Merched Soar yn cipio dwy wobr gyntaf yn yr Ŵyl Ban Geltaidd

Merched Soar gyda'u tlysau yn Carlow
- Cyhoeddwyd
Mae 23 o ferched o ardal Tregaron newydd ddychwelyd adref o'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow, Iwerddon, gyda dwy wobr gyntaf.
Fe gystadlodd Côr Merched Soar yn yr ŵyl flynyddol sy'n ddathliad o gerddoriaeth a diwylliant Celtaidd rhwng 7-12 Ebrill gan ddod i'r brig yng nghystadleuaeth y Côr Merched a'r Côr Traddodiadol.
Â'r côr yn dathlu dengmlwyddiant eleni, mae Carys Mai wrth ei bodd gyda llwyddiant y côr yn 2026 hyd yma.
Meddai: "Rwy'n arweinydd eithriadol o lwcus achos mae gyda fi griw o ferched sydd mor ymroddgar, mor dalentog, a sy'n gymaint o sbort. Mae'n gwneud fy ngwaith i'n rhwydd iawn a fi'n eithriadol o falch bod yr holl waith ni wedi ei 'neud wedi talu ffrwyth dros y penwythnos."
Dychwelyd adref ar ôl croeso cynnes yn Carlow
Ac mae trigolion Tregaron hefyd yn ymfalchïo yn llwyddiant y merched sy'n ymarfer bob nos Fawrth yn festri capel Bwlchygwynt yng nghanol y dref.
"Mae'r croeso a'r cyfarchion ni wedi ei gael ers dod yn ôl yn hollol hyfryd, mae pawb yn falch iawn o'n llwyddiant ni ac mae rhywun o Tegaron wedi codi baner yr Ŵyl Ban Geltaidd i ddathlu llwyddiant y côr."
Yn rhan o arlwy Merched Soar wrth gystadlu yn y Côr Merched a'r Côr Traddodiadol roedd perfformiad o sianti Gymraeg a Mil Harddach, a pherfformiadau i drefniannau Carys o'r alawon gwerin Robin yn Swil a'r Gwydr Glas.

Arweinydd balch, Carys Mai yn cydio'r tlysau gydag aelodau brwd Merched Soar
Beth oedd argraffiadau Carys o'r ŵyl sy'n croesawu cystadleuwyr o Gymru, Iwerddon, Yr Alban, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw ers dros hanner canrif?
"Oedd e'n ffantastig, mae'n ŵyl sy'n dathlu a hyrwyddo'r gwledydd Celtaidd i gyd ac roedd Carlow yn leoliad bendigedig. Yn amlwg roedd y busnese a'r siopau i gyd wedi prynu i mewn i'r ŵyl.
"Oedd y lle yn llawn baneri a cherddoriaeth byw ymhob man. Roedd digon o godi canu felly roedd yr awyrgylch yn hyfryd a roedd croeso mawr i ni yna hefyd.
"Yn sicr mae e wedi ysbrydoli ni i gystadlu yno eto. Falle dim bob blwyddyn ond falle am yn ail.
"Licien i ddweud diolch yn fawr iawn i Elan Davies, ysgrifennydd y côr, hi nath drefnu'r daith a hefyd diolch i'r cyfeilyddion oedd wedi helpu mas yn Carlow."

Amser dathlu i Ferched Soar
Ar ôl misoedd o ymarferion i gyrraedd y brig mewn dwy gystadleuaeth, roedd yn rhaid dathlu.
"Fuodd yna ddathlu mawr tan yr oriau mân - digon o Guiness yn llifo, lot fawr o godi canu a chwerthin a fi'n siŵr ein bod ni wedi gadael ein marc ar Carlow," chwarddai Carys.
Ac yn ôl Carys roedd cynrychiolaeth wych o Gymru yn yr ŵyl, yn cystadlu ac yn diddanu:
"Aethon ni i Noson Lawen Gymreig hwyliog iawn ar y nos Wener. Dwi'n meddwl bod tua naw côr o Gymru wedi cymryd rhan yn y Noson Lawen ac yn cystadlu dros y penwythnos.
"Gaethon ni gyngerdd gwych yng ngwesty'r Seven Oaks gyda eitemau gan y corau i gyd, partïon dawnsio, roedd Lo-fi Jones yn chwarae a band o'r enw Paid Gofyn felly gawson ni noson wirioneddol wych."
Degawd o ganu i Ferched Soar
Daeth Merched Soar at ei gilydd i ganu am y tro cyntaf yn 2016 ac ers hynny mae'r côr wedi tyfu, fel eglurai Carys:
"Daeth grŵp bach ohonon ni at ein gilydd i ganu ensemble yn Eisteddfod Gadeiriol Tregaron ddeg mlynedd yn ôl ac mae'r côr jest wedi tyfu o ran hynny.
"Mae'r aelodau'n dod o bob cwr o'r sir erbyn hyn, o Dalybont yn y gogledd i lawr i Derwen-gam, Llanwnnen a Chwrt-newydd yn ne'r sir.
"Ry'n i'n griw amrywiol mewn lot o swyddi gwahanol, lot ohonon ni'n famau ond ni'n neud yr amser bob nos Fawrth i ddod at ein gilydd a nin mwynhau canu a chymdeithasu."

Cyngerdd mawreddog Merched Soar yn Llanbed yn 2025 i godi arian at ymchwil canser
Beth sydd nesaf i'r côr ar flwyddyn pen-blwydd Merched Soar yn ddeg oed?
"Mae gyda ni gyngerdd yng Nghaffi Becca yn Efailwen nos Wener 24 Ebrill ac ar 10 Mai fyddwn ni yn oedfa cyntaf y flwyddyn yng Nghapel Soar y Mynydd.
"Ry'n ni wrthi'n paratoi oedfa fydd yn gymysgedd o ganeuon a darlleniadau amrywiol. Ni'n edrych ymlaen yn fawr i hynny."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd16 Hydref 2025
