Prif Weinidog Cymru wedi trafod annibyniaeth gyda Starmer

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod am arwain "sgwrs genedlaethol" am annibyniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau ei fod wedi trafod annibyniaeth Cymru o'r Deyrnas Unedig gyda Phrif Weinidog y DU Keir Starmer mewn galwad ffôn yr wythnos diwethaf.
Yn ei ymddangosiad cyntaf yn y Senedd ers iddo dyngu llw i arwain Llywodraeth Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod am arwain "sgwrs genedlaethol" am annibyniaeth.
Defnyddiodd ei ddatganiad cyntaf i Senedd Cymru i ddadlau dros fwy o bwerau a chyllid i sefydliadau Cymru, a nodi ei flaenoriaethau - gan gynnwys torri rhestrau aros a mynd i'r afael â thlodi plant.
Ond cyhuddodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, ef o dreulio gormod o amser ar "faterion cyfansoddiadol".
'Uchelgais ar gyfer fy nghenedl'
Mae Plaid Cymru wedi diystyru cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn nhymor cyntaf y llywodraeth, ond mae'r blaid wedi dweud y byddan nhw'n sefydlu comisiwn cenedlaethol a fydd yn edrych ar adeiladu'r achos dros Gymru fel gwladwriaeth ar wahân.
Siaradodd Mr ap Iorwerth â Syr Keir ddyddiau ar ôl ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad y Senedd, lle aeth Llafur Cymru o ddal hanner y seddi i lai na 10%.
Ar ôl yr alwad, roedd Llywodraeth Cymru yn honni fod y prif weinidog wedi bod yn "agored i sgwrs" ynghylch rhoi mwy o bwerau i'r Senedd.
Ond roedd eraill wedi mynegi syndod bod Mr ap Iorwerth wedi crybwyll annibyniaeth.
Starmer yn 'agored' i sgwrs ar ehangu pwerau'r Senedd - Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
'Gwario mwy o arian iechyd ar ddiwylliant a chwaraeon yn bosib'
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Pwy yw gweinidogion cabinet newydd Llywodraeth Cymru?
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Pan ofynnwyd iddo am y mater gan Dan Thomas o Reform ddydd Mawrth, dywedodd Mr ap Iorwerth wrth y Senedd ei fod wedi crybwyll y pwnc.
"Mae gen i lefel o uchelgais ar gyfer fy nghenedl, lle dywedais fy mod am arwain sgwrs genedlaethol gan greu'r hyder hwnnw yn ein gallu, yn ddiamau, i fod yn genedl annibynnol fel cynifer o wledydd eraill fel ein gwlad ni," meddai.
"Ond, dywedais wrth y prif weinidog, fel rydw i wedi'i ddweud drwy gydol fy amser mewn gwleidyddiaeth a byddaf yn parhau i wneud hynny, rydyn ni'n delio â'r materion rydyn ni'n delio â nhw nawr, ac rydyn ni'n gosod cyfeiriad y bydd yn rhaid i bobl Cymru benderfynu arno yn y pendraw ar ei llwybr a'i chyflymder ei hun."

Mae prydau ysgol am ddim yn ffordd effeithiol o fynd i'r afael â thlodi plant, meddai Plaid Cymru
Cadarnhaodd y prif weinidog hefyd y bydd gan bob disgybl ysgol uwchradd yng Nghymru, sydd â rhieni sy'n derbyn credyd cynhwysol, hawl i brydau ysgol am ddim o fis Medi ymlaen.
Mae'r penderfyniad ar brydau ysgol am ddim yn golygu y bydd Cymru yn cyd-fynd â Lloegr, ble mae'r gofyniad bod rhaid i aelwydydd ennill llai na £7,400 y flwyddyn i fod yn gymwys i gael y cymorth, yn cael ei ddileu o dymor yr hydref ymlaen.
Mae pob disgybl mewn ysgolion cynradd yng Nghymru eisoes yn derbyn prydau bwyd am ddim.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod ei gyhoeddiad yn "cefnogi dysgu myfyrwyr ac yn un gost yn llai i deuluoedd boeni amdani".
Ychwanegodd y bydd cynnig gofal plant newydd ei lywodraeth "yr un mwyaf hael yn hanes datganoli a'r DU", gan gynnwys 20 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn, i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024

- Cyhoeddwyd11 Mai 2023
