Peiriannydd o Ynys Môn wedi marw mewn damwain tractor - cwest

Cafodd y cwest i farwolaeth Endaf Telford Jones ei gynnal yn Llys y Crwner, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cwest i farwolaeth Endaf Telford Jones ei gynnal yn Llys y Crwner, Caernarfon

GanCarwyn Jones
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod peiriannydd o Ynys Môn wedi marw o ganlyniad i ddamwain ym mis Mawrth 2025.

Roedd Endaf Telford Jones, 49 o Engedi, yn gweithio ar y pryd ar fferm rhwng Y Fali a Chemaes.

Mewn datganiad, dywedodd ei wraig ei fod yn "weithiwr mor galed... fyddai yn gwneud unrhyw beth i'w deulu".

Daeth y rheithgor i'r casgliad fod Endaf Telford Jones wedi marw o ganlyniad i ddamwain ac achos ei farwolaeth oedd asffycsia o ganlyniad i gael ei wasgu (crushed asphyxia).

rhyd-wyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Endaf Telford Jones yn gweithio ar dractor yn Fferm Hafoty yn Rhyd-wyn ger Porth Swtan

Clywodd y cwest fod Mr Jones yn gweithio ar dractor yn Fferm Hafoty yn Rhyd-wyn ger Porth Swtan ar ddiwrnod ei farwolaeth.

Mrs Enid a Jane Hughes - mam a merch oedd yn berchen ar y fferm, a dyn o'r enw Gareth Taylor oedd yn gyfrifol am redeg y fferm o ddydd i ddydd.

Clywodd y cwest fod DJS Hydraulics, cwmni sy'n arbenigo mewn peiriannau fferm wedi derbyn galwad gan Mr Taylor i anfon rhywun draw i'r fferm i edrych ar dractor oedd yn gollwng hylif hydrolig.

Cafodd Mr Jones ei anfon i'r fferm ar 12 Mawrth 2025, gan gyfarfod â Mr Taylor, a wnaeth ddangos y tractor iddo.

Gwelodd nad oedd oddeutu pedair peipen hydrolig yn addas bellach ac angen eu newid.

Ar ôl dangos y tractor iddo, clywodd y cwest fod Mr Taylor wedi gadael y safle.

Yn ddiweddarach aeth Mr Jones i safle'r cwmni yn Amlwch i gael peipiau hydrolig newydd i'r tractor oedd â llwythwr (loader) arno ar y pryd.

Fe gyrhaeddodd Mr Jones yn ôl yn fferm Hafoty gyda'r cydrannau am 11:55.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher, dywedodd Mr James William Benton - un o ymwchilwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) - fod aelod o staff cwmni DJS Hydraulics ar safle'r cwmni ym Mangor wedi derbyn galwad gan Mr Endaf Jones, lai na hanner awr yn ddiweddarach am 12:19.

Un o'i gydweithwyr, Mr Robert Holland dderbyniodd yr alwad, sy'n dweud nad yw'n cofio llawer o'r hyn gafodd ei ddweud.

Clywodd y cwest fod yr alwad yma yn anodd iddo i'w deall, a bod Mr Holland yn credu ei fod wedi clywed Mr Jones yn dweud rhywbeth tebyg i "ambiwlans".

Fe geisiodd ei ffonio yn ôl, ond dywedodd ei fod wedi methu cael ateb.

Yn ddiweddarach, fe dderbyniodd aelod arall o weithwyr y cwmni, Dafydd Hughes, oedd i ffwrdd o'r gwaith y diwrnod hwnnw, ond yn digwydd byw yn ardal y fferm, alwad ffôn yn gofyn iddo fynd draw yno.

Fe gyrhaeddodd Mr Hughes y fferm a darganfod Mr Jones yn farw yno wedi'i wasgu rhwng bloc falf dau ar y tractor a'r llwythwr oedd wedi'i osod ar flaen y tractor.

Dywedodd Mr Benton o'r HSE: "Fe wnaeth Mr Jones newid nifer o'r pibellau hydrolig yn llwyddiannus cyn ei farwolaeth."

Er hynny, ychwanegodd fe wnaeth Mr Jones gamgymryd fod un o'r pibellau wedi ei gwagio, pan nad oedd wedi.

"Rwy'n credu fod y lle'r oedd Mr Jones yn sefyll ar yr adeg pan wnaeth o ddatgysylltu un o'r falfiau wedi achosi, yn anffodus, iddo gyfangu arno ei hun."

Nododd ei fod hefyd o bosib wedi camgymryd lliwiau'r falfiau.

Aeth ymlaen i ddweud fod Mr Jones yn dechnegydd oedd â llawer iawn o brofiad a nifer o gymwysterau.

Byddai'r llwythwr ar y tractor, oedd ar y pryd yn wynebu'r llawr wedi codi "yn sydyn" yn ôl Mr Benton.

Daeth y rheithgor i'r casgliad fod Mr Jones wedi marw o ganlyniad i ddamwain ac achos ei farwolaeth oedd asffycsia o ganlyniad i gael ei wasgu (crushed asphyxia).

Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal gan batholegydd y Swyddfa Gartref Dr Brian Rogers.

Dywedodd Dr Rogers fod ychydig iawn o dystiolaeth yn dangos fod Mr Jones wedi profi anafiadau allanol, ond fod yr anafiadau mewnol yn niferus.

Nododd fod yna orlenwad mewnol (internal congestion) ar lawer o'r organau mewnol gan gynnwys yr ymennydd a'r ysgyfaint.

Nododd fod Mr Jones wedi marw o ganlyniad i asffycsia o ganlyniad i gael ei wasgu (crushed asphyxia).

'Diwrnod gwaethaf fy mywyd'

Clywodd y cwest ddatganiad ysgrifenedig a gafodd ei ddarllen ar ran gwraig Mr Jones, Rhian.

Dywedodd: "O oed ifanc roedd yn well gan Endaf weithio ar beiriannau.

"Roedd yn fachgen hyfryd, ond bob amser yn fudr" oherwydd ei waith.

Aeth ymlaen i ddweud fod Endaf yn llawn balchder ers dod yn dad.

"Roedd yn weithiwr mor galed a dim ond isio darparu ar gyfer ei deulu. Roedden nhw'n meddwl y byd o'u tad, ac roedd yntau yn caru ei blant.

"Byddai yn gwneud unrhyw beth i'w deulu."

Ychwanegodd Mrs Jones fod ei diweddar ŵr wastad yn tynnu coes am gael ymddeol o'i waith pan oedd yn 50 oed.

Ond dywedodd: "'Naeth o erioed gyrraedd ei 50.

"Y diwrnod ges i'r gnoc yna ar y drws oedd diwrnod gwaethaf fy mywyd."

Diolchodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley i bawb oedd yn bresennol, gan ddymuno pob lwc i aelodau o deulu Mr Jones oedd yn bresennol wrth symud ymlaen yn y dyfodol.

Nododd Mr Benton o'r HSE fod y cwmni, DSE Hydraulics wedi cael argymhellion at y dyfodol.

Mae hynny'n cynnwys addasu rhywfaint ar asesiad risg, oedd mewn lle, ond ddim yn ddigon manwl ar brydiau.

Maent hefyd wedi cael cais i gofnodi yn ffurfiol yr hyfforddiant mae nhw'n ei roi i'w staff.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig