'Y cylch yn llawn' i Aleighcia Scott ar ôl cynnwys ei chân mewn arholiad i bobl ifanc

Aleighcia ScottFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi mor hapus i weld hwn," meddai'r gantores o Gaerdydd

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores reggae a'r cyflwynydd Aleighcia Scott yn dweud ei bod "mor hapus" ar ôl darganfod bod un o'i chaneuon yn rhan o arholiad Safon Uwch mewn drama.

Fe ddechreuodd Aleighcia ddysgu Cymraeg pedair blynedd yn ôl, ac fe wnaeth hi ryddhau ei sengl gyntaf yn y Gymraeg - 'Dod o'r Galon' - y llynedd.

Mae'r sengl, sef y gân Gymraeg cyntaf i gyrraedd brig siartiau reggae iTunes, bellach yn destun trafod ar gyfer adroddiad mewn arholiad drama, meddai'r gantores wrth rannu llun o'r papur arholiad ar ei chyfrifon cymdeithasol.

Wrth rannu'r llun dywedodd: "Pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg pedair blynedd yn ôl, rhan o fy nod oedd annog cymaint o bobl â phosib i ddechrau dysgu a defnyddio Cymraeg cymaint â phosib.

"Fe wnes i ddarganfod yn ddiweddar bod fy sengl gyntaf yn y Gymraeg yn rhan o un o gwestiynau yn yr arholiad drama Lefel-A... BETH?!"

Ychwanegodd ei bod "mor, mor ddiolchgar am yr iaith Gymraeg".

Wrth siarad gyda Cymru Fyw fe ychwanegodd: "Dwi mor hapus i weld hwn.

"Mae mor bwysig i fi weld yr iaith Gymraeg yn rhan o bopeth ac mae'n lush i fod yn rhan o hwn hefyd."

Dywedodd ei bod yn teimlo bod y "cylch yn llawn" ers "dechrau pedwar blwyddyn yn ôl a nawr i weld rhywbeth fel hwn digwydd - arddechog!"

Mae Aleighcia'n dod o Gaerdydd ac o dras Jamaicanaidd, gyda'i mamgu a'i thadcu wedi dod o Trelawny fel rhan o'r genhedlaeth Windrush yn 1961.

Yn gynharach eleni, siaradodd hi am ei phrofiad o ddysgu Cymraeg, gan sôn am bwysigrwydd cynhwysiant.

Dywedodd hefyd bod dal lle i wella: "Mae pobl yn dweud yn aml fod hi'n neis i weld pobl fel fi yn y gofodau yma, ond dwi'n sicr yn teimlo fod angen mwy o bobl fel fi i gael eu gweld.

"Dyna ran o'r rheswm pam dwi'n gwneud beth dwi'n gwneud, fel fod pobl ifanc yn gallu gweld bod nhw'n gallu bod fel y pobl maen nhw'n gweld.

"I fi mae'n bwysig mod i yn y llefydd yma, ac mae'n bwysig mod i'n siarad am y pethau dwi'n gwneud achos fel arall dwi'n teimlo fydden nhw ddim yn cael eu trafod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.