Lluniau: Cefnogwyr Caernarfon a Fflint

  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwrnod braf yng Nghasnewydd ddydd Sul fe lwyddodd CPD Caernarfon i ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.

Roedd miloedd o gefnogwyr Fflint a Chaernarfon wedi teithio lawr i dde Cymru i fod yn rhan o'r achlysur.

3-0 oedd y sgôr terfynol, gyda'r Cofis yn sgorio'r goliau i gyd yn yr 20 munud agoriadol.

Er gwaetha'r sgôr roedd cefnogwyr Fflint mewn hwyliau da, a'r Cofis yn dathlu drwy gydol y gêm, dyma luniau o'r rheiny deithiodd i Gasnewydd i wylio'r gêm.

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Caernarfon yn cyrraedd Rodney Parade

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Fflint yn barod am y gêm

CefnogwrFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwr hyderus cyn y gic gyntaf

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Bws cefnogwyr y Fflint yn cyrraedd Casnewydd

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Y Cofi Army y tu ôl i'r gôl

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr y Fflint cyn y gic gyntaf

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Dafydd IwanFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan yn perfformio 'Yma o Hyd' a'r Anthem Genedlaethol cyn y gêm

CefnogwrFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Caernarfon yn canu Hen Wlad fy Nhadau

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwr Fflint yn dangos ei liwiau

Matty JonesFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Matty Jones yn sgorio ail gôl Caernarfon ac yn rhedeg at y Cofi Army i ddathlu

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn dathlu gôl

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mwy o ddathlu o ochr y Cofis

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Y Fflint wedi eu syfrdanu gyda'r sgôr

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Y Fflint yn yr heulwen

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Caernarfon yn dal i ganu gyda'r chwiban olaf yn agosau

Cefnogwyr Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o faneri trawiadol wedi eu creu gan gefnogwyr o'r ddau glwb

CaernarfonFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Darren Thomas, Y Cofi Messi yn codi Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb

CaernarfonFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Caernarfon a'r rheolwr ac hyfforddwyr yn dathlu gyda'r Cofi Army ar ddiwedd y gêm

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.