Mab a merch - un nod, tri marathon, pedair wythnos

- Cyhoeddwyd
Gan ddechrau ym Mharis dydd Sul bydd y cyflwynydd teledu Sean Fletcher a'i ferch Lili yn cychwyn ar orchest i gwblhau tri marathon mewn pedair wythnos er budd elusen iechyd meddwl... a hynny o ganlyniad i anrheg pen-blwydd ddwy flynedd yn ôl.
Doedd Lili Fletcher, sy'n 28 ac o Gaerdydd, erioed wedi redeg ras hir o'r blaen pan ddaeth y syniad i'w meddwl wrth i Sean ddathlu ei ben-blwydd yn 50.
Nawr bydd hi a'i thad yn gobeithio cwblhau marathonau yn ninasoedd Paris, Llundain a Copenhagen, gan orffen yr her yn Nenmarc ar ddydd Sul 10 Mai, wedi cyfanswm o 78.6 milltir (126.6km)
"Nath e' gyd ddechrau pan wnaeth Dad droi yn 50 ac o'n i yn meddwl be' alla i brynu e," meddai Lili
"O'n i meddwl mae'n eithaf hoffi rhedeg so 'na'i brynu ras hanner marathon iddo ef a fi wneud, achos o'n i byth wedi rhedeg hanner marathon.
"Nathon ni wneud yr hanner marathon yn Venice ac oedd e'n anodd ofnadwy. Ond ar ôl hynny nes i droi rownd a dweud, 'be' os ni'n gwneud marathon llawn!? A beth am redeg tri marathon a hynny ar gyfer charity?'."

Mae Sean yn llysgennad i elusen iechyd meddwl Young Minds UK.
Dywedodd fod y ffigwr 3 yn fodd o gysylltu ag amcan yr elusen, sef tynnu sylw i'r ffaith fod un ym mhob tri o'r 500,000 o bobl ifanc sy'n aros am driniaeth iechyd meddwl yn gorfod aros dros ddwy flynedd.
Ychwanegodd fod iechyd meddwl hefyd yn rhywbeth sydd wedi effeithio ei deulu, felly mae'r tad a'r ferch yn rhedeg gyda'r nod o godi arian ar gyfer elusennau Mind ac Young Minds drwy'r wefan JustGiving.
"Ar y dechrau y syniad oedd cyfuno'r tri marathon o fewn amser penodedig, a dyma benderfynu ar y rhif chwech, sef tri mewn chwech," meddai Sean.
Ond mae'r newyddiadurwr a chyflwynydd teledu yn cyfaddef er ei fod yn gallu rhedeg, dyw mathemateg ac ystadegau ddim mor gryf, ac fod yr her erbyn hyn hyd yn oed yn fwy!
Rhyw fis yn ôl ar ôl astudio'r dyddiadau roedden nhw wedi eu dewis yn fwy manwl wnaeth y ddau sylweddoli eu bod yn rhedeg y tri marathon o fewn pedair wythnos yn hytrach na chwech, fel roedden nhw wedi ei obeithio!
Yn cellwair dywedodd Sean: "Yn syml dy' ni ddim yn gwybod be' dy' ni'n ei wneud! Ond ni'n gwybod ein bod yn rhedeg tri marathon!"

Bydd y ddau'n rhedeg Marathon Llundain ar ddydd Sul 26 Ebrill.
Meddai Lili: "O'n ni eisiau gwneud Llundain a meddwl... pa ddau farathon arall sy'n agos i Lundain. Mae Paris pythefnos cyn Llundain ac wedyn Copheagen pythefnos ar ôl."
Mae Sean yn cofio'r diwrnod pan benderfynwyd ar y drefn.
"Roedd hi ar y cyfrifiadur ac yn meddwl 'Sydney a New York a Barbados, Hawaii...' a fi'n dweud 'hang on, dy' ddim yn gallu fforddio hyn'".
"I fi roedd e mwy fel Brighton a Basingstoke, a 'nathon ni ddewis mynd i Baris a Copenhagen, a Llundain yn y canol."

Mae'r ddau wedi bod yn hyfforddi, gan amlaf gyda'i gilydd ers mis Awst y llynedd.
Dywed Lili eu bod nhw'n rhedeg un ras hir yr wythnos wrth hyfforddi a gallai hynny fod hyd at dair awr a hanner. Byddai'r wythnos hefyd yn cynnwys dwy ras ganolig ac un sesiwn arall ysgafnach.
"Ddechrau mis Chwefror o'n ni'n adio 15 munud bob wythnos i'r sesiwn hir nes i ni gyrraedd tair awr a hanner a hynny'n rhyw 35km."
Ychwanegodd Sean: "Doedd ddim lot o hyfforddi yr wythnos hon - dim ond ryw hanner awr. Mae'n rhy hwyr i wneud gwahaniaeth nawr."

Sean yn ymarfer yn yr awyr iach
"I ddechrau o'n i lot gwell na Lili ond nawr mae'n siŵr fod hi yn well na fi. Mae jest yn dda fel tad i weld sut mae hi wedi dod yn rhedwr mor dda.
"Oedd e'n brosiect pen-blwydd wnaeth dyfu'n rhywbeth llawer mwy.
"Mae ein perthynas ddeg gwaith yn well oherwydd ein bod yn treulio gymaint o'n hamser gyda'n gilydd."
Mae Lili hefyd o'r farn fod hyfforddi a rhedeg gyda'i gilydd wedi bod yn help enfawr.
"Dwi'n meddwl bod e'n haws oherwydd ein bod ni'n gwneud e gyda'n gilydd; os ma' un yn teimlo 'dwi methu wneud e', mae'r un arall yn tynnu ni trwyddo fe."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Ionawr

- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd3 Hydref 2025
