O redeg yn y cyfnod clo i ddod yn 7fed yn y She Ultra

Ariannell yn gwisgo ei medal She UltraFfynhonnell y llun, Ariannell Parry
Disgrifiad o’r llun,

Ariannell yn gwisgo ei medal She Ultra

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae merch o Walchmai ddaeth yn seithfed allan o tua 2,500 o ferched yn y digwyddiad She Ultra ym Mhen Llŷn dros y penwythnos yn dweud bod dechrau rhedeg yn y cyfnod clo wedi newid ei bywyd.

Fe gyflawnodd Ariannell Parry, 27 oed, y cwrs 50 cilomedr sy'n cychwyn ac yn gorffen ym Mhwllheli mewn pedair awr, 57 munud, 33 eiliad.

Wrth adlewyrchu ar ei champ dros y penwythnos, meddai Ariannell:

"Do'n i ddim yn athletig o gwbl yn ysgol. Wnes i ddim 'neud gym fel TGAU, nes i ddim 'neud dim fel'na. Do'n i byth yn cael fy mhigo i team sports."

O gasáu chwaraeon i garu rhedeg

 hithau'n falch iawn o redeg y cwrs mewn llai na 40 munud tu ôl i Sanne Vinks a ddaeth yn gyntaf, mae Ariannell yn dweud i'w chariad tuag at redeg dyfu dros y blynyddoedd diwethaf.

"Wnes i ddechrau rhedeg yn y cyfnod clo. Dwi wedi bod yn mynd i'r gym a mynydda lot hefyd ond yn y cyfnod clo nath o i gyd spurtio," eglurai Ariannell.

"Dwi'n mwynhau'r rhyddid o fod allan yna a dwi ddim yn rhoi dim pwysau arna fi fy hun.

"Dwi'm yn licio dim team sports felly mae rhedag yn rhoi rhyddid i fi 'neud be' dwi isio, dwi ddim yn gorfod 'neud neb arall yn hapus wrth redag ac mae'n rhoi'r rhyddid i fi fynd cyn gwaith a gallu mynd i rwla."

Mararthon cyntaf Ariannell, Marathon ManceinionFfynhonnell y llun, Ariannell Parry
Disgrifiad o’r llun,

Marathon cyntaf Ariannell, Marathon Manceinion

Dros y pum mlynedd diwethaf mae Ariannell wedi herio ei hun fel rhedwr ac fel person drwy gystadlu mewn llu o ddigwyddiadau rhedeg.

"Mi wnaeth rhedag yn y cyfnod clo ddangos i mi sut mae bod yn gyson yn datblygu chdi, dwi reit bengaled felly ro'n i isio gwella.

"Erbyn hyn dwi wedi 'neud pum marathon lôn. Yr un gynta' wnes i oedd Marathon Manceinion.

"Wnes i joio hwnna yn fwy na wnes i feddwl felly ar ôl hynna neshi fynd ymlaen i 'neud Marathon Cybi yn Sir Fôn, ac yna ultra marathon Firelighter ar hyd arfordir yr ynys. Ges i first female yn hwnna felly fuodd hynny'n lot o help o ran hyder."

Marathon SydneyFfynhonnell y llun, Ariannell Parry
Disgrifiad o’r llun,

Marathon Sydney

'Hyfforddi'n talu ffordd'

Ddydd Sadwrn 11 Ebrill fe gychwynnodd Ariannell ar ei thaith 50 cilomedr gyda'i ffrindiau Lili, Elin ac Eldeg, a'i mam Sandra.

Dyma'r tro cyntaf i'r bump gymryd rhan yn y digwyddiad sy'n codi arian ar gyfer elusennau canser.

Ac er ei bod wedi llwyddo i ddod yn seithfed, dywed Ariannell mai mwynhau'r digwyddiad oedd ei nod:

"Mae llwyddiannau yn rhoi boost bach ychwanegol ond dwi'm yn teimlo 'mod i'n 'neud o i hynna.

"Efo'r She Ultra, pam wnes i weld pa mor agos o'n i at ei wneud o mewn llai na phump awr, wnes i feddwl wna i jest mynd amdani a thrio cyflawni hynny.

"Wnes i fynd allan ddydd Sadwrn jest i joio fo, oedd fy ffrindia' a Mam i gyd yn 'neud o er mwyn joio. Ac o'n i'n gwybod y baswn i'n gallu joio fo efo'r training o'n i wedi ei gael."

Hyfforddi yn y glaw ym misoedd tywyll y gaeafFfynhonnell y llun, Ariannell Parry
Disgrifiad o’r llun,

Hyfforddi yn y glaw ym misoedd tywyll y gaeaf

Beth yw ei chyfrinach wrth hyfforddi?

"Dwi wedi cael coach yn ddiweddar ac mae o'r peth gora' dwi wedi ei 'neud.

"Mae o'n rhoi gymaint o strwythur i fi, dwi'n rhedag quality not quantity felly dwi ddim yn rhedag llwyth mewn wythnos.

"Cysondeb sy'n bwysig. Dwi wedi bod allan mewn gwynt, glaw, bob math o dywydd dros y gaeaf, ac wedi bod i fyny fy mhen-gliniau mewn dŵr!"

Mam a merch yn cefnogi ei gilydd

Mae merched yn cefnogi merched yn rhan fawr o ethos She Ultra, sy'n codi arian ac ymwybyddiaeth at ganser sy'n effeithio merched.

Ac fe gefnogodd Ariannell a Sandra ei gilydd fel mam a merch ar y diwrnod hefyd.

"Wnes i ffonio Mam yng nghanol y ras i ddeud bo' fi 'di gorffan a nath hi ddechra beichio crio.

"Oedd rhaid iddi fynd off y ffôn achos doedd hi methu rhedag, crio ac anadlu!"

Ar ôl croesi'r llinell derfyn ger canolfan hwylio Plas Heli a dod dros y wefr o ddod yn seithfed roedd Ariannell am roi nerth i'w mam i orffen y cwrs.

"Oedd Mam yn teimlo bach yn isal yn diwadd felly ges i shower, wedyn es i gwrdd â hi wrth ymyl Wetherspoons i gerddad yn ôl efo hi, i gael hi dros y llinell. Ro'n i mor prowd o Mam.

"Aethon ni adra i gael big, fat Chinese takeaway i ddathlu efo'r teulu i gyd."

Ariannell a'i mam, SandraFfynhonnell y llun, Ariannell Parry
Disgrifiad o’r llun,

Ariannell a'i mam, Sandra

Sut mae Ariannell yn teimlo am ei llwyddiant erbyn hyn ac ydy ei choesau hi'n brifo?

"Dwi mor hapus a mor falch. Dwi isio 'neud rhywbeth mwy 'wan. Ac mae'r training wedi gweithio achos dwi'n teimlo'n ocê ac wedi bod 'nôl yn rhedeg."

Yr her nesaf i Ariannell yw Marathon Caeredin ym mis Mai.

Beth yw ei chyngor i ferched sy'n awyddus i gymryd rhan yn y She Ultra flwyddyn nesaf?

"Ewch allan a rhedeg neu gerdded ychydig bach bob wythnos. Daliwch ati a jest seiniwch fyny iddo fo achos mae o'n ddigwyddiad neis a phawb yn hybu ei gilydd."

Ariannell (dde) gyda'i ffrindiau ar ddiwedd y She UltraFfynhonnell y llun, Ariannell Parry
Disgrifiad o’r llun,

Ffrindiau balch: Lili, Elin, Eldeg ac Ariannell (dde) ar ddiwedd y She Ultra

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig