Gwynedd: Disgwyl penderfyniad ar gau dwy ysgol gynradd

Ysgol Baladeulyn
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond chwe disgybl sy'n mynychu Ysgol Baladeulyn, yn Nyffryn Nantlle

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd cynghorwyr yng Ngwynedd yn trafod cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd yn ardal Nantlle yn sgil pryderon am nifer y disgyblion.

Yn ôl adroddiad fydd yn cael ei drafod gan y cabinet brynhawn Mawrth, erbyn hyn dim ond chwe disgybl llawn amser sy'n mynychu Ysgol Baladeulyn a dim ond 10 yn Ysgol Nebo.

Gydag ymgynghoriadau cyhoeddus wedi'u cynnal yn y ddwy ardal dros y misoedd diwetha', argymhelliad swyddogion Cyngor Gwynedd yw y dylid cau'r ddwy ysgol erbyn 31 Rhagfyr eleni, dolen allanol.

Os caiff y cynigion sêl bendith cynghorwyr, byddai disgyblion Baladeulyn yn mynychu Ysgol Tal-y-sarn tra byddai disgyblion Ysgol Nebo yn symud i Ysgol Llanllyfni.

Nodir yn yr adroddiad bod sefyllfa'r ddwy ysgol "wedi bod yn fregus ers peth amser", gydag adeiladau Baladeulyn a Nebo yn 89% a 78% gwag.

Ar hyn o bryd mae'r sir yn gwario £16,066 fesul disgybl yn Ysgol Nebo a £25,123 fesul disgybl yn Ysgol Baladeulyn, sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd sirol o £5,998.

Yn ôl ffigyrau Cyngor Gwynedd mae 29% o ddisgyblion Ysgol Baladeulyn yn siarad Cymraeg yn rhugl adref tra bod y ganran yn Ysgol Tal-y-sarn yn 37%.

Ysgol Gynradd NeboFfynhonnell y llun, geograph.org.uk
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyfodol Ysgol Nebo, sydd gydag 10 disgybl llawn amser, hefyd yn y fantol

Mae hi'n stori debyg yn Ysgol Nebo lle mae 56% o blant yn siarad Cymraeg yn rhugl yn y cartref ac yn Ysgol Llanllyfni mae'r ganran yn 68%.

Byddai cau'r ddwy ysgol, medd y cyngor, yn golygu "mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol gyda'u cyfoedion tu mewn a thu allan i'r dosbarth, ac y byddai lefel bywiogrwydd y Gymraeg a'r defnydd anffurfiol o'r iaith yn gryfach".

'Nid cau yw'r unig ateb posibl'

Yn ymateb i adroddiad y swyddogion dywedodd y cynghorydd sir lleol, Peter Thomas, y byddai cau Ysgol Baladeulyn yn "ergyd drom i'r gymuned" ac ychwanegodd ei fod yn teimlo y byddai "cau ysgol arall yma yng Ngwynedd yn arwydd arall o'r heriau mae ein cymunedau yn ei hwynebu yng nghefn gwlad ein sir".

Ychwanegodd: "Os na fydd ysgol, yna fydd teuluoedd gyda phlant ddim yn ystyried prynu neu rentu tai yn Nantlle ac y byddai hynny yn arwain at leihad graddol yn y defnydd cymunedol o'r Gymraeg."

Yn hytrach, mae o'n ffafrio model o "drefniant cydweithio" gydag Ysgol Tal-y-sarn, o dan arweiniad un pennaeth a un corff llywodraethwyr gyda safle Ysgol Baladeulyn yn aros ar agor.

Hefyd wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd y Cynghorydd Dafydd Davies, sy'n cynrychioli ward Clynnog sy'n cynnwys Ysgol Nebo, ei fod yn "parhau yn glir iawn yn ei wrthwynebiad" i gau'r ysgol.

"Nid wyf yn anghytuno bod heriau yn bodoli yn Ysgol Nebo, ond nid wyf yn derbyn mai cau yw'r unig ateb posibl, nag o reidrwydd yr ymateb gorau yn y tymor hir," meddai.

"Rwyf yn annog y Cabinet i beidio â symud ymlaen i'r cam hysbysiad statudol ond yn hytrach ailystyried yr opsiynau amgen mewn modd gwirioneddol agored a rhoi ystyriaeth lawn i ddyfodol cynaliadwy Ysgol Nebo a'r gymuned mae'n ei gwasanaethu."

Mae'n parhau i gefnogi galwadau y corff llywodraethol i ddatblygu Ysgol Nebo fel "darpariaeth arbenigol i gefnogi plant gydag anghenion cymdeithasol, emosiynol a llesiant".

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod y cynigion i gau'r ddwy ysgol mewn cyfarfod brynhawn Mawrth.

Os bydd y cynigion yn cael eu cymeradwyo, bydd rhybuddion statudol yn cael eu cyhoeddi a'r disgwyl yw y bydd y ddwy ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr eleni.

Byddai'r disgyblion yn symud i'w hysgolion newydd ym mis Ionawr 2027.

Pynciau cysylltiedig