Ymchwiliad heddlu wedi i gorff dyn gael ei dynnu o lyn ger Llanrwst

Llyn Geirionydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i Lyn Geirionydd am 21:17 nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad wedi i gorff dyn, 21 oed, gael ei dynnu o Lyn Geirionydd ger Llanrwst.

Dywedodd llefarydd bod plismyn wedi cael eu galw yno am am 21:17 nos Fawrth wedi adroddiadau am "ddigwyddiad".

Hefyd yn bresennol roedd y gwasanaeth tân ac achub, gwasanaeth awyr yr heddlu, tîm achub mynydd a thîm chwilio tanddwr.

Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod.