'Dianc' i 'sgwennu caneuon wrth wynebu triniaeth canser y fron

Fe orffennodd Lisa ei thriniaeth fis Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae un fenyw o Sir Benfro wedi defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o ymdopi gyda thriniaeth canser y fron.
Cafodd Lisa Haf Davies ddiagnosis o ganser y fron, ac yn ystod y cyfnod anodd hwnnw, fe wnaeth hi gychwyn cyfansoddi alawon.
Dywedodd fod y cyfansoddi yn "rywbeth i ddianc iddo fe, ac yn rhywbeth i ffocysu arno," yn enwedig am nad oedd yn gallu gweithio yn ystod y driniaeth.
Mae bellach yn rhannu ei chaneuon ar dudalen Instagram.

Mae gan Lisa ddau o blant, a dywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at y dyfodol"
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Lisa i'r cyfan gychwyn pan oedd hi'n "mynd trwy'r driniaeth cemotherapi ac imiwnotherapi".
"Ro'n i wedi cael syniad i gyfansoddi carol Nadolig ar gyfer yr ysgol gynradd lle mae 'mhlant i'n mynychu, ro'n i eisiau sgwennu carol iddyn nhw gystadlu yng nghystadleuaeth Carol yr Ŵyl.
"Do'n i ddim wedi ysgrifennu unrhyw fath o gerddoriaeth ers o'n i'n astudio cerddoriaeth yn Lefel A, a dwi'n mynd i fod yn 40 eleni, felly roedd hwnna blynyddoedd, blynyddoedd yn ôl," meddai.
Dyna wnaeth "danio'r sbarc" iddi, gan ychwanegu fod y cyfansoddi yn "rhywbeth 'na'th helpu fi yn ystod y cyfnod lle o'n i'n mynd trwy'r driniaeth, ro'n i'n sort of myfyrio a meddwl am syniadau."
"Roedd e'n rhywbeth i ddianc iddo fe, ac yn rhywbeth i ffocysu arno achos yn mynd trwy'r driniaeth, gorffes i stopio gweithio ac oedd lot o amser rili, ro'n i jyst ishe pasio'r amser, lladd amser, ac roedd e'n rhywbeth neis i allu dianc iddo fe."
Dywedodd ei bod yn "dal i fynd drwy'r driniaeth pan ro'n i'n mynd mewn i'r ysgol ac i helpu'r ysgol gyda'r garol Nadolig, ond nes i rili fwynhau hwnna a 'na'th e jyst arwain at agor llifddorau a daeth llwyth o ganeuon arall a syniadau arall".
'Ymateb wedi bod yn hyfryd'
"Ar ôl i'r driniaeth orffen ym mis Rhagfyr 2025, nes i rili fynd ati wedyn i wireddu rhai o'r syniadau yna.
"Es i brynu piano a dechrau tudalen Instagram a rhannu rhai o'r caneuon achos ro'n i'n meddwl ma' rhaid i fi wneud rhywbeth gyda'r syniadau."
Er iddi ddweud fod cerddoriaeth wedi chwarae rhan allweddol wrth ymdopi â'r driniaeth, dywedodd ei bod yn gobeithio gweld mwy o driniaethau holistig yn digwydd law yn llaw â thriniaeth cemotherapi.
Wrth sôn am y dudalen Instagram dywedodd fod yr "ymateb wedi bod yn hyfryd".
"Dwi wedi dechre tudalen [instagram] o sgratch, ac mae e wedi tyfu yn go gloi.
"Dwi'n reit browd nawr, ma' bron mil o ddilynwyr a dwi'n cael rhai ymatebion hyfryd.
"Dwi'n credu bod pobl yn gwerthfawrogi'r gerddoriaeth ac mae hynny yn annog fi wedyn i barhau i rannu mwy."
'Edrych ymlaen at y dyfodol'
Wrth sôn am ei hiechyd, dywedodd: "Dwi wedi gorffen y driniaeth, a dwi'n teimlo'n rili positif.
"Dwi mewn lle da yn emosiynol o ran fy iechyd meddwl i hefyd, ac yn edrych ymlaen at y dyfodol."
Bu Lisa hefyd yn trafod ei thriniaeth gyda'i chwaer, Mari Grug, a'i chyfnither, Elan ar y podlediad Lleisiau Cymru: 1 mewn 2.
Mae'r tair yn trafod y profiad swreal o fod yn cael triniaeth am ganser ar yr un pryd ac yn cymharu profiadau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.