Ydy hi'n bryd addasu cerddoriaeth werin i ddenu cynulleidfa newydd?

Kathy OakwoodFfynhonnell y llun, Kathy Oakwood
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Kathy Oakwood yn benderfynol o wneud rhywbeth y mae hi'n teimlo'n cwbl angerddol amdano, sef dod â cherddoriaeth werinol a thraddodiadol Cymreig i gynulleidfa ehangach.

Cafodd Kathy ei magu yn ardal Manceinion, ond fe ymgartrefodd yn Sir Gâr ar ddiwedd yr 1980au, gan ddisgyn mewn cariad â'r ardal a dysgu Cymraeg.

Prosiect Dadeni

"Mae'r prosiect yma (Dadeni) yn agos iawn i fy nghalon i ddweud y gwir," eglurodd. "Dwi 'di gwirioni â phob math o cherddoriaeth gwerin ers blynyddoedd.

"Symudais i Sir Gaerfyrddin pan o'n i'n dipyn o hippie, ac odd yr ardal yn cael ei alw'n Tipi Valley – cymuned o hippies ger Llandeilo."

Daw Kathy o Stockport yn wreiddiol, a phan yn blentyn roedd hi'n mynd ar wyliau i Ben Llŷn a chlywed y Gymraeg.

O ganlyniad, dywedai ei bod yn caru'r iaith Gymraeg a phan symudodd yma yn 1989 fe benderfynodd ei dysgu. Roedd hi'n byw ym mhentref Carmel ar y pryd.

"Pan ddes i yma gyntaf ro'n i'n ceisio ffeindio gwraidd cerddoriaeth gwerin Cymraeg.

"Mae cerddoriaeth werin yn gallu disgrifio bywyd cenedl, a Chymru yw Gwlad y Gân wrth gwrs."

GitarFfynhonnell y llun, Getty Images

"O'n i'n gwneud lot gyda cherddoriaeth traddodiadol o Iwerddon a'r Alban, ac yn meddwl i fy hun pam nad oedd cerddoriaeth gwerin Cymraeg mor fywiog a phoblogaidd â rheiny?"

Dywed Kathy ei bod hefyd wedi cael ysbrydoliaeth gan draddodiadau Llydaweg, gan weld drosti ei hun pa mor boblogaidd yw canu gwerin yno, a pha mor greadigol y mae pobl ifanc gyda'r math yna o gerddoriaeth.

"Dwi'n deall ei fod yn hynod bwysig i gadw'r iaith a'r diwylliant gyda'r gerddoriaeth, ond weithiau mae'n gallu rhwystro pobl i fod yn greadigol gyda fe.

"Mae'r holl gerddoriaeth Gymreig traddodiadol wedi ei gadw neu diogelu yn y Gymraeg, a dydi'r puryddion heb adael i bobl chwarae o gwmpas gyda fe i fod yn onest, a dwi 'di dod ar draws hyn dro ar ôl tro.

"A dwi'n deall pam, mae'r Gymraeg dan fygythiad - er i'w gymharu efo'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban mae'r Gymraeg yn gwneud yn eithriadol o dda!"

Mae Kathy o'r farn bod rhai agweddau o ddiwylliant Cymru'n dioddef mwy na'i gilydd, yn enwedig o fewn y byd dawns.

"Mae elfennau arall hefyd, achos yn Llydaw er enghraifft mae 200 neu 300 mewn Fest-Noz (parti Llydaweg traddodiadol gyda llawer o ddawnsio), ond 'dan ni'n stryglo i gael 20 i dwmpath dawns yng Nghymru, a bydd y cyfan yn diflannu os nad ydyn ni'n atynnu mwy o bobl ifanc."

Ffactorau hanesyddol

Daeth newidiadau yn niwylliant Cymru yn y 19eg ganrif a gafodd effaith ar draddodiadau gwerin, eglurai.

"'Nes i astudio lot ar hanes Cymru blynyddoedd yn ôl, ac roedd gennych chi bethau fel Brad y Llyfrau Gleision 'naeth niweidio sawl agwedd o'r gymdeithas.

"Dwi'n teimlo bach yn euog achos bod un o'r rhai a sgwennodd yr adroddiad (Jelinger Cookson Symons) â'r un cyfenw â fi cyn imi briodi - Symons, felly dwi yma i gywiro gweithredoedd fy nghyndeidiau!" meddai Kathy dan chwerthin.

Cafodd y mudiad dirwestol effaith ar ganu gwerin, fel esboniai Kathy:

"Cafodd nifer o'r caneuon gwerin eu newid i emynau, ond wrth gwrs fe gollwyd nifer fawr hefyd."

Kathy OakwoodFfynhonnell y llun, Kathy Oakwood
Disgrifiad o’r llun,

Kathy Oakwood

Dywed Kathy mai ei hamcan hi gyda'r prosiect Dadeni yw i ddod â canu gwerin Cymreig, yn y Gymraeg a'r Saesneg, i gynulleidfa cwbl newydd.

"Dwi'n defnyddio'r dull macaronic i addasu cytganau adnabyddus fel y Fwyalchen, gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, a chreu fersiwn fy hun.

"Ers 2023, dwi wedi bod yn cydweithio gyda Mike Forwood, cynhyrchydd cerddoriaeth o Rydaman, sydd wedi gweithio ar brosiectau tebyg gyda cerddoriaeth gwerin yn Yr Alban

"Dwi hefyd wedi cydweithio gyda thiwtor cerddoriaeth o Goleg Gŵyr, yr hanesydd Wyn Thomas (sy'n canu ac yn chwarae'r gitâr), a cherddor ifanc o Ffrainc o'r enw Setondji, sydd yn gwbl wych."

Perfformio cerddoriaeth newydd

Felly, beth mae Kathy yn bwriadu ei wneud gyda'i cherddoriaeth werin newydd? Recordio? Perfformio'n fyw ledled Cymru?

"Dwi ddim yn rhagweld be' 'dan ni'n ei wneud yn dod yn 'boblogaidd', yn yr ystyr dwi am ei gadw yn y traddodiad gwerinol. Ond bydde'n dda perfformio mewn gwyliau lleol - dwi'n 60 oed a ddim am deithio ledled Cymru yn perfformio.

"Rwy'n dipyn o rebel, a phan ma' rhywun yn dweud bod nhw ddim yn cytuno efo rhywbeth dwi'n wneud dwi eisiau ei wneud hyd yn oed yn fwy!

"Mae llawer o fy lyrics yn Saesneg yn ymwneud â'r amgylchedd hefyd, achos mae hynny'n rywbeth agos iawn i fy nghalon i hefyd."

Dywed Kathy ei bod yn agored ac yn llawn cyffro i'r posibiliadau newydd all ddeillio o'r prosiect newydd, ac mae hi'n benderfynol o ddod â cherddoriaeth werin Cymreig i gynulleidfa gwbl newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig