Llofrudd i roi sampl DNA newydd 30 mlynedd wedi marwolaethau Lin a Megan Russell

Dr Lin Russell a'i merch Megan, sy'n marchogaeth ceffylFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Lin Russell a'i merch chwech oed, Megan ychydig fisoedd wedi iddyn nhw symud o Ddyffryn Nantlle i Gaint

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd y dyn a gafwyd yn euog o lofruddio Lin a Megan Russell, ond sy'n mynnu na wnaeth eu lladd, yn rhoi samplau DNA newydd, union 30 mlynedd wedi i'r ddwy gael eu curo i farwolaeth.

Cafwyd hyd i gyrff y fam 45 oed a'i merch fach chwech oed yng Nghaint ar 9 Gorffennaf 1996, ac fe gafodd ei merch arall, Josie, oedd yn naw oed ar y pryd, ei gadael fel pe tai'n farw gydag anafiadau pen difrifol.

Roedd y teulu newydd symud i Gaint o Wynedd, ac fe ddychwelodd Josie gyda'i thad wedi'r ymosodiadau i fyw yng Nyffryn Nantlle, ble mae hi bellach yn ennill bywoliaeth fel arlunydd.

Cafodd Michael Stone dri dedfryd o garchar am oes, ond mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CAAT) yn ailystyried tystiolaeth yr achos wedi adroddiadau bod person arall yn cyfaddef i'r llofruddiaethau.

Bydd Stone yn rhoi samplau DNA newydd ddydd Iau.

Roedd Dr Russell a'i dwy ferch ifanc yn cerdded ar lôn wledig yn Chillenden cyn yr ymosodiad ble cawson nhw eu clymu, cael mwgwd dros eu llygaid â'u bwrw gyda morthwyl hollt.

Y gred i ddechrau oedd bod Josie wedi marw hefyd - dyna ddywedwyd yn y lle cyntaf wrth ei thad, Dr Shaun Russell ddiwrnod yr ymosodiad.

Roedd hynny cyn i blismon yn safle'r ymosodiad sylwi ar Josie'n symud ac wedi goroesi.

Roedd yna sylw ledled y byd ar y cyfryngau i'r marwolaethau a'r ymgyrch i ddal eu llofrudd.

Michael StoneFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Stone yn mynnu o'r dechrau na wnaeth ymosod ar Lin, Megan a Josie Russell, er i lys ei gael yn euog ddwywaith o lofruddio a cheisio llofruddio

Cafwyd Stone yn euog o ddau gyhuddiad o lofruddio ac un o geisio llofruddio ar ddau achlysur - yn 1998, ac yna yn 2001 wedi i'r Llys Apêl ddiddymu'r euogfarn wreiddiol yn sgil amheuon dros un o dystion yr erlyniad.

Cafodd cais i CAAT ei wrthod yn 2010, ynghyd â chais i gael adolygiad barnwrol o'r penderfyniad hwnnw yn 2011.

Mae Stone a'i dîm cyfreithiol wedi mynnu o'r dechrau ei fod yn ddieuog.

Ond yn 2023, cadarnhaodd CAAT y byddai collfarnau Stone yn cael eu hadolygu, yn sgil adroddiadau bod y llofrudd lluosog Levi Bellfield - a laddodd y ferch ysgol Millie Dowler, ymhlith eraill - wedi cyfaddef i'r troseddau yng Nghaint.

Ymatebodd cyfreithiwr Stone, Paul Bacon, bryd hynny: "Tra bod Mr Bellfield wedi cyfaddef [ei euogrwydd] dro ar ôl tro, mewn gwirionedd yr unig wir benderfyniad fydd petai proffil DNA ef neu rywun arall yn dod i'r amlwg ymhlith yr eitemau sydd eto i gael eu profi'n iawn."

Llun o Shaun, Lin, Megan a Josie RussellFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dr Shaun Russell gyda Lin, Megan a Josie mewn bwyty yn 1996 a gafodd ei rannu gan Heddlu Caint

Gan fod gwyddoniaeth fforensig wedi datblygu gymaint ers cyfnod yr ymchwiliad heddlu gwreiddiol, gobaith tîm cyfreithiol Stone yw y gallai profion newydd ganfod DNA person arall a phrofi ei fod yn ddieuog.

Yn 2021, awgrymodd cyfreithwyr Stone bod posib canfod tystiolaeth DNA ar garrai esgid oedd yn safle'r ymosodiad.

Bryd hynny, dywedodd ei gyfreithiwr: "Roedd wir yn ddarn allweddol o dystiolaeth. Cafodd ei defnyddio i dagu un o'r unigolion.

"Nid darn o dystiolaeth yn unig mohono - roedd yn arf i lofruddio."

Dywed y cyfreithwyr bod DNA Stone heb ddod i'r fei ar ddarnau tystiolaeth allweddol yn ystod profion diweddar, gan gynnwys y carrai.

Cadarnhaodd CAAT y bydd Stone yn rhoi samplau newydd yn ystod ymweliad â'r carchar ddydd Iau, sy'n 30 mlynedd union i ddiwrnod yr ymosodiadau ar Lin a Megan Russell.

Bu'n rhaid i Josie ddysgu o'r newydd i siarad yn ystod ei hadferiad yn dilyn yr ymosodiad, ac mae hi bellach yn gwneud enw i'w hun fel arlunydd tecstiliau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig