Mared Lenny: 'Dwi ddim yr un person ar ôl canser'

- Cyhoeddwyd
"Mae cael dy benglog di wedi agor ddwywaith yn beth enfawr a dwyt ti ddim yr un person ar ôl hynny, ti ddim yn gallu bod."
Roedd Mared Lenny yng nghanol ysgrifennu albwm olaf ei band Swci Boscawen yn 2010 pan gafodd hi ddiagnosis o ganser yr ymennydd wnaeth chwalu ei byd.
Wedi llawdriniaeth yn 2010 mi ddaeth y canser yn ôl yn 2020 pan oedd yr artist o Gaerfyrddin newydd gael baban bach oedd yn bump wythnos oed.
Bu Mared yn trafod byw gyda'r cyflwr a sut mae'r canser wedi gorfodi iddi newid byd wedi iddi golli ei dawn am ganu a chyfansoddi.
Meddai: "Dwi wedi bod yn byw gyda canser yr ymennydd ers 16 mlynedd ac fe wedon nhw'n wreiddiol gyda'r gradd a teip y tiwmor a'r ffaith bod e'n malignant, mwy na thebyg bod gyda fi 18 mis.
"Pan ti'n 26 ac yn clywed hynna mae'n llosgi dy fywyd lawr i ddim.
"O'n i'n gweithio ar albym pan 'nes i collapsio yn 2010. Pan es i nôl ato y flwyddyn ganlynol oedd y cerddoriaeth ddim yr un peth i fi. Ar ôl y llawdriniaeth roedd beth bynnag oedd yn neud i fi greu y cerddoriaeth wedi mynd.
"Trwy achub fy mywyd i roedd rhaid i fi gydnabod dyw'r gerddoriaeth ddim yn rhywbeth i fi rhagor.
"Daeth y canser nôl chwe mlynedd yn ôl yn locdown ac oedd rhaid i fi gael triniaeth go hegr am yr ail dro ond y tro yma gyda babi newydd. Dyma 'part two' fel ni'n galw fe yn teulu ni."

Newid byd
Newidiodd Mared ei bywyd pan gafodd hi'r diagnosis am y tro cyntaf yn 2010 gan newid ei harferion o gigio, nosweithau hwyr ac alcohol am fywyd o fwyta'n iach, ymarfer corff a thriniaeth gan y GIG mae hi'n disgrifio fel 'y gofal mwyaf anhygoel'.
Meddai: "Os mae rhywun yn dweud wrtho ti bod bosib gen ti 18 mis ar ôl i fyw ti'n mynd i newid.
"Fe ges i 10 mlynedd o ennill yn erbyn y cyflwr. Dwi byth yn mynd i gael yr all clear a dwi byth yn mynd i fod mewn remission a dwi'n cael fy sganio bob chwe mis.
"Dwi'n byw gyda'r cyflwr a dwi'n ennill ar hyn o bryd. Dwi wastad wedi gwybod bydde fe yn dod nôl ar rhyw adeg.
"O'n i newydd ddathlu 10 mlynedd ac falle yn temptio ffawd braidd ac yn disgwyl babi.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn – mae 130 gwahanol math o diwmor yr ymennydd ac mae ffactorau fel dy oedran di, pryd maen nhw wedi dal e ac os wyt ti'n ffit yn y lle cyntaf yn ffactorau. 'Nes i drawsnewid fy mywyd yn llwyr."
Doedd dim byd fyddai wedi gallu paratoi Mared am y canser yn dychwelyd yn y cyfnod clo, serch hynny: "Oedd 'da fi babi pump wythnos oed pan ddaeth y canser nôl – 'sen i'n amau bod e'n mynd law yn llaw gyda hormonau a newid byd dramatig so dyna lle o'n i.
"Dwi dal methu credu y cyfnod yna - y blwyddyn lle ges i babi yn lockdown a llawdriniaeth ar yr ymennydd eto o fewn tri mis. Mae fel hunllef ti ffaelu neud lan.
"O'n i'n lwcus o ran gŵr a theulu a ffrindiau anhygoel 'nath gario fi trwyddo.
"Mae wedi bod yn reid wyllt."

Mared gyda Ifan Davies, cyflwynydd 3 Cân a chanwr gyda'r band Sŵnami
Cerddoriaeth
Yn berfformwraig oedd yn adnabyddus am ganu caneuon fel Adar y Nefoedd a Couture C'Ching, mae Mared yn ymddangos mewn cyfres newydd S4C o'r enw 3 Cân ym mis Mehefin i drafod ei gwaith.
Yn y rhaglen ar 3 Mehefin mae'n trafod yr ysbrydoliaeth tu ôl i'w chân eiconig Adar y Nefoedd wnaeth hi gyfansoddi yn 21 oed.
Meddai am y sengl oedd yn 'B side' yn wreiddiol: "Mae'n od achos mae'n gân oedd yn wahanol i beth o'n i'n arfer perfformio a recordio.
"On i'n chwarae gyda arbrofi 'da gwahanol genres o electropop ac yna'n mynd i rhywbeth fel Adar y Nefoedd sy' mwy fel rhyw fath o emyn.
"Dwi wastad wedi caru hanes ac yn darllen lot am dywysogion a thywysogesau Cymru ar y pryd ac yn amlwg tywysogion sy' wastad wedi cael y main billing.
'Dianc' i 'sgwennu caneuon wrth wynebu triniaeth canser y fron
- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl
"O'n i wedi colli cwpl o bobl yn fy mywyd go iawn a theimlo mod i ishe neud rhyw fath o gân yn cyfuno'r teimlad o'r angen i gofio pobl o'n i'n 'nabod oedd wedi marw.
"Ond hefyd y bobl o'n i ddim yn 'nabod fel y tywysgesau oedd wedi dod o 'mlaen i.
"Mae'n gân sy' wedi golygu rhywbeth i lot o wahanol bobl a hynna yw'r prif beth i fi."

Troi at gelf
Ers ei thriniaeth gyntaf yn 2010 mae Mared wedi gorfod troi ei chefn ar gerddoriaeth, fel mae'n sôn: "Dwi methu ysgrifennu cân nawr a methu canu.
"Mae bod rownd sŵn yn ffactor enfawr hefyd. Se i gallu mynd i gigs rhagor."
Dechreuodd Mared ei gyrfa mewn celf ar ôl bod mewn gweithdy yn yr uned canser yn Abertawe ac mae erbyn hyn yn artist sy'n adnabyddus am ei steil lliwgar, seicadelig sy'n deillio, meddai, o'r newid yn ei hymennydd ers ei llawdriniaeth.
Meddai: "Daeth y celf ac achub fy mywyd i ac achub fy enaid creadigol i. Yn amlwg mae cerddoriaeth a celf yn mynd law yn llaw ond os mae un darn o dy ymennydd yn cael niwed mae'r ochr arall yn overcompensateio."
Mae Mared yn falch ei bod hi'n ddigon cryf i siarad am y cyflwr ac i gyfleu ei neges: "Mae'n ril bwysig i fi ddweud bod cwpl o ni mas 'ma yn byw gyda'r cyflwr yma. Ti byth yn clywed am y bobl 'na sy'n byw gyda fe. Mae'n bwysig bod ni'n dweud dwi dal yma, dal yn brwydro.
"Pan wnaeth fy mywyd i newid o'n i'n teimlo fel tŷ teras wedi llosgi lawr i brics a peips ac yn teimlo sut yn y byd wyt ti'n delio gyda hyn?
"Ond gydag amser achos 'mod i ddim yn gigio ac yn neud cyfweliadau o'n i'n teimlo mod i wedi cael fy anghofio, bod y byd wedi gadael fi ar ôl.
"Mae gallu cael y cyfle i drafod y cerddoriaeth ac yn enwedig cân mae pobl yn dal i hoffi yn teimlo fel dyw pobl ddim wedi anghofio amdanai."
3 Cân, pob nos Fercher am 21:00 ar S4C neu ar BBC iPlayer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2017

- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
