaethiaid cyntaf sefydliad ymchwil meddygol y gofod."

Elena a Chymru

ElenaFfynhonnell y llun, MATIAS REPETTO BONPLAND

Yn hytrach na dilyn ôl troed ei thad-cu i yrfa wyddonol, camu i faes Astudiaethau Celtaidd wnaeth Elena, a'i hysgogi i ddysgu Cymraeg:

"Ces i fy ngeni a fy magu ym Moscow, ond ers wyth mlynedd dw i'n byw ym Marburg, yng nghanol yr Almaen. Dw i'n gweithio yma mewn adran astudiaethau Celtaidd ac yn ymchwilio i iaith a llên Gymraeg - ac yn dysgu Cymraeg i fyfyrwyr ambell waith.

"Ges i ddiddordeb mewn chwedlau Cymraeg, chwedlau gwerin a chwedlau canoloesol, pan oeddwn i'n blentyn. A phan es i astudio ieithyddiaeth roeddwn i'n lwcus iawn i gyfarfod yr Athro Andrey Korolev, a gyflwynodd i mi gymaint o wybodaeth am bethau Celtaidd.

"Dechreuais i ddysgu Cymraeg cyfoes yn Freiburg yn yr Almaen yn ystod fy nhymor tramor, a mynychais gyrsiau Nant Gwrtheyrn a roddodd gymaint i fi. Ac wrth gwrs, fe wnes i ddysgu llawer ar fy mhen fy hunan."

Fe gafodd fersiwn o'r erthygl hon ei chyhoeddi yn wreiddiol yn 2021

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig