Siân James: Amseru creu grŵp Pedair yn 'rhodd'

Sian James a Manon Steffan RosFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Sian James a Manon Steffan Ros

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae eleni wedi bod yn gyfnod prysur iawn i'r cerddor a'r actor Siân James.

Nid yn unig ei bod hi'n rhyddhau albwm newydd ar y cyd â Sioned Webb, ond mae ganddi hefyd gyfrol newydd sbon ar y gweill.

Yn ei hystafell fyw yn ei chartref yn Llanerfyl, dyma rai o'r pethau oedd ganddi i'w dweud wrth Manon Steffan Ros ar raglen Llwyfan ar Radio Cymru.

Pedair yn 'rodd mewn cyfnod heriol'

PedairFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn / Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Pedair

Cafodd Pedair ei sefydlu fel grŵp arbrofol ar y pryd yn 2017 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Môn ym Modedern.

Roedd y cyfuniad o Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Siân James yn perfformio ar lwyfan gyda'i gilydd yn apelio at drefnwyr yr Eisteddfod ac yn cynnig cyfle i archwilio straeon merched yng nghaneuon gwerin Cymru.

Perfformion nhw yn y Tŷ Gwerin y flwyddyn honno, ac mae'r gweddill yn hanes. Mae Siân yn disgrifio perthynas y grŵp fel "rhodd" iddi a bod yr amseru wedi ei helpu mewn "cyfnod heriol" yn ei bywyd.

"Mi ddigwyddodd o mewn cyfnod dipyn bach yn heriol i mi'n bersonol achos roedd gen i bach o broblemau iechyd ac roedd o jyst fel rhodd.

"Mae mor hyfryd gallu bod ar lwyfan lle wyt ti'n rhannu'r faich ac mae'r ymateb hefyd wedi llonni fy nghalon i ddeud y gwir.

"Dwi' teimlo'n ofnadwy o freintiedig. Rydyn ni wedi gallu teithio i lefydd pellennig iawn fel Patagonia a Chanada. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel," meddai.

Perthynas efo'r Delyn a'r Piano

Sian James

Mae Siân yn adnabyddus am ei gallu cerddorol ar sawl offeryn gwahanol.

Roedd y traddodiad o chwarae'r delyn yn ardal Dyffryn Banw yn un poblogaidd iawn yn y cyfnod pan oedd Siân yn blentyn yn yr ardal.

Mae hi'n diolch i'w mam am ei pherswadio i ddysgu canu'r delyn ond yn cyfaddef mai chwarae'r piano yw ei "chariad cyntaf."

"Piano oedd yng nghariad cyntaf i achos o'n i chwech oed yn dysgu'r piano.

"O'n i'n blentyn oedd yn licio, hyd yn oed yn yr oedran yna, o'n i'n licio cyfansoddi.

"Ond o'n i'n licio'r ffaith bod fi'n gallu jest ffidlan, a dwi dal i alw fo'n ffidlan, efo nodau. A wedyn yn nes ymlaen, roedd Mam yn driving force mawr," meddai

Roedd Mam Siân yn ffrindiau mawr gyda Frances Môn Jones, a oedd yn ddylanwad enfawr yn yr ardal o ran canu'r delyn.

Cafodd Siân ei dysgu gan Frances cyn dod i chwarae gyda hi ac Ieuan Jones, Mathrafal mewn gwahanol gyngherddau dros y ffin yn Lloegr ac yng Nghymru.

Ond mae'r profiad o ganu'r delyn a chwarae'r piano yn hollol wahanol i Siân.

"Mae ffidlan wrth y delyn a ffidlan wrth y piano yn ddau brofiad gwbl wahanol i fi.

"Does dim diwrnod yn mynd heibio lle dwi ddim yn canu piano. Yn sicr fyddai'n mynd at y piano pob dydd.

"Mae bron fel therapi. Dwi bob amser yn teimlo'n well ar ôl gwneud hynna. Does dim dwywaith bod gallu creu, ar ba bynnag lefel mae rhywun yn ei wneud o, mae o'n gwneud lles i dy enaid di a lles i dy iechyd di," meddai.

Cwpwrdd Dwynwen Jones ac albwm newydd

Siân James a Sioned WebbFfynhonnell y llun, Ffotograffiaeth Mefus
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Webb a Siân James

'Nôl yn 2011 fel rhan o raglen Trac ar S4C fe wnaeth Siân ddechrau casglu hen alawon o'i hardal a chofnodi rhai o'r caneuon hynny.

Mae hyn wedi arwain Siân at ysgrifennu cyfrol o'r caneuon, alawon gwerin a hen arferion yr ardal fydd allan dros gyfnod y Nadolig.

Mae dylanwad modryb Siân, sef Dwynwen Jones yn rhan allweddol o'r gwaith yma.

"Rhyw flwyddyn yn ôl, mi ges i'r syniad yma fyswn i'n mynd nôl at Dwynwen i weld tybed oes oedd ganddi fwy o storis.

"Bobol annwyl, roedd o'n brofiad anhygoel. Fyny yn yr hen dŷ lle oedd Dwynwen yn byw, roedd ganddi hen gwpwrdd mawr derw. Roedd o'n gorlifo efo hen lyfrau a phapurau.

"Nid papurau o'r genhedlaeth ddiwethaf neu cyn hynny, ond rhai yn mynd 'nôl i'r 19eg ganrif.

"Hen lyfrau nodiadau yn llawn hen ganeuon sydd bellach wedi mynd yn angof, felly dwi wedi bod yn cofnodi'r rheiny.

"Yn ystod y cofnodi fe aeth Dwynwen yn sâl ac fe gollon ni hi, felly roedd y gwaith hyd yn oed mwy pwysig yn fy nghalon i na chynt," meddai.

Roedd Siân hefyd yn sôn am ei gwaith gyda Sioned Webb gyda'r ddwy'n perfformio deuawd ar y piano dan yr enw Sonant.

"Daeth Sioned a fi at ein gilydd i greu deuawd i'r piano. Mi wnaethon ni gyngerdd efo'n gilydd yn Steddfod Genedlaethol Caerdydd.

"Roedden ni'n cyd-chwarae efo lot o bethau, wedyn dyna sut ddaru ni ddechrau gweithio ar y syniad yma o greu gwaith i ddau biano. Fe wnaeth pethau ddatblygu o hynny deud y gwir," meddai.

Mae rhai traciau wedi cael eu rhyddhau yn barod ac bydd albwm Sonant ar gael ddiwedd Mis Mai eleni.

I wrando ar y sgwrs yn ei chyfanrwydd rhwng Manon a Siân, cliciwch yma

Hefyd o ddiddordeb:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig