Ateb y Galw: Iwan Tomos Kellett

- Cyhoeddwyd
Un o Fôn ydi Iwan Tomos Kellett ac mae ganddo ddiddordeb yn hanes ei fro.
Ar ôl astudio Cemeg a Gwyddorau Archaeolegol yng Nghaerdydd fe ddychwelodd i'w gynefin ac mae o nawr yn gweithio yn GeoMôn - Geoparc byd-eang UNESCO.
Yn ogystal â bod yn Ysgrifennydd Cymdeithas Lenyddol Bro Goronwy, mae Iwan yn barddoni.
Drwy gydol Mai, fo ydy Bardd y Mis Radio Cymru, felly dyma ychydig o gwestiynau i ddod i'w adnabod yn well.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Dwi'n cofio Dad, sy'n rhedeg chwarel galchfaen ym Moelfre, yn mynd â fi i weld dumptruck anferth gwyrdd oedd o wedi ei gael.
Dwi'n cofio claddu Tic-tacs dan dywod mewn lle chwarae yng Nghernyw efo fy nghefnder Dylan. Rhyw arbrawf gwyddonol oedd o dwi'n meddwl.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Golygfa o Fynydd Bodafon yn edrych dros Benrhoslligwy a Llaneugrad, ac Eryri yn y cefndir
Fedrwn i ddim dewis un. Mae 'na gymaint o lefydd ar draws y wlad sy'n fy nghyfareddu ond mae dau le dwi o hyd yn dychwelyd atyn nhw, Mynydd Bodafon a Chaerdydd.
Ar ben Mynydd Bodafon, neu'r 'Arwydd', fedra'i weld Eryri yn ei hanterth ac ar draws Ynys Môn i gyd.
Yng Nghaerdydd wedyn mae'r holl atgofion a ffrindiau a wnes i dros gyfnod hapus iawn yn y brifysgol. Dwi'n trio mynd 'nôl unwaith y mis erbyn hyn!
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Teg fyddai cyfaddef bod ambell i noson yn niwlog yn y cof ond mae ambell un yn aros.
Partïon teulu, dive bar yn Lincoln Nebraska, a nosweithiau lu yng Nghaerdydd. Ond mae'n debyg, mai un o nosweithiau'r Eisteddfod Gen oedd yr orau, lle mae teulu a ffrindiau o bob cwr o Gymru i'w cael mewn un lle.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Chwilfrydig, Brwdfrydig, Crwban.
Llysenw ydi'r olaf, sy'n disgrifio fi i'r dim. Weithiau'n extrovert, ac weithiau'n introvert tu fewn i'm cragen. Ychydig mwy na thri gair, sori!
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
'Da ni'n deulu da am bartis ac yn y blynyddoedd diweddar roedden ni fel wyrion ac wyresau wedi llwyddo i fod yn ddylanwadau drwg ar Nain Gibbard.
Dwi'n cofio ambell noson a hithau'n chwarae beer pong ac yn cymryd shot o Advocaat. Mae meddwl am rheiny o hyd yn dod â gwên.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Fe ddechreuais i astudio yng Nghaerdydd yn 2020. Yn y digwyddiad wyneb i wyneb gyntaf yn ôl wedi Covid, o flaen darlithfa lawn, syrthiais i'r llawr dros dâp melyn a du oedd fod i ddangos y pellter o ddwy fedr.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Fe gollon ni Nain Gibbard llynedd ac mae hiraeth mawr ar ei hôl o hyd.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Gwael iawn am gnoi ewinedd.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi'n hoff iawn o Billy Joel ac mae ei albwm The Stranger, yn cynnwys rhan fwyaf o fy hoff ganeuon, gwell fyth y fersiwn Legacy gan fod hwnnw'n cynnwys New York State of Mind hefyd.

Iwan a'i deulu yn Hyde Park i wylio Billy Joel yn fyw
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Mae 'na fwgan yn y cornel yma o Fôn, John Bodfel.
Bu'n byw yn y 17eg ganrif. Mae ei hanes yn ddifyr a llawn chwedlau o ddwyn tir, llofruddio, rhyfela. Cymêr go iawn yn hanes lleol Marian-glas.
Mae gen i gymaint o gwestiynau i ofyn iddo i ddatrys dirgelion hanes y Caerfryn yn Llaneugrad.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i dric parti, sef chwarae Piano Man ar y piano a'r harmonica yr un pryd.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Gan obeithio y bydd hi'n gynnes braf... diwrnod ar y traeth efo barbeciw, ffrindiau a theulu.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Dyma fi, fy mrawd a'm chwiorydd a dau o'm cefndryd wedi mynd am dro i Ddin Lligwy efo Nain.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fysa'n reit ddifyr treulio diwrnod fel gwyddonydd yn Antarctica.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd27 Ebrill
